Cyfarwyddyd Ymarfer 56 – Dosrannu ffurfiol ac adbrynu rhent neu rent-dâl sy’n effeithio ar ystad gofrestredig
Diweddarwyd: Tachwedd 2012
Diweddariad
Mae'r cyfarwyddyd hwn yn disodli argraffiad Awst 2012. Newidiwyd adrannau 4.2 a 5.3 o ganlyniad i Orchymyn Ffi Cofrestru Tir 2012 a ddaeth i rym ar 22 Hydref 2012.
Cwmpas y cyfarwyddyd hwn
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhoi cyngor ynglŷn â newid y gofrestr yn sgil gorchymyn dosrannu neu dystysgrif adbrynu a roddir gan Ysgrifennydd Gwladol neu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru lle bo’n effeithio ar ystad gofrestredig. Mae wedi ei anelu at drawsgludwyr ac aelodau o’r cyhoedd a dylech ddehongli cyfeiriadau atoch ‘chi’ felly. Bydd staff y Gofrestrfa Tir yn cyfeirio ato hefyd.
1 Byrfoddau a thermau
Yn y cyfarwyddyd hwn:
'perchennog rhent' yw naill ai perchennog rhent-dâl neu landlord.
2 Cyflwyniad
2.1 Beth yw rhent-dâl?
Rhent-dâl yw swm o arian mae'n rhaid ei dalu naill ai'n flynyddol neu ddwywaith y flwyddyn sy'n arwystl dros dir. Fel arfer bydd rhent-dâl yn cael ei greu wrth drawsgludo neu drosglwyddo eiddo. Mae'r gwerthwr yn neilltuo rhent mae'n rhaid ei dalu iddynt a'u holynwyr mewn teitl bob blwyddyn ac sy'n arwystl dros y tir a werthwyd. Fel arfer mae rhent-dâl yn fythol-barhaus (am byth) ond gall fod hefyd am gyfnod o flynyddoedd (terfynadwy).
Gall rhent-dâl effeithio ar ystadau rhydd-ddaliol neu brydlesol. Os yw'n effeithio ar ystad brydlesol bydd bob amser yn derfynadwy.
Mae'n bwysig nad ydych yn drysu rhwng rhent-dâl a'r rhent sy'n daladwy dan brydles.
2.2 Dosrannu ac adbrynu rhent-daliadau
Gellir gwerthu, prynu a morgeisio rhent-dâl. Gall hefyd fod yn agored i'r canlynol:
-
dosraniad – mae perchennog pob rhan o'r tir a oedd yn destun y rhent-dâl yn wreiddiol yn gyfrifol am y cyfanswm i gyd. Mae gorchymyn dosrannu yn cyfyngu atebolrwydd perchennog maint penodol i swm a gytunwyd sy'n rhan o'r rhent-dâl cyfan
-
ad-brynu – mae ad-brynu yn fodd i ddiddymu rhent-dâl ar ôl talu swm cyfalafol. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi tystysgrif ad-brynu.
3 Sut a phryd i wneud cais
Mae'r trefnau a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i dir cofrestredig yn unig. Os nad ydych yn sicr a ydy'ch tir yn gofrestredig ai peidio gallwch gael gwybod trwy chwilio'r map mynegai. Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 10 – Chwiliadau swyddogol o'r map mynegai yn esbonio sut i wneud hyn.
Mae'n bwysig eich bod yn anfon eich cais at swyddfa gywir y Gofrestrfa Tir – gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 51 – Ardaloedd a wasanaethir gan swyddfeydd y Gofrestrfa Tir.
Am fanylion am sut i gael y cyfarwyddiadau hyn a rhai eraill, gweler adran 8 Ymholiadau a sylwadau.
Pan fyddwch wedi cadarnhau bod eich tir yn gofrestredig a pha un o swyddfeydd y Gofrestrfa Tir sy'n briodol i ddelio â'ch cais, dylech baratoi'r dogfennau y cyfeirir atynt yn yr adrannau isod a'u hanfon atom. Byddwn yn diweddaru'r cofnodion ar y gofrestr sy'n ymwneud â'ch eiddo a byddwn yn anfon copi o'r cofnodion hyn atoch ar ôl inni wneud hyn.
4 Cofrestru gorchymyn dosrannu
Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn berthnasol i unrhyw orchymyn heblaw un sy'n amodol ar ad-brynu'r rhent-dâl. I gael cyfarwyddiadau ynglŷn â chofrestru gorchymyn amodol o'r fath, gweler adran 6 Cofrestru tystysgrif ad-brynu a roddir yn dilyn gorchymyn dosrannu amodol.
4.1 Dogfennau angenrheidiol
Rhaid i'ch cais:
-
fod ar ffurflen AP1 (disgrifiwch natur y cais ym mhanel 4 ffurflen AP1 fel ‘Dosrannu Rhent-dâl’)
-
ddarparu copi swyddogol o'r gorchymyn dosrannu a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru
-
amgáu'r ffi (gweler adran 4.2 Ffïoedd).
4.2 Ffïoedd
Yn ôl Cymal 12 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, rhaid talu ffi o £40.
Gweler hefyd adran 7 Gwerthiant arfaethedig.
5 Cofrestru tystysgrif ad-brynu
5.1 Dogfennau sy’n ofynnol wrth gofrestru rhent-dâl
Rhaid i'ch cais:
-
fod ar ffurflen AP1 (disgrifiwch natur y cais ym mhanel 4 ffurflen AP1 fel ‘Ad-brynu rhent-dâl’)
-
ddarparu copi swyddogol o'r dystysgrif ad-brynu a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru
-
amgáu'r ffi (gweler adran 5.2 Ffïoedd).
5.2 Dogfennau sy’n ofynnol wrth nodi rhent-dâl
Rhaid:
- gwneud eich cais ar ffurflen CN1
- darparu copi swyddogol o’r dystysgrif adbrynu a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru (sicrhewch fod panel 8 ffurflen CN1 wedi ei llenwi felly)
- amgáu’r ffi (gweler adran 5.3 Ffïoedd).
5.3 Ffïoedd
Yn ôl Cymal 12 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, rhaid talu ffi o £40.
Gweler hefyd adran 7 Gwerthiant Arfaethedig.
6 Cofrestru tystysgrif ad-brynu a roddir yn dilyn gorchymyn dosrannu amodol
Os gwneir gorchymyn dosrannu rhent neu rent-dâl a hwnnw'n amodol ar ad-brynu, ni ddylech wneud eich cais i'r Gofrestrfa Tir nes bod tystysgrif ad-brynu gennych.
Rhaid i'ch cais gynnwys copi swyddogol o'r canlynol:
-
y gorchymyn dosrannu a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru
-
dystysgrif ad-brynu.
Ym mhob agwedd arall, dylech ddilyn y drefn a ddisgrifir yn adran 4 Cofrestru gorchymyn dosrannu.
7 Gwerthiant arfaethedig
Os yw perchennog yr eiddo neu'r rhent-dâl wedi cael gorchymyn neu dystysgrif gyda'r bwriad o werthu'r eiddo dan sylw, mae'n bosibl byddai'n well ganddo roi'r ddogfen honno i'r prynwr a gadael iddo ef wneud cais i'r Gofrestrfa Tir pan fydd yn cyflwyno ei gais ei hun. Y rheswm dros wneud hyn yw am nad oes rhaid talu ffi am gofnodi dosrannu neu ad-brynu os anfonir y cais hwnnw at y Gofrestrfa Tir ynghyd â chais sy'n agored i ffi ar Raddfa 1 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol.
8 Ymholiadau a sylwadau
Ni fydd y Gofrestrfa Tir yn gallu rhoi ystyriaeth fanwl i'ch cais ymlaen llaw, ond os oes gennych broblem benodol nad yw'n cael sylw yn y cyfarwyddyd hwn, cysylltwch â'r Gofrestrfa Tir – gweler Manylion cysylltu. Os yw'r broblem yn arbennig o gymhleth, efallai bydd yn well ysgrifennu at swyddfa'r Gofrestrfa Tir a fydd yn prosesu eich cais.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch ein cyfarwyddiadau anfonwch hwy i:
Grŵp Gweithrediadau Canolog
Cofrestrfa Tir
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
(DX 8888 Croydon 3)
Gallwch gael copïau ychwanegol o hwn a'n holl gyfarwyddiadau’n ddi-dâl o’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid (gweler Manylion cysylltu) neu gallwch eu llwytho i lawr o'n gwefan.
Polisi ymgynghorol y Gofrestrfa Tir
Rydym yn cynnig cyngor i’n cwsmeriaid trwy gyfrwng ein cyhoeddiadau a gwybodaeth Cefnogaeth i Gwsmeriaid a thrwy’r gwaith beunyddiol o brosesu ceisiadau.
Rydym yn darparu gwybodaeth ffeithiol, gan gynnwys copïau swyddogol o gofrestri, cynlluniau teitl a dogfennau, chwiliadau a manylion am ein ffurflenni a ffïoedd.
Rydym yn cynnig cyngor ynglŷn â’n trefnau sy’n esbonio sut mae’r system o gofrestru tir yn gweithio a sut i gyflwyno ceisiadau sy’n gywir. Mae hyn yn cynnwys:
- cyngor cyn cyflwyno cais, lle mae’r ceisydd yn gofyn amdano
- lle bo cais yn ddiffygiol, cyngor ynglŷn â natur y broblem a beth y gellir ei wneud, os rhywbeth, i’w hunioni
- gwasanaeth cymeradwyo cynlluniau ystad a dogfennau cofrestru tir penodol eraill.
Mae’r cyngor y gallwn ei ddarparu yn gyfyngedig. Ni fyddwn yn darparu cyngor cyfreithiol.
Mae hyn yn golygu:
- na fyddwn yn cymeradwyo’r dystiolaeth i’w chyflwyno i gefnogi cais i gofrestru cyn inni dderbyn y cais.
- na fyddwn yn cynnig cyngor ynglŷn â pha gamau y dylech eu cymryd oni bai ei fod yn berthnasol i’n trefnau
- na fyddwn yn cymeradwyo ymgynghorydd proffesiynol ond gallwn esbonio sut y gallwch ddod o hyd i un.
Rydym yn darparu cyngor am geisiadau go iawn yn unig, nid am amgylchiadau damcaniaethol. Ni fyddwn yn mynegi barn am faterion lle bo’r gyfraith yn gymhleth neu’n aneglur oni bai bod y cwestiwn yn berthnasol i gais i gofrestru sy’n cael ei brosesu.
Wrth ddarparu’r wybodaeth ffeithiol hon a chyngor ynglŷn â’n trefnau byddwn yn:
- ymddwyn yn ddiduedd
- cydnabod y gall ein geiriau effeithio ar eraill
- osgoi creu gwrthdaro rhwng buddion.
Manylion cysylltu
Ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid ac i gael y cyhoeddiad hwn ar ffurf wahanol cysylltwch â’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid ar customersupport@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0844 892 1122 am wasanaeth Cymraeg, neu 0844 892 1111 am wasanaeth Saesneg, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm. Cost galwadau yw 3c y funud ar dariff safonol BT, yn ogystal â’r tâl gosod/cysylltu cyfredol. Gall galwadau o dariffau a darparwyr gwasanaethau eraill a ffonau symudol gostio mwy. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyllid o’r galwadau hyn.
I gael copi o hwn a’n holl gyfarwyddiadau eraill, yn ddi-dâl:
- darllenwch/llwythwch y cyfarwyddiadau i lawr yn Gymraeg a Saesneg o www.cofrestrfatir.gov.uk
- cysylltwch â’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid.
Gwybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn
Darparu cyfarwyddyd cyffredinol am drefnau a pholisïau’r Gofrestrfa Tir yw diben y wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn. Fe’i bwriedir fel canllaw yn unig ac nid yw’n ymdrin â phob sefyllfa a all godi. Nid yw chwaith yn cyfyngu ar allu’r Gofrestrfa Tir i weithredu fel y gwêl yn dda, pan fo’n briodol gwneud hynny, o fewn y ddeddfwriaeth cofrestru tir.Cofiwch
-
A yw eich eiddo’n gofrestredig?
-
A ydych yn anfon eich cais at swyddfa gywir y Gofrestrfa Tir?
-
A ydych wedi amgáu'r dogfennau cywir?
-
A ydych wedi talu'r ffi gywir?
Sylwch: mae'n bosibl na fydd y Gofrestrfa Tir yn gallu prosesu ceisiadau sy'n anghyflawn neu'n ddiffygiol ac mae perygl y gallai'ch cais colli ei flaenoriaeth os oes rhaid inni ei ddychwelyd ichi – gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 49 – Dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.
Prif Gofrestrydd Tir
© Hawlfraint y Goron 2012 Cofrestrfa Tir
Nid yw i gael ei atgynhyrchu heb ganiatâd yr Uned Ffurflenni, Cofrestrfa Tir (yn ôl awdurdod dirprwyedig Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi) Trafalgar House, 1 Bedford Park, Croydon CR0 2AQ


