logo_w

Cyfarwyddyd Ymarfer 29 – Cofrestru arwystlon cyfreithiol a gweithredoedd amrywio arwystl

Diweddarwyd: Hydref 2012

Diweddariad

Mae'r cyfarwyddyd hwn yn disodli argraffiad Hydref 2011. Ymhelaethwyd ar adran 4 i ymdrin â’r sefyllfa lle y mae arwystl wedi ei ddiogelu gan rybudd yn y gofrestr yn cael ei gwblhau wedi hynny trwy gofrestriad.

Cwmpas y cyfarwyddyd hwn

Mae'r cyfarwyddyd hwn yn rhoi cyngor ar gofrestru arwystlon cyfreithiol a gweithredoedd amrywio telerau arwystl cofrestredig yn y Gofrestrfa Tir. Mae wedi ei anelu at drawsgludwyr. Bydd staff y Gofrestrfa Tir yn cyfeirio ato hefyd.

1 Byrfoddau

Yn y cyfarwyddyd hwn:

‘arwystl’ yw morgais neu arwystl cyfreithiol dros dir

‘arwystl anghymeradwy’ yw arwystl heb gymeradwyaeth flaenorol Adran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa'r Gofrestrfa Tir

‘cwmni tramor’ yw cwmni heb ei gofrestru yn y DU

‘DCT 1925’ yw Deddf Cofrestru Tir 1925

‘DCT 2002’ yw Deddf Cofrestru Tir 2002

'RhCT 1925' yw Rheolau Cofrestru Tir 1925

‘RhCT 2003’ yw Rheolau Cofrestru Tir 2003

‘trawsgludwr’ yw unigolyn awdurdodedig o fewn ystyr adran 18 Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 sydd â’r hawl i ddarparu’r gwasanaethau trawsgludo y cyfeirir atynt ym mharagraffau 5(1)(a) a (b) Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, neu unigolyn sy’n cyflawni’r gweithgareddau yn rhinwedd eu dyletswyddau fel swyddog cyhoeddus. Mae hefyd yn cynnwys unigolyn neu gorff sy’n cyflogi, neu sydd ag unigolyn awdurdodedig o’r fath ymhlith eu rheolwyr, a fydd yn cyflawni neu’n goruchwylio’r gweithgareddau trawsgludo hyn (rheol 217A, RhCT 2003).

 

2 Cyflwyniad

Mae modd gwneud arwystl ar ffurflen CH1 yn unol â rheol 103, RhCT 2003. Nid yw'r ffurflen hon yn benodedig a gall rhoddwyr benthyg ddefnyddio arwystl wedi ei deilwrio i'w gofynion arbennig eu hunain. Atgynhyrchwyd Ffurflen CH1 fel Atodiad A i'r cyfarwyddyd hwn.

 

3 Ffurfiau arwystl cymeradwy

Er nad oes unrhyw beth yn RhCT 2003 sy'n cyfateb i reol 139, RhCT 1925, rydym yn dal i annog rhoddwyr benthyg i gael Adran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa'r Gofrestrfa Tir i gymeradwyo eu holl ffurflenni arwystl. Daw'r manteision canlynol o gymeradwyo arwystlon:

  • gall arwystlon cymeradwy gynnwys cais am gyfyngiadau safonol, gan osgoi'r angen am ffurflen RX1

  • gall arwystlon cymeradwy gynnwys cais i nodi ymrwymiad rhoddwr benthyg i roi benthyciadau pellach ar y gofrestr, gan osgoi'r angen am ffurflen CH2

  • bydd codau cyfrifiadurol yn dal i gael eu creu ar gyfer rhoddwyr benthyg gyda ffurflenni arwystl cymeradwy a fydd yn sicrhau bod yr enw a chyfeiriad(au) a gytunwyd ar gyfer gohebu â'r rhoddwyr benthyg unigol a chofnodion cyfyngiadau ac ymrwymiad priodol yn cael eu cofnodi'n gywir ar y gofrestr bob amser.

I gael manylion y broses gymeradwyo, gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 30 – Cymeradwyo dogfennau morgais.

 

4 Cais i gofrestru arwystl

Dylai cais i gofrestru arwystl gynnwys:

  • ffurflen gais AP1

  • ffurflen CH1, neu ffurflen arwystl rhoddwr benthyg. (Nid oes angen copi ardystiedig o'r arwystl, ond gweler adran 9 Ffurflen gais AP1 isod hefyd).

Peidiodd arwyddocâd cyfreithiol tystysgrifau tir neu arwystl pan ddaeth DCT 2002 i rym, ac ni ddylid eu cyflwyno gyda'r cais i gofrestru arwystl. Ni ddylech mwyach gyflwyno dogfennau morgais corfforedig trwy gyfeiriad yn yr arwystl ei hun (er enghraifft, rheolau cymdeithas adeiladu, amodau morgais, neu gytundeb benthyciad).

Trefn arwystlon cofrestredig, rhyngddynt eu hunain, yw’r drefn y cânt eu cofnodi mewn cofrestr unigol (adran 48(1), DCT 2002, rheol 101, RhCT 2003). Fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig i “gofnod yn y gofrestr unigol i’r gwrthwyneb”. Os ydych am i ni wneud cofnod wrth gofrestru arwystl i’r perwyl bod gan yr arwystl flaenoriaeth dros arwystl cofrestredig sy’n bodoli, dylech nodi’n glir yn y cais (ar ffurflen AP1 yn ddelfrydol) eich bod am wneud cofnod o’r fath fel rhan o’r cais. Mae’r canlynol yn enghraifft pryd y byddech, o bosibl, am wneud cofnod o’r fath.

  • Mae arwystl A yn cael ei greu cyn arwystl B (felly mae gan arwystl A flaenoriaeth dros arwystl B, fel y cyntaf o ran amser – adran 28(1), DCT 2002).
  • Caiff rhybudd ei gofnodi yn y gofrestr o ran arwystl A.
  • Wedi hynny, y mae arwystl B yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad – bryd hyn, effaith nodi arwystl A yw bod ei flaenoriaeth yn cael ei gwarchod fel pe bai yn erbyn arwystl B (adran 29(2)(a)(i), DCT 2002).
  • Yn hwyrach, mae arwystl A hefyd yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad.

Gellir dadlau bod cadw’r rhybudd o ran arwystl A gyfwerth â “chofnod yn y gofrestr unigol i’r gwrthwyneb” ac felly’n caniatáu i arwystl A gadw ei flaenoriaeth dros arwystl B. Ond efallai yr hoffech hefyd, wrth wneud cais i gofrestru arwystl A, wneud cais am gofnod sy’n darparu’n benodol i arwystl A gael blaenoriaeth dros arwystl B1. Mae’n debygol y byddwn yn anfon rhybudd o wrthwynebiad ar berchennog arwystl B cyn gwneud cofnod o’r fath.

1 Ni fyddwn yn tynnu ymaith y rhybudd o ran arwystl yn awtomatig wrth gwblhau grant yr arwystl hwnnw trwy gofrestriad wedi hynny, ond byddai’n ddoeth, wrth wneud cais i gofrestru’r arwystl, i nodi’n glir bod y rhybudd i barhau yn y gofrestr, er mwyn i hyn ddigwydd; gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 19 – Rhybuddion, cyfyngiadau a chofnodi buddion trydydd parti yn y gofrestr – 3.8.4 Rhybudd o ran arwystl sy’n cael ei gwblhau wedi hynny trwy gofrestriad.

 

5 Cais i gofnodi cyfyngiad

Rhaid gwneud cais am gyfyngiad ar ffurflen RX1 oni bai fod y cais am ffurf safonol o gyfyngiad ac yn cael ei wneud ym mhanel 7 ffurflen CH1, neu ei fod am ffurf safonol o gyfyngiad ar ffurflen arwystl gymeradwy (rheol 92, RhCT 2003).

Bydd unrhyw gais i gofrestru cyfyngiad mewn arwystl heb fod ar ffurflen CH1 a heb ein cymeradwyaeth flaenorol, neu i gofrestru cyfyngiad ansafonol a heb wneud y cais ar ffurflen RX1, yn cael ei anwybyddu. Mae copi o ffurflen RX1 wedi ei hatgynhyrchu fel Atodiad B i'r cyfarwyddyd hwn.

Os nad yw'r ffurflen RX1 yn cael ei chyflwyno gyda'r cais i gofrestru'r arwystl, mae rhagor i'w dalu am y cyfyngiad.

 

6 Cais i nodi yn y gofrestr ymrwymiad rhoddwr benthyg i roi benthyciadau pellach

Yn yr un modd, bydd unrhyw gais i nodi ymrwymiad i roi benthyciadau pellach mewn arwystl anghymeradwy, neu heb fod ar ffurflen CH1, yn cael ei anwybyddu hefyd.

Rhaid gwneud cais ar wahân gan ddefnyddio ffurflen CH2 (rheol 108, RhCT 2003). Mae copi o ffurflen CH2 wedi ei hatgynhyrchu fel Atodiad C i'r cyfarwyddyd hwn.

Os nad yw'r ffurflen CH2 yn cael ei chyflwyno gyda'r cais i gofrestru'r arwystl, mae rhagor i'w dalu am gofnodi'r ymrwymiad.

 

7 Cais i nodi'r swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl

O dan reol 109, RhCT 2003, mae modd gwneud cais erbyn hyn i nodi cytundeb yn y gofrestr am y swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl.

Hyd yn oed os caiff swm o'r fath ei ddatgan yn yr arwystl ei hun, heb ystyried a gafodd yr arwystl ei gymeradwyo'n flaenorol gennym ni, neu mewn gweithred amrywio ddilynol, rhaid gwneud cais i nodi'r swm uchaf ar ffurflen CH3 bob amser. Mae copi o ffurflen CH3 wedi ei hatgynhyrchu fel Atodiad D i'r cyfarwyddyd hwn.

Os yw cytundeb diweddarach yn cael ei wneud i newid y swm uchaf a nodwyd yn y gofrestr, mae modd cyflwyno cais pellach ar ffurflen CH3, ynghyd â'r taliad priodol. Er y bydd cofnod ychwanegol yn cael ei wneud ar y gofrestr o ran y swm newydd, bydd y cofnod gwreiddiol yn aros ar y gofrestr.

 

8 Cydgrynhoi arwystl

Os yw arwystl yn cynnwys hawl cydgrynhoi gydag arwystl penodol arall, ni fyddwn yn gwneud cofnod ar y gofrestr, oni bai fod cais penodol yn cael ei wneud gan ddefnyddio ffurflen CC yn unol â rheol 110, RhCT 2003. Mae copi o ffurflen CC wedi ei hatgynhyrchu fel Atodiad E i'r cyfarwyddyd hwn.

 

9 Ffurflen gais AP1

Dylech lenwi'r ffurflen hon yn y ffordd arferol, ond dylech nodi'r pwyntiau canlynol:

  • Rhaid cwblhau panel 5 o ran y dogfennau sy'n cael eu cyflwyno gyda'r cais. Os ydych yn darparu'r weithred arwystl wreiddiol a chopi ardystiedig, byddwn yn dychwelyd y weithred wreiddiol. Os na ddarparwch gopi ardystiedig, byddwn yn cadw'r weithred wreiddiol a gall gael ei dinistrio.

  • Rhaid cwblhau panel 10 gyda'r canlynol.

    • Enw llawn a chyfeiriad y rhoddwr benthyg, gan gynnwys y cod post. Sylwch os yw ffurf yr arwystl wedi cael ei chymeradwyo gan y Gofrestrfa Tir ac y cytunwyd ar gyfeiriad gan y rhoddwr benthyg a'r Gofrestrfa Tir, byddwn yn defnyddio'r cyfeiriad hwnnw. Caniateir hyd at dri chyfeiriad ar gyfer gohebu. Rhaid i un o'r rhain fod yn gyfeiriad post, ond nid oes rhaid iddo fod o fewn y Deyrnas Unedig. Os oes angen, mae modd rhoi ail a thrydydd cyfeiriad, a all fod yn gyfeiriadau post ychwanegol o fewn neu oddi allan i'r Deyrnas Unedig; rhif blwch cyfnewidfa ddogfennau o fewn y Deyrnas Unedig; neu gyfeiriad electronig.

    • Os yw'r rhoddwr benthyg yn gwmni, Rhif Cofrestru'r Cwmni.

    • Os yw'r rhoddwr benthyg yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ei rif cofrestredig.

    • Os yw'r rhoddwr benthyg yn gwmni tramor, oni bai y gwnaed trefniant gyda ni eisoes, rhaid i chi ddatgan tiriogaeth eu corffori, rhif cofrestredig yn y DU gan gynnwys unrhyw ragddodiad a chopi o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni gyda'r cais. Rhaid darparu cyfieithiad os nad yw'r dogfennau hyn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Fel arall, gellir rhoi tystysgrif yn Ffurf 7 gan gyfreithiwr cymwys sy'n ymarfer yn y diriogaeth y'i corfforwyd.

 

10 Ffïoedd

Mae taliad i'w wneud yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol.

Nid oes dim i'w dalu os caiff yr arwystl ei gyflwyno ar yr un pryd neu cyn cwblhau rhai mathau o geisiadau lle talwyd eisoes. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir.

 

11 Dogfennau a gyhoeddir wrth gwblhau

Yr unig ddogfennau y byddwn yn eu cyhoeddi wedi cwblhau cais i gofrestru arwystl yw:

  • copi swyddogol o'r gofrestr yn dangos y cofnodion sydd yn y gofrestr wrth gwblhau eich cais

  • "dogfen gwybodaeth am deitl" sy'n cadarnhau y cwblhawyd eich cais ac sy’n egluro sut i gael rhagor o gopïau o'r copi swyddogol yn y dyfodol.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi'r arwystl gwreiddiol lle darparwyd copi ardystiedig o'r arwystl.

 

12 Gweithredoedd amrywio arwystl cofrestredig

12.1 Cyffredinol

Rhaid gwneud cais i gofrestru gweithred amrywio o dan ffurflen gais AP1.

Byddwn yn cadw'r weithred wreiddiol, oni bai fod gweithred ar ffurflen a gymeradwywyd gennym yn flaenorol a'r rhoddwr benthyg wedi gofyn am y gweithredoedd gwreiddiol yn ôl neu, os na chymeradwywyd y weithred yn flaenorol, lle darparwyd copi ardystiedig o'r weithred.

Bydd ein Hadran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa'r Gofrestrfa Tir yn parhau i gymeradwyo gweithredoedd amrywio. Gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 30 – Cymeradwyo dogfennau morgais i gael rhagor o wybodaeth.

Nid oes modd gwneud cais am gyfyngiad nac am gofnod i ddangos bod ymrwymiad ar roddwr benthyg i roi benthyciadau pellach mewn gweithred amrywio. Os oes angen y cofnodion hyn, rhaid gwneud ceisiadau ar wahân ar ffurflenni RX1 a CH2 yn ôl eu trefn.

12.2 Cyflawni

Er bod yn rhaid i'r cymerwr benthyg gyflawni'r weithred amrywio, nid oes unrhyw ofyniad bod y rhoddwr benthyg yn gwneud yr un fath. Byddwn yn derbyn y bydd y rhoddwr benthyg yn rhwym o dan delerau'r amrywiad os yw naill ai'r rhoddwr benthyg neu ymarferydd yn gweithredu ar ran y rhoddwr benthyg yn cyflwyno'r weithred.

Mae rheol 113 RhCT 2003 yn mynnu bod yn rhaid gwneud cais i gofrestru gweithred amrywio gyda chaniatâd perchennog unrhyw arwystl cofrestredig (a pherchennog unrhyw is-arwystl sy'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r arwystl) o flaenoriaeth gyfartal neu is na'r arwystl sy'n cael ei amrywio, os yw telerau'r amrywiad yn effeithio'n niweidiol ar y rhoddwr benthyg arall, oni bai fod y perchennog hwnnw wedi cyflawni'r weithred eu hunan neu os nad oes angen y caniatâd o dan delerau ei arwystl neu is-arwystl.

Ein barn yw nad yw newidiadau i'r mathau canlynol yn effeithio'n niweidiol ar arwystl (a'r is-arwystl ohono) sydd â blaenoriaeth gyfartal neu is:

  • gostyngiad yn y gyfradd log

  • gostyngiad yn y ddyled gyfalaf.

Fodd bynnag, ystyriwn fod unrhyw newidiadau sydd naill ai'n:

  • cynyddu'r gyfradd log

  • cynyddu'r cyfalaf

  • ymestyn cyfnod yr arwystl ac unrhyw is-arwystl ohono cynharach; neu

  • creu ymrwymiad i roi benthyciadau pellach, o fath all effeithio er gwaeth ar unrhyw arwystl (ac unrhyw is-arwystl ohono) gyda blaenoriaeth gyfartal neu is.

O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i berchennog unrhyw arwystl (ac is-arwystl) sy'n cael ei effeithio er gwaeth gyflawni'r weithred; neu roi caniatâd ysgrifenedig i gofrestru'r weithred amrywio. Rhaid cyflwyno'r caniatâd, neu dystysgrif trawsgludwr ei fod yn dal y caniatâd gofynnol, gyda'r cais am weithred amrywio.

Fel arall, gall perchennog unrhyw arwystl o'r fath ddarparu llythyr yn cadarnhau nad yw'n ystyried bod telerau'r amrywiad yn effeithio er gwaeth ar ei arwystl neu is-arwystl ac, o ganlyniad, ei fod yn teimlo nad oes angen iddo gyflawni'r weithred na chyflwyno caniatâd. Fodd bynnag, yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth, ni fyddwn yn gwneud ymholiad. Yn lle hynny, byddwn yn gwneud cofnod heb warant yn y gofrestr fel a ganlyn:

"Mae gweithred ddyddiedig _________ a wnaed rhwng _________ yn mynegi newid telerau'r Arwystl dyddiedig _________ y cyfeiriwyd ato uchod.

NODYN: Copi yn y ffeil".

12.3 Ffïoedd

Mae taliad i'w wneud yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol.

 

13 Ymholiadau a sylwadau

Dim ond gwybodaeth sylfaenol sydd yn y cyfarwyddyd hwn. Os oes gennych bryder arbennig sydd heb gael sylw, cysylltwch â ni cyn y trafodiad – gweler Manylion cysylltu. Os yw'r trafodiad yn arbennig o gymhleth, gall fod yn well i chi wneud eich ymholiad yn ysgrifenedig yn swyddfa'r Gofrestrfa Tir fydd yn prosesu eich cais.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrym ynghylch ein cyfarwyddiadau, anfonwch hwy i:

Grŵp Gweithrediadau Canolog
Cofrestrfa Tir
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

(DX 8888 Croydon 3)

Gallwch gael rhagor o gopïau o hwn a'n holl gyfarwyddiadau'n ddi-dâl o’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid (gweler Manylion cysylltu) neu gallwch eu llwytho i lawr o'n gwefan.

 

14 Atodiad A

Ffurflen CH1 – Arwystl cyfreithiol ystad gofrestredig

 

15 Atodiad B

Ffurflen RX1 – Cais i gofnodi cyfyngiad

 

16 Atodiad C

Ffurflen CH2 – Cais i gofnodi rhwymedigaeth i roi benthyciadau pellach

 

17 Atodiad D

Ffurflen CH3 – Cais i nodi'r swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl

 

18 Atodiad E

Ffurflen CC – Cofnod o nodyn cydgrynhoi arwystlon

Polisi ymgynghorol y Gofrestrfa Tir

Rydym yn cynnig cyngor i’n cwsmeriaid trwy gyfrwng ein cyhoeddiadau a gwybodaeth Cefnogaeth i Gwsmeriaid a thrwy’r gwaith beunyddiol o brosesu ceisiadau.

Rydym yn darparu gwybodaeth ffeithiol, gan gynnwys copïau swyddogol o gofrestri, cynlluniau teitl a dogfennau, chwiliadau a manylion am ein ffurflenni a ffïoedd.

Rydym yn cynnig cyngor ynglŷn â’n trefnau sy’n esbonio sut mae’r system o gofrestru tir yn gweithio a sut i gyflwyno ceisiadau sy’n gywir. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyngor cyn cyflwyno cais, lle mae’r ceisydd yn gofyn amdano
  • lle bo cais yn ddiffygiol, cyngor ynglŷn â natur y broblem a beth y gellir ei wneud, os rhywbeth, i’w hunioni
  • gwasanaeth cymeradwyo cynlluniau ystad a dogfennau cofrestru tir penodol eraill.

Mae’r cyngor y gallwn ei ddarparu yn gyfyngedig. Ni fyddwn yn darparu cyngor cyfreithiol.

Mae hyn yn golygu:

  • na fyddwn yn cymeradwyo’r dystiolaeth i’w chyflwyno i gefnogi cais i gofrestru cyn inni dderbyn y cais.
  • na fyddwn yn cynnig cyngor ynglŷn â pha gamau y dylech eu cymryd oni bai ei fod yn berthnasol i’n trefnau
  • na fyddwn yn cymeradwyo ymgynghorydd proffesiynol ond gallwn esbonio sut y gallwch ddod o hyd i un.

Rydym yn darparu cyngor am geisiadau go iawn yn unig, nid am amgylchiadau damcaniaethol. Ni fyddwn yn mynegi barn am faterion lle bo’r gyfraith yn gymhleth neu’n aneglur oni bai bod y cwestiwn yn berthnasol i gais i gofrestru sy’n cael ei brosesu.

Wrth ddarparu’r wybodaeth ffeithiol hon a chyngor ynglŷn â’n trefnau byddwn yn:

  • ymddwyn yn ddiduedd
  • cydnabod y gall ein geiriau effeithio ar eraill
  • osgoi creu gwrthdaro rhwng buddion.

Manylion cysylltu

Ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid ac i gael y cyhoeddiad hwn ar ffurf wahanol cysylltwch â’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid ar customersupport@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0844 892 1122 am wasanaeth Cymraeg, neu 0844 892 1111 am wasanaeth Saesneg, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm. Cost galwadau yw 3c y funud ar dariff safonol BT, yn ogystal â’r tâl gosod/cysylltu cyfredol. Gall galwadau o dariffau a darparwyr gwasanaethau eraill a ffonau symudol gostio mwy. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyllid o’r galwadau hyn.

I gael copi o hwn a’n holl gyfarwyddiadau eraill, yn ddi-dâl:

  • darllenwch/llwythwch y cyfarwyddiadau i lawr yn Gymraeg a Saesneg o www.cofrestrfatir.gov.uk
  • cysylltwch â’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid.

Gwybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn

Darparu cyfarwyddyd cyffredinol am drefnau a pholisïau’r Gofrestrfa Tir yw diben y wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn. Fe’i bwriedir fel canllaw yn unig ac nid yw’n ymdrin â phob sefyllfa a all godi. Nid yw chwaith yn cyfyngu ar allu’r Gofrestrfa Tir i weithredu fel y gwêl yn dda, pan fo’n briodol gwneud hynny, o fewn y ddeddfwriaeth cofrestru tir.

Cofiwch

  • Ydy'r arwystl ar ffurflen gymeradwy i ni?

  • Os nad yw, a'r arwystl heb fod ar ffurflen CH1:

    • A ddylai eich cais gynnwys ffurflen RX1 i gofnodi cyfyngiad hefyd?

    • A ddylai eich cais gynnwys ffurflen CH2 i nodi ymrwymiad i roi benthyciadau pellach hefyd?

    • Ydych chi wedi cwblhau paneli 5 a 10 ar ffurflen gais AP1 ac, os yw'n briodol, ydy'ch cais yn cynnwys copi o gyfansoddiad y rhoddwr benthyg yn y Gymraeg neu'r Saesneg?

  • Os oes angen cofnod ar y gofrestr i nodi'r swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl, ydych chi wedi amgáu ffurflen CH3?

  • Os yw eich cais yn cynnwys gweithred amrywio, ydi'r holl bartïon gofynnol wedi cyflawni'r weithred neu ydych chi wedi cynnwys y caniatâd angenrheidiol?

  • Ydych chi wedi amgáu'r taliad priodol?

Sylwch y gall y Gofrestrfa Tir fethu â phrosesu ceisiadau sy’n anghyflawn neu wallus a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch – gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 49 – Dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru i gael rhagor o wybodaeth.

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix