logo_w

Landnet 29

Cylchgrawn cwsmeriaid y Gofrestrfa Tir

Ebrill 2012

Croeso i Landnet 29.

Byddai'r rhan fwyaf o sefydliadau'n dweud mai'r wefan yw eu prif ffenestr siop i'r byd, ac nid yw'r Gofrestrfa Tir yn wahanol.

Rydym wedi ailddatblygu'n safle gyda'r bwriad o arddangos ein gwasanaethau mor amlwg â phosibl a rhoi'r mynediad cyflymaf a mwyaf effeithlon iddynt.

Gobeithiwn y byddwch yn gwerthfawrogi'r newidiadau i'r safle ac y byddwch yn rhoi gwybod i ni sut y gellid ei wella ymhellach yn ein harolwg gwefan ym mis Mai.

Yn ogystal, gadewch i mi wybod pa bynciau ymarfer yr hoffech eu gweld yn Landnet.

Gavin Curry, Golygydd
0300 006 7299
gavin.curry@landregistry.gsi.gov.uk

Mae Landnet ar gael ar ffurfiau gwahanol ar gais. Os hoffech dderbyn Landnet ar ffurf wahanol, cysylltwch â'n Cefnogaeth i Gwsmeriaid trwy ebost customersupport@landregistry.gsi.gov.uk neu ar 0844 892 1122.

Os hoffech chi dderbyn bwletin pob tro y caiff Landnet ei gyhoeddi, anfonwch eich enw, teitl eich swydd a chyfeiriad ebost at gavin.curry@landregistry.gsi.gov.uk

Dilynwch y Gofrestrfa Tir ar Twitter

Newyddion

Ail-lansio'r wefan

Ailddatblygwyd gwefan y Gofrestrfa Tir i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn gynted â phosibl.

Mae adrannau penodol o dan benawdau ‘Proffesiynol’, ‘Y Cyhoedd’, ‘Masnachol’ ac ‘Y Cyfryngau’ yn galluogi ymwelwyr i gyrraedd yr adran sydd fwyaf perthnasol iddynt.

Mae gan y tudalennau newydd ddiwyg glân a chyfoes sy'n pwysleisio eglurder, cysondeb a chyflymder llywio.

Ychwanegwyd cynnwys ffres i'r wefan yn ddiweddar hefyd, gan gynnwys porth newydd i'n E-wasanaethau busnes, cyfarwyddyd cynhwysfawr i'n gwasanaethau Add Value a ‘cwestiynau a ofynnir yn aml’ diwygiedig.

Gallwch ddod o hyd i'n data tueddiadau'r farchnad am ddim, a gyhoeddir pob mis ar y cyd â'n mynegai prisiau tai, yn ogystal â'r amrywiaeth arferol o ddeunydd ynghylch ymarfer, polisi a hyfforddiant.

Yn ogystal, rydym yn dathlu ein 150 mlwyddiant gyda chystadleuaeth ar-lein.

Dechrau'r daith ar gyfer y Gofrestrfa Tir ar-lein yw'r newidiadau hyn ac mae rhagor o ddatblygiadau wedi'u cynllunio ar gyfer eleni a thu hwnt.

Byddwn yn cynnal arolwg o'r wefan ym mis Mai. Hoffwn ichi gymryd rhan er mwyn inni wybod eich barn am y wefan newydd ac unrhyw awgrymiadau sydd gennych ar gyfer gwelliannau pellach.

  • Sylwer, o ddydd Sadwrn 14 Ebrill mae'n bosibl na fydd unrhyw nod tudalen i borthol y Gofrestrfa Tir yn gweithio mwyach. Os ydych yn ddefnyddiwr porthol, defnyddiwch http://eservices.landregistry.gov.uk a rhowch y cyswllt i’ch cydweithwyr yn eich sefydliad.

Cyhoeddi data pris a dalwyd misol

Ym mis Mawrth cyhoeddwyd ein data pris a dalwyd misol am ddim am y tro cyntaf.

Mae data pris a dalwyd yn cynnwys y data pris eiddo preswyl misol diweddaraf ar gyfer pob eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru. Mae'r data yn cynnwys:

  • cyfeiriad llawn yr eiddo
  • y pris a dalwyd
  • dyddiad y trosglwyddiad
  • y math o eiddo
  • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
  • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.

Data pris a dalwyd yw ail ran data tueddiadau'r farchnad i'w ryddhau gan y Gofrestrfa Tir fel aelod o'r Grŵp Data Cyhoeddus.

O hyn ymlaen caiff ei gyhoeddi bob mis ynghyd â'r data trafodiad a ryddhawyd gyntaf ym mis Ionawr a'r Mynegai Prisiau Tai.

Llwyddiant boddhad cwsmeriaid

Mae boddhad cwsmeriaid â'r Gofrestrfa Tir wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers i'n harolwg annibynnol ddechrau yn 2007.

