logo_w

Cyfarwyddyd Ymarfer 7 – Cofnodi yn y gofrestr y pris a dalwyd neu’r gwerth a ddatganwyd

Diweddarwyd: Hydref 2012

Diweddariad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn disodli argraffiad Hydref 2011. Ychwanegwyd adran 5.1 i roi cyfarwyddyd lle bo gwerthwr yn cynnig gostyngiadau neu gymhelliannau.

Cwmpas y cyfarwyddyd hwn

Mae'r cyfarwyddyd hwn yn trafod cwestiynau’n ymwneud â gwybodaeth pris a dalwyd neu werth yn y gofrestr. Mae wedi ei anelu'n bennaf at drawsgludwyr, er y gall fod o ddiddordeb i’r cyhoedd.

1 Cyflwyniad

Mae'r cyfarwyddyd hwn yn cynnwys yr atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch ein trefnau i gofnodi gwybodaeth pris a dalwyd neu werth yn y gofrestr. Mae hefyd yn egluro sut y gwnaed y penderfyniad i adfer y wybodaeth hon i'r gofrestr.

2 Pryd y daeth y trefnau hyn i rym?

Daeth y trefnau, y cyfeirir atynt yn rheol 8(2), Rheolau Cofrestru Tir 2003, yn effeithiol ar 1 Ebrill 2000 gan fod yn berthnasol i unrhyw gais ddaw i law yn un o swyddfeydd y Gofrestrfa Tir ar ôl 1 Ebrill 2000 i gofrestru perchennog tir newydd, boed y perchennog presennol yn aros yn y gofrestr hefyd neu beidio. Nid yw'r trefnau hyn yn berthnasol mewn rhai achosion – er enghraifft, wrth benodi ymddiriedolwr newydd o ran eiddo ymddiried neu pan fydd rhywun fel ysgutor yn cymryd lle'r perchennog presennol.

3 Pryd y bydd y pris a dalwyd yn cael ei gofnodi?

Pan fydd yn amlwg o'r trosglwyddiad bod swm o arian (heblaw rhent o dan brydles) wedi ei dalu, a dim tâl arall, byddwn yn cofnodi'r swm hwnnw yn y gofrestr.

4 A fydd y Gofrestrfa Tir bob amser yn cofnodi'r pris?

Na fydd. Byddwn yn gwneud cofnod dim ond pan fo'n ymarferol gwneud hynny. Er enghraifft, os yw'r tâl yn ddibynnol ar ddarpariaethau mewn dogfennau na fyddwn yn eu gweld, neu nad oes modd ei gyfrif ar adeg cofrestru, ni fyddwn yn cofnodi unrhyw beth. Ni fyddwn fel rheol yn gwneud ymholiad dim ond er mwyn gwella'r wybodaeth sydd yn ein meddiant am y pris a dalwyd neu'r gwerth a ddatganwyd, er efallai y byddwn yn gorfod ymholi i sicrhau y talwyd treth stamp yn gywir. Byddwn yn hepgor y cofnod pe byddai'r cofnod yn gamarweiniol, megis pan fo'r pris a dalwyd yn cynrychioli dim ond hanner gwerth yr eiddo.

5 Beth os na wneir unrhyw daliad neu nad oes modd cyfrif y pris?

Mewn achosion lle mae eiddo yn rhodd neu nad yw'r pris yn gwbl amlwg, byddwn yn cofnodi'r gwerth a ddatganwyd. Gall hyn fod yn ffigur union a gymrwyd o'r dogfennau neu, os nad yw'r union ffigur yn hysbys, y wybodaeth a roddwyd i'r Gofrestrfa Tir ar gyfer asesu'r ffïoedd. Felly, gall y cofnod gyfeirio at fand gwerthoedd sy'n cynnwys gwerth yr eiddo, megis:

"Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] rhwng £xxx a £yyy."

Neu werth isaf neu uchaf o'r bandiau isaf neu uchaf, megis:

"Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] dros £xxx."

Fodd bynnag, byddwn yn hepgor y cofnod pe byddai'n gamarweiniol, er enghraifft, pan fo'r gwerth a ddatganwyd yn cynrychioli dim ond hanner gwerth yr eiddo.

5.1 Gostyngiadau a chymhelliannau

Er ei bod yn gyfreithlon i ddefnyddio gostyngiadau a chymhelliannau wrth waredu eiddo, megis y gwerthwr yn talu’r dreth tir toll stamp neu’n gwneud cyfraniadau tuag at gostau symud, ni chaiff y rhain eu cynnwys yn y cofnod pris a dalwyd. Byddwn yn nodi dim ond y pris a dalwyd net (is) yn y gofrestr. Os nad ydym yn gwybod y pris net, byddwn yn anfon ymholiad amdano.

6 A gaf i ofyn i chi beidio â chofrestru'r pris a dalwyd yn y gofrestr?

Na chewch. Mae'r Gofrestrfa Tir o dan rwymedigaeth statudol i gofrestru'r pris a dalwyd pryd bynnag y bo'n ymarferol. Ni fydd telerau cymal cyfrinachedd yn bwysicach na rhwymedigaeth y cofrestrydd i gofnodi'r pris a dalwyd yn y gofrestr. Ni fydd y cofrestrydd yn cofrestru'r pris a dalwyd os bydd y cofrestrydd yn ei ystyried yn gamarweiniol, megis pan fo'r gwerth a ddatganwyd yn cynrychioli dim ond hanner gwerth yr eiddo. Fodd bynnag, nid yw'r wybodaeth yn gamarweiniol yn unig am ei fod yn hanesyddol gan fod dyddiad yn cael ei gofnodi hefyd fel rhan o'r cofnod yn y gofrestr. Ni fydd y cofnod yn gamarweiniol chwaith yn unig oherwydd bod gwaith adnewyddu, er enghraifft, wedi cynyddu gwerth yr eiddo ers ei werthu.

7 Ar ba ffurf fydd y cofnod pan fydd yr union bris neu werth yn hysbys?

Bydd y ffurfiau cofnod canlynol yn ymddangos mewn cofrestri perchnogaeth.

"Datgenir mai'r pris a dalwyd ar [dyddiad gwarediad] oedd £xxx."

"Datgenir mai'r pris, ac eithrio'r rhenti, a dalwyd ar rodd y brydles oedd £xxx."

"Datgenir mai'r gwerth ar [dyddiad y cais] oedd £xxx."

8 Ar ba ffurf fydd y cofnod os byddwch yn asesu'r gwerth o faint o ffïoedd a dalwyd?

Bydd y ffurfiau cofnod canlynol yn ymddangos mewn cofrestri perchnogaeth.

"Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] o dan £xxx."

"Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] rhwng £xxx a £yyy."

"Datgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] dros £xxx."

9 Am ba hyd fydd y wybodaeth yn aros yn y gofrestr?

Bydd y wybodaeth yn aros yn y gofrestr hyd nes bydd newid perchnogaeth eto sy'n arwain at gofnodi pris neu werth newydd.

10 Pa mor ddibynadwy yw'r wybodaeth hon?

Mae'r cofnod yn seiliedig ar y wybodaeth a welwn yn y ddogfen drosglwyddo neu'r ffurflen gais. Efallai nad yw'n cynrychioli gwerth llawn yr eiddo ar y farchnad. Mae'r cofnod yn egluro mai'r ffigur sy'n cael ei ddatgan yw'r un a roddwyd yn y ddogfen drosglwyddo. Ni fyddwn yn ei wirio. Mewn rhai achosion, efallai nad yw'n cynrychioli'r darlun cyflawn. Er enghraifft, pan fydd y partïon yn gysylltiedig â'i gilydd gallai fod llawer o resymau pam nad gwerth llawn yr eiddo yw'r pris a dalwyd neu pan fydd trosglwyddiad neu brydles yn cyfeirio at ddisgownt neu arian yn ôl byddwn yn cofnodi’r gwerth isaf neu’r gwerth net heblaw unrhyw ddisgownt neu arian yn ôl.

