logo_w

Cyfarwyddyd Ymarfer 65 – Cofrestru mwynfeydd a mwynau

Diweddarwyd: Chwefror 2014

Diweddariad

Mae'r cyfarwyddyd hwn yn disodli argraffiad Ebrill 2012. Newidiwyd adran 4.7 i egluro agwedd y Gofrestrfa Tir pan fo'r tir mewn ardal mwynfeydd glo neu ardal mwynfeydd glo flaenorol.

Cwmpas y cyfarwyddyd hwn

Mae'r cyfarwyddyd hwn yn trafod cofrestru mwynfeydd a mwynau o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Ni fwriedir iddo fod yn gyfarwyddyd cyffredinol i'r gyfraith ynghylch mwynfeydd a mwynau. Mae wedi ei anelu at drawsgludwyr a dylech ddehongli cyfeiriadau atoch 'chi' felly. Bydd staff y Gofrestrfa Tir yn cyfeirio ato hefyd.

1 Byrfoddau a ddefnyddir yn y cyfarwyddyd hwn

'DCE 1922' yw Deddf Cyfraith Eiddo 1922

'DCE 1925' yw Deddf Cyfraith Eiddo 1925

'DCT 2002' yw Deddf Cofrestru Tir 2002

'RhCT 2003' yw Rheolau Cofrestru Tir 2003.

 

2 Cyflwyniad

Mae'r cyfarwyddyd hwn yn trafod cofrestru mwynfeydd a mwynau o dan DCT 2002. Ni fwriedir iddo fod yn gyfarwyddyd cyffredinol i'r gyfraith ynghylch mwynfeydd a mwynau.

Mae adran 132(1), DCT 2002 yn nodi bod 'mwynfeydd a mwynau' yn cynnwys unrhyw haen neu wythïen o fwynau neu sylweddau yn neu o dan unrhyw dir, a phwerau gweithio a chaffael unrhyw fwynau neu sylweddau o'r fath. Mae'r adran honno yn diffinio 'tir' i gynnwys ‘…(c) mwynfeydd a mwynau, p'un ai ydynt yn cael eu dal gyda'r arwyneb ai peidio.’

Nid yw'n orfodol cofrestru mwynfeydd a mwynau a ddelir ar wahân i'r arwyneb (adran 4(9), DCT 2002) ac eithrio yn achos gwarediad cofrestradwy o'r mwynfeydd a mwynau (adran 27, DCT 2002).

Lle bo'r mwynfeydd a mwynau yn rhan o'r arwyneb neu frigiad, er enghraifft ar hyd wyneb clogwyn sy'n gwyro i gyfeiriad y môr, mae'r rheolau arferol ynglŷn â chofrestru gorfodol yn gymwys i'r arwyneb.

Mae'n bosibl gwneud cais gwirfoddol i gofrestru mwynfeydd a mwynau ar unrhyw adeg.

Nid yw hawliau mwynfeydd a mwynau a neilltuwyd i'r arglwydd wrth freinio (p'un ai o dan adran 48, Deddf Copi-ddaliad 1852, adran 23, Deddf Copi-ddaliad 1894 neu baragraff 5 Atodlen 12, DCE 1922) yn dod o fewn adran 1(1)(a), DCE 1925 ond yn hytrach o fewn adran 1(2)(a), DCE 1925. Nid oes modd cofrestru'r cyfryw hawliau gyda'u teitl eu hunain o dan adran 3(1)(a), DCT 2002. Lle bu'n ddefod y faenor bod gan yr arglwydd hawl i fynd i dir copi-ddaliad y tenant a chymryd y mwynau, gall fod yn bosibl cofrestru'r hawliau a neilltuwyd i'r arglwydd wrth freinio dan y Deddfau hynny o dan adran 3(1)(d), DCT 2002, ond dim ond pan fo'r hawliau yn broffidiau à prendre mewn gros. Gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 16 – Proffidiau à prendre mewn gros i gael manylion am gofrestru proffid à prendre mewn gros.

Yn ôl y gyfraith gyffredinol, fel rhan o uchelfraint y Goron, mae holl fwynfeydd aur ac arian yn eiddo i'r Goron ac eithrio'r achos prin lle maent wedi cael eu rhoi i ddeiliad. Mae petrolewm hefyd yn cael ei freinio yn y Goron yn ei gyflwr naturiol. Mae'r rhan fwyaf o fuddion mewn glo yn cael eu breinio yn yr Awdurdod Glo. Mae'n bosibl y bydd gan yr Awdurdod Glo deitl i fwynfeydd a mwynau eraill hefyd mewn ardaloedd mwynfeydd glo. Felly ni fydd teitlau cofrestredig yn cynnwys unrhyw rai o'r buddion hyn.

 

3 Cofrestriad cyntaf mwynfeydd a mwynau rhydd-ddaliol a ddelir ar wahân i'r tir

3.1 Sut i wneud cais

Rhaid gwneud cais am gofrestriad cyntaf ar ffurflen FR1 ac, yn unol â rheolau 25 a 26, RhCT 2003 rhaid cyflwyno'r canlynol hefyd:

  • cynllun o'r arwyneb y mae'r mwynfeydd a mwynau yn gorwedd oddi tano

  • unrhyw fanylion digonol eraill trwy gynllun neu fel arall fel y gellir adnabod y mwynfeydd a mwynau yn glir

  • manylion llawn unrhyw hawliau sy'n berthynol i weithio'r mwynfeydd a mwynau.

Yn ogystal, bydd yn rhaid i chi gyflwyno:

dogfennau sy'n profi teitl i'r mwynfeydd a mwynau (gweler adran 4 Teitl i fwynfeydd a mwynau)

  • yr holl chwiliadau pridiannau tir angenrheidiol

  • y ffi (yn daladwy yn unol â'r Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol) yn seiliedig ar naill ai'r pris a dalwyd mewn trafodiad diweddar neu dystysgrif o werth y budd sy'n cael ei gofrestru

  • manylion llawn ar ffurflen DI unrhyw fuddion digofrestredig eraill sy'n effeithio ar y mwynfeydd a mwynau fel y pennir yn Atodlen 1, DCT 2002 (gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 15 – Buddion gor-redol a'u dadlennu)

  • tystiolaeth, os yw'n briodol, bod y mwynfeydd a mwynau yn cael eu gweithio ar hyn o bryd (gall hyn fod o gymorth wrth ystyried dosbarth y teitl).

3.2 Dosbarth teitl

Mae anawsterau sylweddol yn gysylltiedig â sefydlu teitl da i fwynfeydd a mwynau ac mae'r rhain yn cael eu trafod yn adran 4 Teitl i fwynfeydd a mwynau. O ganlyniad gellir cofrestru mwynfeydd a mwynau gyda theitl amodol yn unig, fel rheol.

Bydd yr amod fel a ganlyn:

"AMOD: Nid yw cynnwys pob un neu unrhyw un o'r mwynfeydd a mwynau a phwerau eu gweithio a'u caffael yn y teitl hwn yn effeithio neu yn niweidiol i orfodi unrhyw hawl ystad neu fudd a oedd yn bodoli ynddi cyn [dyddiad cofrestriad cyntaf]."

 

4 Teitl i fwynfeydd a mwynau

Yn anaml y bydd y gwreiddyn teitl 15 mlynedd arferol yn ddigonol i ganiatáu rhoi teitl llwyr i fwynfeydd a mwynau am y rhesymau canlynol. Mewn llawer o achosion yr anhawster fydd penderfynu a yw unrhyw un o'r sefyllfaoedd a ddisgrifir isod yn berthnasol ai peidio.

4.1 Grantiau'r Goron

Delir yr holl dir yng Nghymru a Lloegr ar ddeiliadaeth o'r Goron. Yn achos rhai grantiau o dir gan y Goron neilltuwyd y mwynfeydd a mwynau a dehonglir unrhyw neilltuo o blaid y Goron yn erbyn y grantî.

4.2 Copi-ddaliad

Math o ddeiliadaeth a oedd yn effeithio ar ardaloedd mawr o'r wlad oedd copi-ddaliad. Fe'i diddymwyd ar 1 Ionawr 1926 gan DCE 1922. Er mai defod y faenor lle'r oedd y tir dan sylw a lywodraethai'r sefyllfa o ran perchnogaeth mwynfeydd a mwynau o dan dir copi-ddaliad, yn amlach na dim arglwydd y faenor oedd yn berchen ar yr eiddo yn y mwynau ond ni allai eu gweithio heb ganiatâd y copi-ddeiliad. Hyd yn oed lle bo hawl gan arglwydd y faenor i weithio'r mwynau, ar ôl iddo fynd â'r mwynau, mae'r gofod lle'r oedd y mwynau yn perthyn i ddilynwr mewn teitl y copi-ddeiliaid. (Eardly yn erbyn Granville (1876) 3 Ch. D. 826).

Wrth freinio'r copi-ddaliad (p'un ai o dan Ddeddfau Copi-ddaliad 1841, 1852, 1858 neu 1894 neu o dan DCE 1922) byddai sefyllfa'r arglwydd a'r tenant o ran mwynfeydd a mwynau fel rheol yn cael ei diogelu trwy neilltuo priodol ymhlyg yn y Ddeddf briodol. Weithiau, fodd bynnag, byddai'r partïon yn delio'n benodol â'r sefyllfa ynghylch mwynfeydd a mwynau wrth freinio. Wrth freinio yn ôl cyfraith gwlad byddai'r mwynfeydd a mwynau fel rheol yn mynd i'r copi-ddeiliad ond mae'n bosibl y byddai'r weithred freinio yn eu trin fel arall. Nid yw bob amser yn amlwg o'r gweithredoedd breinio p'un ai a oedd y breinio yn unol â chyfraith gwlad neu o dan un o'r Deddfau Copi-ddaliad. Breinio oedd y broses o drosi deiliadaeth copi-ddaliad yn deitl rhydd-ddaliol.

4.3 Hen ddemên

Maenor a berthynai i'r Goron yn nyddiau Edward Gyffeswr neu Wiliam I oedd maenor hen ddemên. Gall y sefyllfa o ran perchnogaeth mwynfeydd a mwynau mewn tir a oedd yn hen ddemên fod yn aneglur, oherwydd bod rhydd-ddaliad gan rai tenantiaid mewn hen ddemên tra bod copi-ddaliad gan eraill.

4.4 Hen rydd-ddaliad, rhydd-ddaliad yn ôl defod a hawl tenant

Hen rydd-ddaliad oedd tir nad oedd yn barsel y faenor ond yn cael ei ddal trwy ewyllys yr arglwydd a gellid ei drawsgludo heb angen cydnabyddiaeth. Gan fod y rhydd-ddaliad yn cael ei ddal gan y tenant, roedd y mwynfeydd a mwynau fel arfer yn breinio ynddo.

Yn wahanol i hen rydd-ddaliad, a oedd yn fath o ddeiliadaeth rydd, math o gopi-ddaliad breintiedig oedd rhydd-ddaliad yn ôl defod. Gellid trawsgludo rhydd-ddaliad yn ôl defod trwy ildio a chydnabyddiaeth, neu trwy drawsgludiad cyffredin i'w ddilyn gan gydnabyddiaeth, neu trwy drawsgludiad cyffredin ar y cyd ag ildio a chydnabyddiaeth. Gan ei fod yn fath o gopi-ddaliad, mae'r sefyllfa o ran mwynfeydd a mwynau yr un fath ag o dan adran 4.2 Copi-ddaliad.

Math o ddeiliadaeth oedd hawl tenantiaid ac yn fwyaf cyffredin yn siroedd Northumberland, Cumberland a Westmorland. Tra gellid dadlau nad oedd yn rhydd-ddaliad na chopi-ddaliad, roedd yn ddeiliadaeth yn ôl defod a gall perchnogaeth y mwynfeydd a mwynau ddibynnu ar y ddefod benodol sy'n effeithio ar y tir dan sylw.

4.5 Cyfraith leol

Mewn rhai rhannau o'r wlad gall cwestiynau ynghylch perchnogaeth mwynfeydd a mwynau ddibynnu ar 'gyfraith leol', er enghraifft yn Fforest y Ddena neu ardal yr High Peak. Yn y de orllewin (ac efallai mewn mannau eraill) gall cwestiynau godi ynghylch rhandiroedd cytunol neu rwymo tun. Mae'n bosibl y bydd enghreifftiau eraill.

4.6 Tir caeëdig

Lle bo tir yn destun Deddf neu Ddyfarniad Cau Tir gellid ymdrin â pherchnogaeth y mwynfeydd a mwynau trwy'r Ddeddf neu Ddyfarniad hwnnw. Mae'n bosibl bod y tir wedi'i gau mor bell yn ôl â'r 18eg ganrif ac nad yw'r gweithredoedd diweddarach yn cyfeirio at hyn, ond bydd yn dal i benderfynu materion perchnogaeth.

4.7 Awdurdod Glo

Mewn rhai rhannau o'r wlad mae'n bosibl bod glo a mwynfeydd a mwynau eraill yn breinio yn yr Awdurdod Glo. Lle y mae'n briodol, bydd y Gofrestrfa Tir fel rheol yn gwneud cofnod yn eithrio o'r teitl unrhyw fwynfeydd a mwynau sy'n breinio yn y Comisiwn Glo yn unol â Deddf Glo 1938. Os, yn anarferol, na fyddwch am i gofnod o'r fath gael ei wneud, bydd disgwyl ichi wneud ymholiadau i'r Awdurdod Glo a chyflwyno unrhyw ddeunydd cefnogol i gyfiawnhau eich cais i eithrio cofnod o'r fath (gweler adran 8 Rhybuddion).

4.8 Meddiant gwrthgefn

Mae'n bosibl bod gweithio tanddaearol wedi arwain at feddiant gwrthgefn gwythïen neu ardal o fwynau.

 

5 Cynnwys mwynfeydd a mwynau

Ceir rhagdybiaeth amodol y cynhwysir y mwynfeydd a mwynau yn nheitl cofrestredig y tir arwynebol; mae hyn yn adlewyrchu safle cyfraith gwlad o ran mwynfeydd a mwynau lle bo'r tiroedd arwynebol yn ddigofrestredig.

Fodd bynnag, mae paragraff 2 Atodlen 8, DCT 2002 yn darparu nad oes indemniad i'w dalu o ran mwynfeydd a mwynau oni bai fod nodyn penodol yn y gofrestr i'r perwyl bod teitl iddynt yn cael ei gynnwys.

Gellir cofnodi nodyn o'r fath o ganlyniad i'r canlynol:

  • cais penodol ar gofrestriad cyntaf

  • cais dilynol ar ffurflen AP1.

Bydd angen yr un dystiolaeth gefnogol â'r hyn sydd ei hangen i roi teitl llwyr ar gofrestriad cyntaf y mwynfeydd a mwynau (gweler adran 4 Teitl i fwynfeydd a mwynau) a rhaid iddi fod yn ddigonol i fodloni'r cofrestrydd bod y mwynfeydd a mwynau hynny wedi'u cynnwys yn yr ystad gofrestredig (rheol 71, RhCT 2003). Lle nad yw'r dystiolaeth o deitl i'r mwynfeydd a mwynau yn ddigonol i roi teitl llwyr, gellir creu teitl amodol ar wahân (adrannau 9(4) a 10(5), DCT 2002).

Bydd y nodyn yn y gofrestr sy'n estyn indemniad i'r mwynfeydd a mwynau fel rheol ar y ffurf ganlynol:

"NODYN: I ddibenion paragraff 2 Atodlen 8 Deddf Cofrestru Tir 2002 cynhwysir [manylion y mwynfeydd a mwynau] yn y teitl hwn."

Lle nad oes modd rhoi nodyn yn y gofrestr i'r perwyl bod teitl yr ystad gofrestredig yn cynnwys mwynfeydd a mwynau, ond lle bo disgrifiad yr ystad gofrestredig yn cyfeirio at fwynfeydd a mwynau, gall cofnod yn debyg i'r canlynol ymddangos:

"NODYN: Cofnod a wnaed o dan reol 5(a) Rheolau Cofrestru Tir 2003 yw disgrifiad yr ystad gofrestredig ac nid yw'n nodyn y mae paragraff 2 Atodlen 8 Deddf Cofrestru Tir 2002 yn cyfeirio ato i'r perwyl bod yr ystad gofrestredig yn cynnwys y mwynfeydd neu fwynau. Mae'r mwynfeydd a mwynau dan y tir wedi'u cynnwys yn y cofrestriad dim ond i'r graddau y maent wedi'u cynnwys yn [rhif teitl]."

Gellir defnyddio'r cofnod hwn, er enghraifft, lle mynegir trosglwyddiad o ran o ystad gofrestredig i gynnwys y mwynfeydd a mwynau, ond nid yw cofrestr eiddo'r trosglwyddwr yn cynnwys nodyn at ddibenion paragraff 2 Atodlen 8, DCT 2002. Bydd y cofrestrydd am sicrhau nad yw unrhyw gyfeiriad at fwynfeydd a mwynau yn y disgrifiad yng nghofrestr eiddo'r trosglwyddwr yn nodyn at ddibenion paragraff 2 Atodlen 8, DCT 2002.

 

6 Prydlesi o fwynfeydd a mwynau

6.1 Cofrestriad cyntaf

6.1.1 Sut i wneud cais

Rhaid i gais am gofrestriad cyntaf fod ar ffurflen FR1 ac, o dan reolau 25 a 26, RhCT 2003, rhaid cyflwyno'r canlynol ar yr un pryd:

  • cynllun o'r arwyneb y mae'r mwynfeydd a mwynau yn gorwedd oddi tano

  • unrhyw fanylion digonol eraill trwy gynllun neu fel arall fel y gellir adnabod y mwynfeydd a mwynau yn glir

  • manylion llawn unrhyw hawliau sy'n berthynol i weithio'r mwynfeydd a mwynau.

Yn ogystal bydd rhaid i chi gyflwyno:

  • dogfennau sy'n profi teitl i'r mwynfeydd a mwynau

  • yr holl chwiliadau pridiannau tir angenrheidiol

  • y ffi (sy'n daladwy yn unol â'r Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol) yn seiliedig ar naill ai'r pris a dalwyd mewn trafodiad diweddar neu dystysgrif o werth y budd i'w gofrestru

  • manylion llawn ar ffurflen DI unrhyw fuddion digofrestredig eraill sy'n effeithio ar y mwynfeydd a mwynau fel y pennir yn Atodlen 1, DCT 2002 (gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 15 Buddion gor-redol a'u dadlennu).

6.1.2 Dosbarth teitl

Lle nad oes modd cadarnhau teitl y prydleswr yn ddigonol, bydd teitl prydlesol da yn cael ei gofrestru. Bydd angen tystiolaeth teitl y prydleswr os yw teitl llwyr i gael ei gofrestru (gweler adran 4 Teitl i fwynfeydd a mwynau).

6.1.3 Prydlesi o fwynfeydd a mwynau allan o dir cofrestredig

Lle bo prydles o fwynfeydd a mwynau yn cael ei roi allan o deitl llwyr i fwynfeydd a mwynau, neu lle bo nodyn ar deitl y prydleswr am gynnwys y mwynfeydd a mwynau hynny, gellir cofrestru teitl llwyr. Yn absenoldeb unrhyw nodyn o'r fath a lle bo'r prydleswr yn gofrestredig gyda theitl llwyr, bydd modd cofrestru teitl llwyr i'r ystad brydlesol o hyd ond bydd y cofnod canlynol yn cael ei wneud yn dilyn disgrifiad yr ystad gofrestredig:

"NODYN: Cofnod a wnaed yn unol â rheol 5(a) Rheolau Cofrestru Tir 2003 yw disgrifiad yr ystad gofrestredig ac nid yw'n nodyn y mae paragraff 2 Atodlen 8 Deddf Cofrestru Tir 2002 yn cyfeirio ato i'r perwyl bod yr ystad gofrestredig yn cynnwys y mwynfeydd neu fwynau dan y tir. Mae'r mwynfeydd a mwynau dan y tir wedi'u cynnwys yn y cofrestriad dim ond i'r graddau y maent wedi'u cynnwys yn [rhif teitl teitl y prydleswr]."

Yn yr achosion hynny lle bo'r prydleswr yn gofrestredig gyda theitl amodol neu deitl meddiannol, caiff teitl prydlesol da ei gofrestru.

7 Trosglwyddiadau allan o dir cofrestredig

Lle bo mwynfeydd a mwynau yn cael eu trosglwyddo allan o deitl cofrestredig i fwynfeydd a mwynau, neu un sy'n cynnwys nodyn ynghylch cynnwys y mwynfeydd a mwynau hynny, caiff y teitl newydd ei gofrestru gyda'r un dosbarth teitl â'r dosbarth teitl sy'n bodoli eisoes. Yn absenoldeb unrhyw nodyn o'r fath, caiff y teitl newydd ei gofrestru gyda'r un dosbarth teitl â'r dosbarth teitl sy'n bodoli eisoes ond bydd y cofnod canlynol yn cael ei wneud yn dilyn disgrifiad yr ystad gofrestredig:

"NODYN: Cofnod a wnaed yn unol â rheol 5(a) Rheolau Cofrestru Tir 2003 yw disgrifiad yr ystad gofrestredig ac nid yw'n nodyn y mae paragraff 2 Atodlen 8 Deddf Cofrestru Tir 2002 yn cyfeirio ato i'r perwyl bod yr ystad gofrestredig yn cynnwys y mwynfeydd neu fwynau dan y tir. Mae'r mwynfeydd a mwynau dan y tir wedi'u cynnwys yn y cofrestriad dim ond i'r graddau y maent wedi'u cynnwys yn [rhif teitl y trosglwyddwr]."

Lle ceir nodyn mewn teitl cofrestredig sy’n cynnwys mwynfeydd a mwynau’n benodol neu sy’n dawel o ran cynnwys neu eithrio mwynfeydd a mwynau, bydd unrhyw drosglwyddiad o’r teitl hwnnw sy’n eithrio’r mwynfeydd a mwynau yn peri i’r mwynfeydd a mwynau gael eu tynnu o’r tir arwyneb.

O dan yr amgylchiadau hyn:

  • os cyflwynir trosglwyddiad o’r cyfan, caiff teitl newydd ei greu ar gyfer y mwynfeydd a mwynau a gedwir gan y trosglwyddwr
  • os cyflwynir trosglwyddiad o ran, caiff y mwynfeydd a mwynau eu cadw gan y trosglwyddwr yn y teitl cofrestredig.

Mewn rhai achosion, megis ystadau sy’n datblygu lle y mae’n debygol y bydd sawl trosglwyddiad o ran, mae’n bosibl y bydd yn briodol cofrestru’r mwynfeydd a mwynau ar gyfer yr holl ystad ar wahân, o dan rif teitl newydd.

 

8 Rhybuddion

Gallwn gyflwyno rhybudd o'r cais i berchennog teitl arwynebol a gallwn hefyd gyflwyno rhybudd i bartïon eraill, er enghraifft, o dan amgylchiadau priodol, i'r Goron neu'r Awdurdod Glo (rheol 30(a), RhCT 2003). Yn y sefyllfa anghyffredin lle bo teitl llwyr yn cael ei ystyried, a'r cais mewn ardal mwynfeydd glo ac mae'r ceisydd yn hepgor y cofnod eithriedig y cyfeirir ato yn 4.7 Awdurdod Glo, bydd disgwyl i'r ceisydd wneud ymholiadau ymlaen llaw i'r Awdurdod Glo i gadarnhau a oes ganddo unrhyw hawl i'r mwynfeydd a mwynau sy'n destun cais i'w cofrestru. Gellir gweld manylion ardaloedd mwynfeydd glo ar wefan yr Awdurdod Glo www.coal.gov.uk

 

9 Indemniad

Mae paragraff 2 Atodlen 8, DCT 2002 yn darparu nad oes unrhyw indemniad i'w dalu o ran mwynfeydd a mwynau oni bai fod nodyn penodol yn y gofrestr i'r perwyl bod teitl iddynt yn gynwysedig.

 

10 Buddion gor-redol

Mae tir cofrestredig yn ddarostyngedig i unrhyw fuddion gor-redol sy'n bodoli (adrannau 11, 12, 29, 30 ac Atodlenni 1 a 3, DCT 2002). Mae'r rhain yn cynnwys:

  • budd mewn unrhyw lo neu fwynfa glo, yr hawliau sydd ynghlwm wrth unrhyw fudd o'r fath a hawliau unrhyw berson o dan adrannau 38, 49 neu 51, Deddf y Diwydiant Glo 1994

  • yn achos tir y cofrestrwyd teitl iddo cyn 1898, hawliau i fwynfeydd a mwynau (a hawliau perthynol) a grëwyd cyn 1898

  • yn achos tir y cofrestrwyd teitl iddo rhwng 1898 ac 1925 yn gynwysedig, hawliau i fwynfeydd a mwynau (a hawliau perthynol) a grëwyd cyn dyddiad cofrestru'r teitl.

 

11 Proffidiau à prendre

Gall rhoi hawl i fynd ar dir a chloddio mwynau fod yn broffid à prendre. Mae modd cofrestru hawl o'r fath os yw mewn gros (gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 16 – Proffidiau à prendre mewn gros) a rhaid ei chofrestru os yw'n cael ei rhoi allan o dir cofrestredig, oni bai fod yr hawl sy'n cael ei rhoi yn un y gellir ei chofrestru dan Ddeddf Tiroedd Comin 1965.

 

12 Enghreifftiau lle gall teitl llwyr i fwynfeydd a mwynau fod yn briodol

Oherwydd yr anhawster o brofi'r ffeithiau negyddol sy'n angenrheidiol i sefydlu teitl (gweler adran 4 Teitl i fwynfeydd a mwynau) mae'r enghreifftiau hyn yn seiliedig yn bennaf ar sefyllfaoedd lle bo tystiolaeth glir bod y tir yn gopi-ddaliad gynt.

  • Roedd y Goron yn arglwydd maenor (nid maenor hen ddemên – gweler adran 4.3 Hen ddemên) ar 1 Ionawr 1926 pan ddaeth DCE 1922 i rym. Pryd hynny nid oedd y Goron wedi rhoi unrhyw brydlesi o fwynfeydd a mwynau neu wedi delio fel arall â'r mwynfeydd a mwynau. Deliodd y cytundeb iawndal yr ymrwymwyd iddo gan y Goron a chyn gopi-ddeiliad, nid yn unig â diddymu'r nodweddion maenoraidd a gadwyd gan Ran V DCE 1922 a oedd yn effeithio ar dir y cyn gopi-ddeiliad ond hefyd â diddymu "hawliau'r arglwydd yn neu i unrhyw fwynfeydd a mwynau yn neu o dan y tir dywededig a'r hawliau hela ac eraill sy'n effeithio ar yr un tir a gadwyd gan Ddeuddegfed Atodlen y Ddeddf honno." Mae'r ceisydd yn gallu profi nad yw'r copi-ddeiliad a'i ragflaenwyr a'i olynwyr mewn teitl wedi delio â'r mwynfeydd a mwynau, neu unrhyw fudd a oedd ganddynt yn y rheiny, ar wahân i'r tir. Nid yw unrhyw fwynau o dan y tir wedi cael eu gweithio.

    Yn y sefyllfa hon mae'n amlwg bod gan olynydd y copi-ddeiliad hawl i'r mwynfeydd a mwynau o dan y tir dan sylw a bod teitl llwyr yn briodol.

  • Yn ôl telerau dyfarniad cau mae'r tir yn cael i roi i un person fel copi-ddeiliad ac mae'r mwynfeydd a mwynau o dan y tir yn cael eu dyfarnu i arglwydd y faenor. Wrth freinio'r tir copi-ddaliad o dan Ddeddf Copi-ddaliad 1894, ni ddeliwyd yn benodol â'r mwynfeydd a mwynau, felly nid oedd unrhyw effaith ar berchnogaeth arglwydd y faenor. Mae'r ceisydd yn gallu profi nad yw'r arglwydd a'i ragflaenwyr a'i olynwyr mewn teitl wedi delio â'r mwynfeydd a mwynau, neu unrhyw fudd a oedd ganddynt yn y rheiny, ar wahân i'r tir. Nid oes unrhyw drydydd parti wedi bod mewn meddiant gwrthgefn y mwynfeydd a mwynau.

    Yn y sefyllfa hon mae'n amlwg bod gan olynydd arglwydd y faenor deitl i'r mwynfeydd a mwynau o dan y tir dan sylw a bod teitl llwyr yn briodol.

  • Yn dilyn breinio tir copi-ddaliad dan DCE 1922 ymrwymodd arglwydd y faenor a'r cyn gopi-ddeiliad i gytundeb iawndal ar ffurf gweithred a thrwyddi neilltuwyd yr holl fwynfeydd a mwynau yn a than y tir i arglwydd y faenor. Cyn hyn nid oedd naill ai arglwydd y faenor na'r copi-ddeiliad wedi delio ag unrhyw fudd a oedd gan arglwydd y faenor yn y mwynfeydd a mwynau. Nid oes unrhyw beth i awgrymu y neilltuwyd y mwynfeydd a mwynau ar adeg y grant gwreiddiol gan y Goron.

    Yn y sefyllfa hon mae'n amlwg bod gan olynydd arglwydd y faenor deitl i'r mwynfeydd a mwynau dan y tir dan sylw a bod teitl llwyr yn briodol.

  • Gall perchennog tir sy'n gallu profi'r canlynol ddisgwyl i deitl llwyr gael ei gymeradwyo:

    • teitl sy'n deillio yn uniongyrchol o grant y goron a oedd yn cynnwys mwynfeydd a mwynau

    • nad yw'r tir erioed wedi bod yn destun grant copi-ddaliad, ac

    • nad oes gwarediad wedi bod erioed o'r mwynfeydd a mwynau cyn dyddiad y cais am gofrestriad cyntaf.

 

13 Ymholiadau ac awgrymiadau

Os oes gennych bryder penodol nad yw'n cael sylw yn y cyfarwyddyd hwn, cysylltwch â'r Gofrestrfa Tir o flaen y trafodiad – gweler Manylion cysylltu. Os yw'r trafodiad yn arbennig o gymhleth, gall fod yn well i chi wneud eich ymholiad yn ysgrifenedig i swyddfa'r Gofrestrfa Tir fydd yn prosesu'ch cais. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch ein cyfarwyddiadau, anfonwch hwy i:

Grŵp Gweithrediadau Canolog
Cofrestrfa Tir
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

(DX 8888 Croydon 3)

Gallwch gael rhagor o gopïau o hwn a'n holl gyfarwyddiadau'n ddi-dâl o’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid (gweler Manylion cysylltu) neu gallwch eu llwytho i lawr o'n gwefan.

Polisi ymgynghorol y Gofrestrfa Tir

Rydym yn cynnig cyngor i’n cwsmeriaid trwy gyfrwng ein cyhoeddiadau a gwybodaeth Cefnogaeth i Gwsmeriaid a thrwy’r gwaith beunyddiol o brosesu ceisiadau.

Rydym yn darparu gwybodaeth ffeithiol, gan gynnwys copïau swyddogol o gofrestri, cynlluniau teitl a dogfennau, chwiliadau a manylion am ein ffurflenni a ffïoedd.

Rydym yn cynnig cyngor ynglŷn â’n trefnau sy’n esbonio sut mae’r system o gofrestru tir yn gweithio a sut i gyflwyno ceisiadau sy’n gywir. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyngor cyn cyflwyno cais, lle mae’r ceisydd yn gofyn amdano
  • lle bo cais yn ddiffygiol, cyngor ynglŷn â natur y broblem a beth y gellir ei wneud, os rhywbeth, i’w hunioni
  • gwasanaeth cymeradwyo cynlluniau ystad a dogfennau cofrestru tir penodol eraill.

Mae’r cyngor y gallwn ei ddarparu yn gyfyngedig. Ni fyddwn yn darparu cyngor cyfreithiol.

Mae hyn yn golygu:

  • na fyddwn yn cymeradwyo’r dystiolaeth i’w chyflwyno i gefnogi cais i gofrestru cyn inni dderbyn y cais.
  • na fyddwn yn cynnig cyngor ynglŷn â pha gamau y dylech eu cymryd oni bai ei fod yn berthnasol i’n trefnau
  • na fyddwn yn cymeradwyo ymgynghorydd proffesiynol ond gallwn esbonio sut y gallwch ddod o hyd i un.

Rydym yn darparu cyngor am geisiadau go iawn yn unig, nid am amgylchiadau damcaniaethol. Ni fyddwn yn mynegi barn am faterion lle bo’r gyfraith yn gymhleth neu’n aneglur oni bai bod y cwestiwn yn berthnasol i gais i gofrestru sy’n cael ei brosesu.

Wrth ddarparu’r wybodaeth ffeithiol hon a chyngor ynglŷn â’n trefnau byddwn yn:

  • ymddwyn yn ddiduedd
  • cydnabod y gall ein geiriau effeithio ar eraill
  • osgoi creu gwrthdaro rhwng buddion.

Manylion cysylltu

Ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid ac i gael y cyhoeddiad hwn ar ffurf wahanol cysylltwch â’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid ar customersupport@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0844 892 1122 am wasanaeth Cymraeg, neu 0844 892 1111 am wasanaeth Saesneg, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm. Cost galwadau yw 3c y funud ar dariff safonol BT, yn ogystal â’r tâl gosod/cysylltu cyfredol. Gall galwadau o dariffau a darparwyr gwasanaethau eraill a ffonau symudol gostio mwy. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyllid o’r galwadau hyn.

I gael copi o hwn a’n holl gyfarwyddiadau eraill, yn ddi-dâl:

  • darllenwch/llwythwch y cyfarwyddiadau i lawr yn Gymraeg a Saesneg o www.cofrestrfatir.gov.uk
  • cysylltwch â’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid.

Gwybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn

Darparu cyfarwyddyd cyffredinol am drefnau a pholisïau’r Gofrestrfa Tir yw diben y wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn. Fe’i bwriedir fel canllaw yn unig ac nid yw’n ymdrin â phob sefyllfa a all godi. Nid yw chwaith yn cyfyngu ar allu’r Gofrestrfa Tir i weithredu fel y gwêl yn dda, pan fo’n briodol gwneud hynny, o fewn y ddeddfwriaeth cofrestru tir.

Cofiwch

Sylwer, efallai na fydd y Gofrestrfa Tir yn gallu prosesu ceisiadau sy'n anghyflawn neu'n ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch – gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 49 – Dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix