E-wasanaethau busnes
E-wasanaethau busnes yw'n hystod o wasanaethau ar-lein sy'n cefnogi'r broses drawsgludo. Mae cwsmeriaid yn defnyddio E-wasanaethau busnes i wneud cais am wybodaeth o'r Gofrestr Tir, cyflwyno ceisiadau a rhyddhau morgeisi ar-lein. Mae'n bosibl cael gafael arnynt trwy ddwy sianel ar-lein, y porthol a Business Gateway.
Manteision
Mae manteision sylweddol i gwsmeriaid sy'n defnyddio un o'n sianeli electronig, yn hytrach na'r dull traddodiadol o gyflwyno cais ar bapur, megis:
- gwell cyflymder, sicrwydd a chywirdeb ceisiadau
- costau post is
- arbedion o ran amser, arian ac adnoddau
- llai o effaith ar yr amgylchedd
- llwybr archwilio electronig sy'n helpu i atal twyll.
Y gwasanaethau sydd ar gael
Mae E-wasanaethau busnes wedi'u rhannu'n dri grŵp. Mae pob grŵp o wasanaethau wedi'i lywodraethu gan gytundeb ar wahân.
- Gwasanaethau Gwybodaeth
Ceisiadau am wybodaeth o'r Gofrestr Tir dros y rhyngrwyd, megis chwiliadau o'r map mynegai, copïau swyddogol o’r gofrestr, cynlluniau teitl, chwiliadau swyddogol o'r gofrestr. Rhagor o wybodaeth. - Gwasanaethau Rhwydwaith
Cyflwyno ceisiadau penodol i newid y gofrestr dros y rhyngrwyd. Er enghraifft, gallwch newid enw perchnogion oherwydd priodas a dileu enw cydberchennog fu farw o'r gofrestr. Rhagor o wybodaeth. - Gwasanaethau Rhoddwr Benthyg
Gall rhoddwyr benthyg morgeisi ryddhau eu morgeisi dros y rhyngrwyd. Rhagor o wybodaeth.
Defnyddio E-wasanaethau busnes
Cyn eu defnyddio, rhaid gwneud cais a chael caniatâd i gael mynediad i bob grŵp o E-wasanaethau busnes rydych am ei ddefnyddio. Cewch fynediad i E-wasanaethau busnes trwy ein sianeli ar-lein am ddim: y porthol a Business Gateway. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer pob sianel yn amrywio. Mae cwsmeriaid newydd yn talu am eu ceisiadau E-wasanaethau busnes trwy ddebyd uniongyrchol newidiol.
Gwneud cais am E-wasanaethau busnes.
Y porthol
Y porthol yw ein llwyfan gwefan ddiogel a ddefnyddir i gael mynediad i E-wasanaethau busnes. Mae pob un o'n E-wasanaethau busnes ar gael trwy ein porthol. Rhagor o wybodaeth am y porthol.
Business Gateway
Mae Business Gateway yn galluogi system rheoli cais cwsmer i gyfathrebu'n uniongyrchol â'n systemau ni yn ddiogel. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau gwybodaeth ar gael trwy Business Gateway. Rhagor o wybodaeth am Business Gateway.
Gwybodaeth bellach
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am E-wasanaethau busnes yn ein modiwlau hyfforddiant ar-lein i gwsmeriaid. Cewch wybodaeth ddefnyddiol yn nodiadau cyfarwyddyd y porthol a rhan un a rhan dau o'r llawlyfr technegol hefyd.
Gwasanaethau electronig eraill
Gallwch gael copïau electronig o gofrestri teitl, cynlluniau teitl a chanlyniadau Flood Risk Indicator ar gyfer dros 23 miliwn o eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Gellir prynu copïau electronig a’u llwytho i lawr ar ffurf PDF trwy wasanaeth ‘Find a property’ i'r cyhoedd y Gofrestrfa Tir. Sylwer nad ydynt yn 'gopïau swyddogol'. Rhagor o wybodaeth Find a property.
Mynegai Prisiau Tai
Mawrth 2013: 259.8(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,793 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...