11 Beth mae absenoldeb cofnod yn ei olygu?

Nid yw absenoldeb y pris a dalwyd o angenrheidrwydd yn golygu y gwnaed rhodd o'r eiddo. Gall y wybodaeth am y pris a dalwyd fod yn gamarweiniol ei hun (am ryw reswm cysylltiedig â natur y trafodiad dan sylw), neu efallai nad oedd y pris yn hawdd ei ganfod. Os nad oes cofnod o'r pris a dalwyd neu'r gwerth a ddatganwyd yn ymddangos, gall y Gofrestrfa Tir naill ai fod wedi derbyn y cais i gofrestru'r newid perchnogaeth cyn 1 Ebrill 2000, neu y byddai rhyw agwedd ar y trafodiad (e.e. dim ond rhan o'r eiddo newidiodd ddwylo) yn gwneud cofnod y gwerth a ddatganwyd yn gamarweiniol.

12 A fydd y Gofrestrfa Tir yn cyhoeddi'r wybodaeth hon?

Mae'r Gofrestrfa Tir eisoes yn cyhoeddi gwybodaeth grynswth am brisiau eiddo preswyl. Darparwn wybodaeth grynswth hefyd i lawr i lefel sector post. Maes o law, byddwn yn ystyried ymestyn y gwasanaeth hwn i lefel côd post. Nid ydym yn bwriadu cyhoeddi gwybodaeth grynswth yn ymwneud ag eiddo masnachol. Gallwch gael copi o gofrestr eiddo unigol trwy wneud cais am gopi swyddogol o'r cofrestriad teitl perthnasol.

13 A ymgynghorwyd â chwsmeriaid y Gofrestrfa Tir ynghylch y newid hwn i'r drefn?

Roedd y cynnig i adfer gwybodaeth am y pris a dalwyd i'r gofrestr yn fater y bu'r Gofrestrfa Tir yn ymgynghori'n eang arno ym mis Hydref 1997. Cyhoeddwyd y papur ymgynghori yn uniongyrchol i gyrff cynrychiadol, fel Cymdeithas y Cyfreithwyr a Chyngor y Bar, a'i roi ar gael ar ein gwefan ac mewn ymateb i gyhoeddusrwydd yn y wasg. Rhoddwyd adroddiad i'r Arglwydd Ganghellor ym mis Chwefror 1998 ar sail yr ymatebion. Roedd mwyafrif yr ymatebion naill ai'n gryf yn erbyn neu'n gryf o blaid y cynnig. Wedi ystyried yr ymatebion, penderfynodd yr Arglwydd Ganghellor fabwysiadu'r cynnig.

14 A yw hyn yn dresmasiad ar breifatrwydd?

Mae’n bosibl fod rhai pobl fod o'r farn hon ac ystyriwyd mater preifatrwydd yn ofalus iawn. Fodd bynnag, mewn llawer gwlad mae'r pris a dalwyd am eiddo arbennig eisoes yn gofnod cyhoeddus, yn fwyaf nodedig yn yr Alban oddi ar 1617, ac nid yw'n ymddangos fod hyn wedi achosi unrhyw broblemau. O dan rai amgylchiadau mae'r pris a dalwyd eisoes yn gyhoeddus trwy ffynonellau eraill, megis lle caiff yr eiddo ei werthu mewn arwerthiant. Mae'r Llywodraeth yn ystyried bod manteision cael y wybodaeth hon yn gorbwyso’r dadleuon ynghylch preifatrwydd. Cynghorwyd yr Arglwydd Ganghellor bod newid y rheol yn cydymffurfio â gofynion ECHR (Y Comisiwn Ewropeaidd dros Hawliau Dynol).

15 Sut mae cael gwybodaeth am y pris a dalwyd o ran eiddo arbennig?

Trwy archebu copi swyddogol gan ddefnyddio ffurflen OC1, a gewch o'r Llyfrfa neu unrhyw werthwr deunyddiau cyfreithiol. Fel arall, gallwch lwytho'r ffurflen i lawr o'n gwefan www.cofrestrfatir.gov.uk neu ei chael o’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid (gweler Manylion cysylltu). Anfonwch y ffurflen OC1, ynghyd â'r tâl priodol o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, i swyddfa'r Gofrestrfa Tir sy’n gyfrifol am yr ardal lle mae'r eiddo. Gallwch ddod o hyd i hyn ar ein gwefan neu trwy ffonio’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid.

Polisi ymgynghorol y Gofrestrfa Tir

Rydym yn cynnig cyngor i’n cwsmeriaid trwy gyfrwng ein cyhoeddiadau a gwybodaeth Cefnogaeth i Gwsmeriaid a thrwy’r gwaith beunyddiol o brosesu ceisiadau.

Rydym yn darparu gwybodaeth ffeithiol, gan gynnwys copïau swyddogol o gofrestri, cynlluniau teitl a dogfennau, chwiliadau a manylion am ein ffurflenni a ffïoedd.

Rydym yn cynnig cyngor ynglŷn â’n trefnau sy’n esbonio sut mae’r system o gofrestru tir yn gweithio a sut i gyflwyno ceisiadau sy’n gywir. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyngor cyn cyflwyno cais, lle mae’r ceisydd yn gofyn amdano

  • lle bo cais yn ddiffygiol, cyngor ynglŷn â natur y broblem a beth y gellir ei wneud, os rhywbeth, i’w hunioni

  • gwasanaeth cymeradwyo cynlluniau ystad a dogfennau cofrestru tir penodol eraill.

Mae’r cyngor y gallwn ei ddarparu yn gyfyngedig. Ni fyddwn yn darparu cyngor cyfreithiol.

Mae hyn yn golygu:

  • na fyddwn yn cymeradwyo’r dystiolaeth i’w chyflwyno i gefnogi cais i gofrestru cyn inni dderbyn y cais.

  • na fyddwn yn cynnig cyngor ynglŷn â pha gamau y dylech eu cymryd oni bai ei fod yn berthnasol i’n trefnau

  • na fyddwn yn cymeradwyo ymgynghorydd proffesiynol ond gallwn esbonio sut y gallwch ddod o hyd i un.

Rydym yn darparu cyngor am geisiadau go iawn yn unig, nid am amgylchiadau damcaniaethol. Ni fyddwn yn mynegi barn am faterion lle bo’r gyfraith yn gymhleth neu’n aneglur oni bai bod y cwestiwn yn berthnasol i gais i gofrestru sy’n cael ei brosesu.

Wrth ddarparu’r wybodaeth ffeithiol hon a chyngor ynglŷn â’n trefnau byddwn yn:

  • ymddwyn yn ddiduedd

  • cydnabod y gall ein geiriau effeithio ar eraill

  • osgoi creu gwrthdaro rhwng buddion.

Manylion cysylltu

Ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid ac i gael y cyhoeddiad hwn ar ffurf wahanol cysylltwch â’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid ar customersupport@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0844 892 1122 am wasanaeth Cymraeg, neu 0844 892 1111 am wasanaeth Saesneg, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm. Cost galwadau yw 3c y funud ar dariff safonol BT, yn ogystal â’r tâl gosod/cysylltu cyfredol. Gall galwadau o dariffau a darparwyr gwasanaethau eraill a ffonau symudol gostio mwy. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyllid o’r galwadau hyn.

I gael copi o hwn a’n holl gyfarwyddiadau eraill, yn ddi-dâl:

  • darllenwch/llwythwch y cyfarwyddiadau i lawr yn Gymraeg a Saesneg o www.cofrestrfatir.gov.uk

  • cysylltwch â’n Cefnogaeth i Gwsmeriaid.

Gwybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn

Darparu cyfarwyddyd cyffredinol am drefnau a pholisïau’r Gofrestrfa Tir yw diben y wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn. Fe’i bwriedir fel canllaw yn unig ac nid yw’n ymdrin â phob sefyllfa a all godi. Nid yw chwaith yn cyfyngu ar allu’r Gofrestrfa Tir i weithredu fel y gwêl yn dda, pan fo’n briodol gwneud hynny, o fewn y ddeddfwriaeth cofrestru tir.

Prif Gofrestrydd Tir

© Hawlfraint y Goron 2011 Cofrestrfa Tir

Nid yw i gael ei atgynhyrchu heb ganiatâd yr Uned Ffurflenni, Cofrestrfa Tir (yn ôl awdurdod dirprwyedig Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi) Trafalgar House, 1 Bedford Park, Croydon CR0 2AQ

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix