|
|
|
|
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch ein tîm am ddim ar 0800 678 1678 neu anfonwch neges
ebost atom.
|
|
 |
|
| |

|
|
|
 |
 |
Cynlluniwyd y Gwasanaeth Property Portfolio Consolidator ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSLau) sydd am wella cywirdeb eu data, gan eu helpu i reoli eu heiddo'n fwy effeithlon, effeithiol a darbodus, yn unol â rheoliadau'r Awdurdod Gwasanaethau Tenant a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd canlyniadau'r gwasanaeth yn rhoi hyder i ddarpar fuddsoddwyr a darparwyr gwasanaethau ariannol i RSLau hefyd.
Mae'r ymarfer un-tro hwn yn rhoi dadansoddiad agored o'r holl deitlau cofrestredig lle mae'r RSL yn berchennog neu'n arwystlai. Mae'n datgelu cyfansymiau'r teitlau rhydd-ddaliol llwyr a phrydlesol, teitlau prydlesol da ac unrhyw deitlau meddiannol neu amodol (sydd bob amser yn bryder mawr i landlordiaid) ac mae'n diweddaru unrhyw gofrestri sy'n dangos disgrifiadau 'tir yn' neu 'rhif llain' ar hyn o bryd i gydsynio â ffeil cyfeiriad diweddaraf Swyddfa'r Post.
Rydym yn darparu'r holl gofrestri ar CD ynghyd â thaenlen sy'n amlinellu'r rhifau teitl, eiddo sydd o fewn, deiliadaeth, manylion perchennog a manylion arwystl. Rhoddir teitlau meddiannol ac amodol ar dab ar wahân gyda'r dyddiad 'cofrestrwyd ar', gan amlygu'r cyfle i uwchraddio teitlau 'mewn risg'.
Nodir unrhyw eiddo digofrestredig ac yna gellir eu cofrestru o dan ein cynllun gwirfoddol. Gallwn ddarparu cynrychioliad darluniol o'r stoc trwy gynllun eglurhaol neu bolygonau gofodol hefyd ac rydym yn paratoi gwasanaeth monitro er mwyn sicrhau y caiff RLSau'r wybodaeth ddiweddaraf bob amser.
|
|
|
|