Mae'r canlyniadau diweddaraf (mis Ionawr i fis Mawrth) yn dangos i 99 y cant o'n cwsmeriaid raddio gwasanaeth cyffredinol y sefydliad fel da, da iawn neu ragorol, sy'n golygu bod ein sgôr boddhad cwsmeriaid ar gyfer y flwyddyn yn 97 y cant yn erbyn ein targed o 95 y cant.

Yn ogystal rydym yn defnyddio mesur Sgôr Hyrwyddo Net, adlewyrchiad o berthynas a phrofiadau'n cwsmeriaid wrth ddelio â ni. Cawsom y sgôr uchaf erioed o 55 y cant yn y chwarter, sy'n gosod y Gofrestrfa Tir yn y chwartel uchaf o sefydliadau yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Dywedodd Annette Davies-Govett, Cyfarwyddwr y Strategaeth Fasnachol a Chwsmeriaid, bod y canlyniadau yn ardystiad ardderchog gan ein cwsmeriaid a'u bod yn dangos gallu'r Gofrestrfa Tir i addasu i anghenion cwsmeriaid mewn amgylchedd heriol sy'n newid.

'Bydd cynnal safle mor gadarnhaol yn gofyn am waith caled ac ymrwymiad parhaus a byddwn yn parhau i wrando a chydweithio â'n cwsmeriaid er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i'w hanghenion sy'n newid,' dywedodd.  'Mae teimlad aruthrol o falchder o fewn y Gofrestrfa Tir ein bod wedi derbyn ardystiad mawr gan ein cwsmeriaid.'

Bydd canlyniadau llawn yr arolwg ar gael yn Landnet 30.

Register extract logo

Gwasanaeth Register Extract yn ennill gwobr

Mae Gwasanaeth Register Extract wedi ennill y brif wobr yng nghategori ‘Delivering Business Value and E-Commerce’ yn 8fed seremoni wobrwyo Real IT.

Mae'r gwasanaeth, sydd ar gael trwy Business Gateway, yn bwydo gwybodaeth o'r Gofrestr Tir yn uniongyrchol i systemau rheoli achos cwsmeriaid.

Disgrifiodd y beirniad y gwasanaeth fel enghraifft wych lle na allwch golli wrth ddarparu gwerth i'r Gofrestrfa Tir a'i chwsmeriaid.

Dathlu 150 mlynedd

Agorodd y Gofrestrfa Tir ei drysau i fusnes gyntaf ar 15 Hydref 1862 ar ôl hynt Deddf Cofrestrfa Tir yr Arglwydd Ganghellor Westbury.

Byddwn yn dathlu ein 150 mlwyddiant yn ystod y misoedd i ddod trwy bori trwy ein hanes cyfoethog ac amlygu rhai o'r digwyddiadau a'r personoliaethau amlwg.

Ruoff a RoperRuoff a Roper

Mae enwau seithfed ac wythfed Cofrestrydd Tir y Gofrestrfa Tir wedi'u hanfarwoli yn y cyfarwyddyd hanfodol i gofrestru tir a elwir yn Registered Conveyancing yn swyddogol ond a elwir yn Ruoff a Roper yn gyffredinol.

Roedd Theodore Ruoff yn awdur toreithiog cyn, yn ystod ac ar ôl ei arweinyddiaeth o'r sefydliad rhwng 1963 ac 1975.

Mr Ruoff oedd y cyfreithiwr cyntaf i wasanaethu fel Prif Gofrestrydd Tir ar ôl dileu'r gofyniad i'r rôl gael ei llenwi gan fargyfreithiwr.

Llywyddodd y cyfnod o ymestyniad mwyaf o ran cofrestru gorfodol ac agoriad chwech o swyddfeydd lleol.

Daeth dilynydd Mr Ruoff, Bob Roper, yn olygydd Registered Conveyancing ar gyfer y trydydd argraffiad yn 1972.

Gwelodd yr wyth mlynedd y bu Mr Roper yn bennaeth ar y Gofrestrfa Tir hyd 1983 gynnydd pellach o ran y broses o gyfrifiadura a ddechreuwyd gan Mr Ruoff, gan osod y sylfaeni ar gyfer y gwasanaethau electronig sydd gennym heddiw.

Agorwyd tair swyddfa leol pellach a chynyddodd nifer y teitlau yn y Gofrestr Tir o 5 miliwn i 8 miliwn.

Gwasanaethau

Gwella'r porthol

Cyflwynwyd gwelliant i borthol y Gofrestrfa Tir yn ystod mis Mawrth.

  • Os na ellir cyflwyno cofrestr a/neu gynllun teitl yn electronig, o hyn ymlaen caiff sgrîn ychwanegol ei harddangos lle y gallwch nodi nifer y copïau sydd eu hangen arnoch. Codir ffi am bob copi a archebir.

Diweddarwyd ein modiwl hyfforddiant ‘How to request official copies’ i adlewyrchu'r gwelliant hwn.

Gwneir y gwelliant yn ychwanegol at y gwelliannau a wnaed i'r gwasanaeth porthol ‘Request Official copy’ ym mis Medi 2011.

Talu gan ddefnyddio debyd uniongyrchol newidiol

Mae'r rhan fwyaf o gwsmeriaid y Gofrestrfa Tir yn talu am rai o'u gwasanaethau trwy ddebyd uniongyrchol newidiol trwy tua 17,000 o gyfrifon debyd uniongyrchol newidiol gweithredol.

Mae mwy a mwy o gwsmeriaid yn mynd cam ymhellach ac wedi rhoi'r gorau i anfon sieciau i'r Gofrestrfa Tir, gan dalu am bob un o'u gwasanaethau – gan gynnwys eu ceisiadau safonol ar bapur – trwy ddebyd uniongyrchol newidiol.

Ymhlith y manteision a nodir gan gwsmeriaid mae:

  • arbed amser a chostau gweinyddu
  • dim sieciau
  • cynnwys rhif cyfeirnod y cwsmer, yn ogystal ag enw defnyddiwr yr e-wasanaethau lle y bo ar gael, mewn datganiadau debyd uniongyrchol newidiol er mwyn helpu gyda'r broses archwilio/cymodi
  • gwybod pryd y bydd arian yn gadael y cyfrif banc enwebedig.

Murray Fraser, Cyfreithiwr a Notari Cyhoeddus Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol Lluosog, Breeze & Wyles

"Pan fabwysiadodd Breeze & Wyles y system debyd uniongyrchol newidiol gyda'r Gofrestrfa Tir roeddwn yn amheus iawn. Roeddem wedi gweithredu trwy dalu'n ffïoedd trwy siec fesul cais ers cyn i mi ymuno â'r cwmni yn 1995 ac yn fy marn i roedd y system wedi gweithio a rhoi rheolaeth i ni dros y taliadau.

"Yr hyn nad oeddwn wedi sylweddoli cyn hynny oedd faint o amser gweinyddol oedd yn cael ei dreulio gan staff a'm hadran cyfrifon wrth gymodi a phrosesu sieciau. Mae'r system debyd uniongyrchol wedi torri gwariant ar gostau cyffredinol yn sylweddol o ran costau llafur ar gyfer ein sefydliad, ac ni fyddai fy staff a oedd yn wrthwynebus i’r newid ar y cychwyn bellach yn barod i ddychwelyd i'r hen system.

"Roedd colli rheolaeth o daliadau yn ofid camarweiniol hefyd. Rydym yn gallu rheoli ein llif arian yn well nawr gan ein bod yn cael atodlenni o daliadau allan gan y Gofrestrfa Tir sy'n rhoi gwell eglurder i ni o ran debydau o'n cyfrif banc yn y dyfodol.

"Rydym yn sicr yn amheuwyr troëdig o ran system debyd uniongyrchol y Gofrestrfa Tir."

Cwestiynau a ofynnir yn aml

C Sut y gallaf olrhain symiau a ddebydir o fy nghyfrif?

A Ar ôl derbyn cais i'r Gofrestrfa Tir sy'n nodi y dylid talu'r ffi trwy ddebyd uniongyrchol, mae'r ffi sy'n seiliedig ar y Gorchymyn Ffi presennol yn cael ei throsglwyddo i'n system gyllid.

Caiff datganiad o gyfrifon ei chynnal dros nos ac anfonir ebost at eich cyfeiriad cyswllt cyllid y bore canlynol (y dyddiad hysbysu). Dyma'r hysbysiad ffurfiol o'r cyfanswm dyddiol ar gyfer pob cyfrif rhif allwedd debyd uniongyrchol newidiol i'w debydu dau ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad hysbysu.

Bydd cwsmeriaid sydd ag unigolyn sy'n gyfrifol am y porthol neu rolau gweinyddwr cyllid yn gallu gweld gwerth tri mis o ddata debyd uniongyrchol newidiol ar-lein i'w cynorthwyo gyda chymodi cyfrifon.

Gellir llwytho'r data ar-lein hwn i lawr ar ffurf pdf neu CSV.

Mae llawer o gwsmeriaid yn dewis trosglwyddo'r union swm yn ddyddiol ar ôl derbyn yr hysbysiad o ddebyd, er enghraifft o gyfrif banc cleient i'w cyfrif banc debyd uniongyrchol newidiol.

C Pa mor aml y byddwch yn casglu arian o fy nghyfrif debyd uniongyrchol newidiol?

A Cesglir dyledion pob diwrnod gwaith (lle bo cyfansymiau ffïoedd dyddiol yn fwy na £50). Efallai y bydd gan gwsmeriaid sy'n cyflwyno llai o waith atom ddebydau yn llai aml, er byddwn bob amser yn casglu symiau debyd uniongyrchol newidiol pob wythnos lle y cafwyd ceisiadau sy'n codi ffïoedd yn ystod yr wythnos honno. Byddwn yn rhoi hysbysiad o ddebyd ymlaen llaw bob amser.

C Sut y gallaf gael rhagor o fanylion?

A Ewch i'n cyhoeddiadau am dalu am wasanaethau gan gynnwys y porthol a heb gynnwys y porthol.

Cefnogaeth i gwsmeriaid

Mae'r Gofrestrfa Tir yn ceisio rhoi cymorth i'n holl gwsmeriaid i'w cynorthwyo gydag ymholiadau cyffredinol ynghylch ymarfer a threfn. Rydym hefyd yn rhoi cymorth ac arbenigedd technegol i'r cwsmeriaid proffesiynol hynny sy'n defnyddio ein gwasanaethau electronig.

Er bod llawer o'r wybodaeth sydd ei hangen ar ein cwsmeriaid ar gael ar ein gwefan, sylweddolwn fod adegau lle y byddwch am gysylltu â ni'n uniongyrchol i gael cymorth ychwanegol, naill ai trwy ebost neu dros y ffôn.

Rydym yn cynnig cefnogaeth i gwsmeriaid trwy gyswllt uniongyrchol gyda'n timau cwsmeriaid, sydd wedi'u lleoli yn ein 14 o swyddfeydd lleol, a thrwy ein canolfan cyswllt cwsmeriaid (CCC), lle bo'n swyddogion gweithredol gwasanaeth cwsmeriaid ar gael rhwng 8am a 6pm.

Os oes gennych broblem sydd angen ei ddatrys neu mae gennych gwestiwn sydd angen ateb ar unwaith, mae'r erthygl hon yn ceisio egluro â phwy y dylech gysylltu.

 phwy y dylwn gysylltu?

Timau cwsmeriaid

Os rhoddwyd tîm cwsmer i chi, byddant yn darparu'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer eich ymholiadau cofrestru cyffredinol a gwasanaethu cychwynnol, waeth beth fu'r dull cyflwyno.

Mae ffonio tîm cwsmeriaid yn uniongyrchol yn rhoi cyswllt ar unwaith i chi i'r bobl sy'n prosesu eich ceisiadau. Mae eu gwybodaeth fanwl yn eu galluogi i roi ymateb cyflym.

Ar hyn o bryd ni all timau cwsmeriaid ddelio ag ymholiadau sy'n ymwneud â'r defnydd o E-wasanaethau busnes, cynnal cyfrif na newidiadau i'r system porthol. Dylid parhau i gysylltu â'r CCC ar gyfer ymholiadau o'r fath.

Cysylltwch ag arweinydd eich tîm cwsmer os nad oes gennych restr o rifau cyswllt eich tîm.

Canolfan cyswllt cwsmeriaid (CCC)

Ffoniwch 0844 892 1122 neu anfonwch ebost at customersupport@landregistry.gsi.gov.uk

Mae gan bob un o'n swyddogion gweithredol gwasanaeth cwsmeriaid gefndir o waith cais ac maent wedi'u hyfforddi i ddelio ag ymholiadau cyffredinol mewn perthynas â phob agwedd ar ein gwasanaethau. Os na allant ateb ymholiad arbenigol ar unwaith, byddant yn ei gyfeirio at y person priodol.

Mae'r CCC yn ateb:

  • ymholiadau cyffredinol gan unigolion preifat a chwsmeriaid proffesiynol nad ydynt wedi'u cysylltu â thîm cwsmer.
  • galwadau mewn perthynas â Chwilio am Eiddo (rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, heblaw gwyliau banc)
  • ymholiadau am e-wasanaethau busnes/mynediad i wasanaeth gan unrhyw gwsmeriaid busnes
  • galwyr sydd am ddefnyddio ein Gwasanaethau Ffôn
  • ceisiadau ar gyfer apwyntiadau mewn swyddfeydd lleol
  • unrhyw ebost cyffredinol neu ebost sy'n ymwneud â mynediad i wasanaeth, gan gynnwys negeseuon am y defnydd o E-wasanaethau busnes.

Yn ogystal, mae CCC yn rheoli:

  • ceisiadau i sefydlu cyfrifon E-wasanaethau busnes, rhifau allwedd a chyfrifon debyd uniongyrchol newidiol
  • cynnal cyfrifon E-wasanaethau busnes, gan gynnwys newid enw neu endid cyfreithiol, newid cyfeiriad ac ati.

Awgrymiadau ar gyfer arbed amser

  • Ewch i'n cyfarwyddiadau ymarfer, cyfarwyddiadau cyhoeddus a'n gorchmynion ffi.
  • Edrychwch ar ein gwefan ar gyfer adnoddau hyfforddi am ddim ar-lein, gan gynnwys hyfforddiant E-wasanaethau busnes a'n rhaglen hyfforddiant cwsmeriaid.
  • Ymgyfarwyddwch â'n polisi ymgynghorol, yn arbennig mewn perthynas â'r ddarpariaeth o gyngor cyfreithiol.
  • Cofiwch na fyddwn yn darparu gwasanaethau dros y ffôn sy'n destun talu ffi statudol.
  • Cyflwynwch eich ymholiad trwy ebost os cewch unrhyw anawsterau wrth gael gafael ar eich tîm cwsmer neu'r CCC dros y ffôn.
  • Ystyriwch ffonio rhwng 9am a chanol dydd, a rhwng 2pm a 4pm er mwyn cael yr ymateb cyflymaf posibl.

Hyfforddiant

Gwe-seminarau yn archwilio ymarfer y Gofrestrfa Tir

Mae CLT a'r Gofrestrfa Tir yn cynnal cyfres o we-seminarau ar y cyd ar amrywiaeth o ddisgyblaethau.

Caiff pob un o'r gwe-seminarau eu cyflwyno gan siaradwr CLT adnabyddus a chyfreithiwr y Gofrestrfa Tir a bydd yn cynnig cipolwg ar feysydd ymarfer anodd.

Bydd ffurf sesiwn cwestiwn ac ateb wedi'u strwythuro i bob un ohonynt lle y bydd siaradwyr arbenigol CLT yn gofyn cwestiynau craff i gyfreithiwr y Gofrestrfa Tir ar ôl crynhoi'r gyfraith ac yna'n gwahodd cynadleddwyr i ymuno yn y drafodaeth a gosod eu cwestiynau eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle:

Dydd Mercher 2 Mai: Property litigation – An insight into Land Registry practice

Dydd Mercher 23 Mai: Commercial property – An insight into Land Registry practice

Dydd Iau 28 Mehefin: Registration fraud – An insight into Land Registry practice

Dydd Llun 2 Gorffennaf: Family law – An insight into Land Registry practice

Ymarfer

Meddiant gwrthgefn: cymharu eich ceisiadau yma – tir prydlesol

Yn yr ail o ddwy erthygl, mae un o gyfreithwyr y Gofrestrfa Tir yn cymharu ceisiadau'n seiliedig ar feddiant gwrthgefn tir prydlesol

Yn Landnet 28, heb anifail blewog na thenor i'w gweld yn unman, cymharwyd elfennau o geisiadau'n seiliedig ar feddiant gwrthgefn sy'n ymwneud â thir rhydd-ddaliol digofrestredig a chofrestredig. Bydd yr erthygl hon yn cymharu ceisiadau'n ymwneud â thir prydlesol, ond cyn hynny, dyma'ch atgoffa.

Cyn 13 Hydref 2003, roedd y Ddeddf Cyfyngiadau’n berthnasol i dir digofrestredig a chofrestredig ac roedd cais i gofrestru teitl sgwatiwr yr un peth yn y bôn, er bod y broses yn wahanol. Fodd bynnag, cyflwynodd Deddf Cofrestru Tir 2002 (DCT 2002) gyfundrefn newydd ar gyfer ceisiadau i gofrestru teitl i dir cofrestredig yn seiliedig ar feddiant gwrthgefn.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar wahaniaethau a thebygrwydd rhwng ceisiadau meddiant gwrthgefn tir prydlesol digofrestredig a lle na chwblhawyd meddiant gwrthgefn tir prydlesol cofrestredig ar 12 Hydref 2003 fan bellaf ac ar neu ar ôl 13 Hydref 2003.

Mae effaith meddiant gwrthgefn a'r ffordd y gall arwain at sgwatiwr yn cael ei gofrestru'n berchennog teitl yn dibynnu ar b'un a yw'r tir sy'n cael ei hawlio'n deitl digofrestredig neu gofrestredig. Fodd bynnag, mae ystyr "meddiant gwrthgefn" yn aros yn debyg. Waeth a yw tir yn ddigofrestredig neu'n gofrestredig, neu pryd y dechreuodd y meddiant, mae'n rhaid i'r sgwatiwr brofi ei fod mewn "meddiant gwrthgefn". Ni fydd yr erthygl hon, fodd bynnag, yn edrych ar yr hyn a olygir gan "feddiant gwrthgefn" ond beth i'w ystyried pan fo gan y sgwatiwr hawl i wneud cais ar ôl bod mewn "meddiant gwrthgefn".

Gellir dosbarthu ceisiadau mewn perthynas â thir prydlesol mewn dau gategori.

1. Lle bo'r meddiant gwrthgefn yn erbyn tenant, a
2. lle bo'r meddiant gwrthgefn gan y tenant.

Byddwn yn edrych ar y ddau yn eu tro.

Sylwer nad yw'n bosibl delio â holl fanylion meddiant gwrthgefn mewn dwy erthygl fer. I gael rhagor o gyfarwyddyd am agwedd y Gofrestrfa Tir tuag at geisiadau'n seiliedig ar feddiant gwrthgefn gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 4 – Meddiant gwrthgefn tir cofrestredig a Chyfarwyddyd Ymarfer 5 – Meddiant gwrthgefn (1) tir digofrestredig a (2) tir cofrestredig lle y caffaelwyd yr hawl i gofrestru cyn 13 Hydref 2003.

1. Lle bo'r meddiant gwrthgefn yn erbyn tenant

(a) Tir digofrestredig

Ar ddiwedd y cyfnod cyfyngu, ni all y tenant adennill meddiant gan y sgwatiwr.

Ond:

  • nid oes "trawsgludiad statudol" o'r brydles i'r sgwatiwr
  • mae'r brydles yn parhau rhwng y landlord a'r tenant
  • gall y tenant ildio'r brydles, ac
  • nid yw amser wedi dechrau yn erbyn y landlord, felly gall y landlord adennill meddiant yn erbyn y sgwatiwr.

Felly, ni fydd y Gofrestrfa Tir yn derbyn unrhyw gais yn seiliedig ar feddiant gwrthgefn yn erbyn tenant.

(b) Tir cofrestredig

i. Darpariaethau trosiannol o dan baragraff 18, Atodlen 12, DCT 2002 (‘y darpariaethau trosiannol’)

Mae hyn pan fydd sgwatiwr yn hawlio iddo fod mewn meddiant gwrthgefn ystad brydlesol gofrestredig A bod y cyfnod cyfyngu perthnasol wedi dod i ben cyn 13 Hydref 2003.

  • Ar ddiwedd y cyfnod cyfyngu, cadwyd yr ystad gofrestredig ar ymddiried i'r sgwatiwr.
  • Nawr mae gan y sgwatiwr yr hawl i gael ei gofrestru'n berchennog.
  • Ni ellir colli'r hawl hon trwy ildiad, ar yr amod bod y sgwatiwr mewn union feddiant, oherwydd bod yr hawl sydd i'w chofrestru'n fudd gor-redol.

Felly, ni all y Gofrestrfa Tir dderbyn cais yn seiliedig ar feddiant gwrthgefn yn erbyn tenant o dan y darpariaethau trosiannol.

  • Dylid gwneud y cais ar ffurflen AP1.

ii. O dan Atodlen 6, DCT 2002 (‘Atodlen 6’)

Ar ddiwedd y cyfnod o 10 mlynedd, mae gan y sgwatiwr yr hawl i wneud cais i gael ei gofrestru'n berchennog yn lle'r tenant.

Ar yr amod nad oes cais sy'n aros i’w brosesu i gofrestru ildiad o'r brydles, gellir parhau â'r cais a bydd yn agored i her naill ai gan wrthwynebiad neu gan wrthrybudd gan y tenant.

  • Dylid gwneud y cais ar ffurflen ADV1.

2. Lle bo'r meddiant gwrthgefn gan denant

(a) Tir digofrestredig

Yn ogystal â'r datganiad statudol/datganiad o wirionedd arferol i gefnogi'r cais, mae angen i'r ceisydd gyflwyno tystiolaeth i wrthbrofi'r rhagdybiaeth bod y meddiant gwrthgefn er budd ei landlord.

Os na chyflwynir y dystiolaeth, caiff y cais ei drin fel cais i gofrestru ystad brydlesol, a dim ond os oes saith mlynedd neu ragor yn weddill o'r brydles ddogfennol y gellir parhau a'r cais.

  • Os cyflwynir y dystiolaeth wrthbrofi, caiff rhybudd ei gyflwyno i'r landlord sy'n cyfeirio at y rhagdybiaeth, gan roi'r cyfle iddo wrthwynebu.
  • Lle mai rhywun arall heblaw landlord y tenant sy'n berchen ar y tir, rhoddir rhybudd i'r trydydd parti hwn (gan gyfeirio at y rhybudd a roddwyd i'r landlord).
  • Dylid gwneud y cais ar ffurflen FR1.

(b) Tir cofrestredig

i. Y darpariaethau trosiannol

  • Dylid gwneud y cais ar ffurflen FR1.

Bydd y Gofrestrfa Tir yn ysgrifennu at y ceisydd i egluro:

  • bod y rhagdybiaeth, os yw'n gymwys, yn atal y tenant rhag bod yn fuddiolwr o dan yr ymddiried a grëwyd gan adran 75 Deddf Cofrestru Tir 1925 ac felly'n ei atal rhag gwneud cais o dan y darpariaethau trosiannol
  • os yw'r tenant am barhau, mae angen iddo ddarparu tystiolaeth i wrthbrofi'r rhagdybiaeth.

Os darperir tystiolaeth wrthbrofi, a pherchennog cofrestredig yr ystad sy'n destun y cais yw landlord y ceisydd, bydd y rhybudd yn cyfeirio at y rhagdybiaeth a bydd yn rhoi manylion o'r rheswm y mae'r ceisydd o'r farn nad yw'r rhagdybiaeth yn berthnasol.

Os mai trydydd parti yw'r perchennog cofrestredig, yn gyntaf bydd y Gofrestrfa Tir yn cyflwyno rhybudd i landlord y ceisydd ac yna bydd yn cyflwyno rhybudd i'r perchennog cofrestredig (gan gyfeirio at y rhybudd a gyflwynwyd i'r landlord).

ii. Atodlen 6

  • Dylid gwneud y cais ar ffurflen ADV1.

Bydd y Gofrestrfa Tir yn ysgrifennu at y ceisydd i egluro bod dwy farn.

  • Os na chaiff ei gwrthbrofi, mae'r rhagdybiaeth yn atal unrhyw feddiant gwrthgefn gan y sgwatiwr.
  • Mae'r rhagdybiaeth yn amherthnasol gan nad yw'n atal tenant sy'n sgwatio rhag bod mewn meddiant gwrthgefn, ond mae'n ymwneud â phwy sy'n cael y teitl i'r ystad cyfraith gwlad sy'n codi o ddechrau'r meddiant gwrthgefn.

Bydd y llythyr yn mynd yn ei flaen i ddweud, o dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Gofrestrfa Tir yn trin y cais fel tystiolaeth ddigonol mai er budd y ceisydd ei hun y bu'r llechfeddiant, ac felly bydd yn trin y rhagdybiaeth, os yw'n berthnasol, fel pe bai wedi ei gwrthbrofi, er mwyn inni barhau.

Yn ogystal, bydd yn datgan os bydd y ceisydd yn cadarnhau ei fod am barhau, bydd y Gofrestrfa Tir yn cyflwyno rhybudd i'r landlord sy'n nodi'r un pwyntiau mewn perthynas â'r rhagdybiaeth.

Os yw’r ceisydd yn cadarnhau ei fod am barhau ac mai landlord y ceisydd yw perchennog cofrestredig yr ystad sy'n destun y cais, bydd y rhybudd yn cyfeirio at y rhagdybiaeth a bydd yn cynnwys y wybodaeth uchod.

Os mai trydydd parti yw'r perchennog cofrestredig, yn gyntaf bydd y Gofrestrfa Tir yn cyflwyno rhybudd i landlord y ceisydd ac yna’n cyflwyno rhybudd i'r perchennog cofrestredig (gan gyfeirio at y rhybudd a gyflwynwyd i'r landlord).

Dileu cyfyngiadau Ffurf A

Dyma'r ail o ddwy erthygl am gyfyngiadau Ffurf A ac mae'n dilyn Deall cyfyngiad Ffurf A yn Landnet 27

Lle nad oes angen cyfyngiad Ffurf A presennol mwyach oherwydd i'r perchennog neu berchnogion cofrestredig ddod yn unig berchennog neu berchnogion llesiannol (ac yn achos cydberchnogion, eu bod yn gyd-denantiaid llesiannol) dylid gwneud cais i ddileu'r cofnod.

Mae gwneud hyn yn gynnar er budd y perchennog tra bo ffeithiau perthnasol wrth law o hyd. Lle bo cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr, dylai fod yn arferol wrth wneud cais i gofrestru trosglwyddiad na fydd yn gorgyrraedd unrhyw fuddion llesiannol, neu i nodi marwolaeth cydberchennog, i ystyried a ddylid gwneud cais i ddileu'r cyfyngiad hefyd.

Caiff cofrestriad gwarediad gan unig berchennog o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi ei ddal gan gyfyngiad Ffurf A. Dylid cynnwys cais i ddileu'r cyfyngiad gyda chais i gofrestru gwarediad o'r fath. Os na ellir dileu'r cyfyngiad oherwydd mai'r perchennog yw'r unig berson â budd llesiannol yn yr eiddo, dylid penodi ail ymddiriedolwr i dderbyn yr arian cyfalaf sy'n codi o dan y gwarediad.

O dan amgylchiadau penodol gellir gwneud cais i dynnu cyfyngiad o dan adran 47, Deddf Cofrestru Tir 2002 (DCT 2002) yn lle gwneud cais i ddileu.

Cyn trafod y dystiolaeth sy'n ofynnol i gefnogi cais i ddileu neu dynnu cyfyngiad Ffurf A yn ôl, byddwn yn edrych yn fras ar ddileu cyfyngiad yn awtomatig heb gais.

Gorgyrraedd a dileu awtomatig cyfyngiadau Ffurf A

Gorgyrraedd yw'r broses lle y caiff budd llesiannol ei drosglwyddo o'r tir i enillion y gwerthiant fel y gall y trosglwyddai, y prydlesai neu'r arwystlai eu cymryd am ddim o'r llog. Mae'n gofyn am drawsgludiad i brynwr ystad gyfreithiol (adran 2 Deddf Cyfraith Eiddo 1925 (DCE 1925)) lle y caiff unrhyw arian cyfalaf sy'n codi ei dalu i ddau ymddiriedolwr o leiaf neu i gorfforaeth ymddiried (adran 27(2) DCE 1925). Mae'r ymadrodd ‘trawsgludiad’ yn cynnwys trosglwyddiad, arwystl neu brydles.

Caiff cyfyngiad Ffurf A ei ddileu heb gais pellach os yw'r cofrestrydd yn fodlon, pan gofrestrir trosglwyddiad, i unrhyw fuddion llesiannol yn yr eiddo fod wedi'u gorgyrraedd (rheol 99, Rheolau Cofrestru Tir 2003 (RhCT 2003)). Sylwer, yn absenoldeb tystiolaeth fel arall, lle y gwneir cais i gofrestru trosglwyddiad am arian o A a B i A, man cychwyn y Gofrestrfa Tir wrth benderfynu ble y cafwyd gorgyrraedd fydd trin A fel prynwr cyfran llesiannol B yn hytrach nag ystad gyfreithiol.

Dileu wrth wneud cais

Bydd y Gofrestrfa Tir yn dileu cyfyngiad os gwneir cais ar ffurf RX3 gyda thystiolaeth ddigonol i fodloni'r cofrestrydd nad oes angen y cyfyngiad mwyach (rheol 97 RhCT 2003). Nid oes ffi i'w thalu.

Mae lefel y dystiolaeth angenrheidiol i fodloni'r cofrestrydd nad oes angen cyfyngiad Ffurf A mwyach wedi'i chymhlethu gan y pwynt mai dim ond un cyfyngiad Ffurf A y gellir ei gofnodi yn y gofrestr. Er ei bod yn bosibl gwneud cofnod penodol mewn perthynas â rhai buddion o dan ymddiried (megis cofnodi cyfyngiad Ffurf K mewn perthynas â gorchymyn tâl ar fudd llesiannol cydberchennog), yr unig gofnod a wneir mewn perthynas â llawer o fuddion llesiannol mewn eiddo yw cyfyngiad Ffurf A. Oherwydd y gall yr ymddiriedau y mae'r tir yn destun iddynt newid gydag amser, nid yw'n ddigonol edrych ar y rheswm pam y cofnodwyd y cyfyngiad Ffurf A yn wreiddiol.

Ni fydd unigolyn heb wybodaeth o'r ymddiriedau sy'n effeithio ar eiddo yn gallu gweld o'r gofrestr pa fuddion sydd wedi arwain at y cyfyngiad. Er enghraifft, gall cydberchnogion ddal y tir fel tenantiaid cydradd a nhw yw'r unig bobl sydd â budd llesiannol yn yr eiddo neu gallant ddal fel ymddiriedolwyr nifer o wahanol ymddiriedau ar gyfer buddiolwyr lluosog.

Gan nad oes gan y cofrestrydd wybodaeth o'r ymddiriedau, dylai'r dystiolaeth sy'n dod gyda chais i ddileu cyfyngiad Ffurf A ddangos:

  • lle ceir unig berchennog, mai'r perchennog nawr yw'r unig berson â budd llesiannol yn yr eiddo, neu
  • lle ceir cydberchnogion, bod y perchnogion nawr yn dal y tir mewn ymddiried iddynt eu hunain fel cyd-denantiaid llesiannol ac nad oes gan unrhyw un arall fudd llesiannol yn yr eiddo.

Fel enghraifft ymarferol, gellir gwneud cais i ddileu cyfyngiad Ffurf A gan oroeswr cydberchnogion a fu'n unig berchnogion llesiannol yn dal fel tenantiaid cydradd yn wreiddiol. Yn ogystal â dangos sut i gyfran y perchennog fu farw ddisgyn i'r goroeswr, dylai'r cais gael ei gefnogi gan gadarnhad na chrëwyd unrhyw fuddion eraill yn ystod perchnogaeth y perchnogion (megis morgais cyfran un o'r unigolion neu fudd o dan weithred ymddiried newydd).

Dylai'r dystiolaeth gefnogol sy'n dod gyda chais i ddileu fod ar ffurf datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan y perchennog neu berchnogion cofrestredig sy'n:

  • esbonio'r hyn sydd wedi digwydd i'r budd llesiannol gwreiddiol a warchodwyd gan y cyfyngiad
  • os disgynnodd i'r perchennog neu berchnogion cofrestredig, esbonio sut y bu hynny
  • cadarnhau, os dyma'r achos, nad oes gan unrhyw un heblaw'r perchennog cofrestredig fudd llesiannol yn yr eiddo
  • cadarnhau, os dyma'r achos, na chafodd unrhyw fudd llesiannol yn yr eiddo ei lyffetheirio (heblaw gan arwystl sydd hefyd o’r ystad gyfreithiol), ac
  • os oes dau neu fwy o berchnogion cofrestredig, ei bod yn cadarnhau, os dyma'r achos, eu bod yn dal yr eiddo ar ymddiried iddynt eu hunain fel cyd-denantiaid llesiannol.

Fel arall, byddwn yn derbyn tystysgrif debyg gan drawsgludwr sy'n gweithredu ar ran y perchennog/perchnogion cofrestredig os gall siarad o'i wybodaeth ei hun o'r ffeithiau.

Tynnu cyfyngiad Ffurf A yn ôl

Gellir tynnu cyfyngiad Ffurf A a gofnodwyd ar gais gan unigolyn â budd llesiannol yn yr eiddo o dan adran 47, DCT 2002. Fodd bynnag, cofnodir y rhan fwyaf o gyfyngiadau Ffurf A ar gais gan y perchennog/perchnogion cofrestredig yn unol â'u hymrwymiad o dan rheol 94, RhCT 2003 neu gan y cofrestrydd heb gais o dan adran 44(1), DCT 2002. Lle mai dyma'r achos neu lle y cofnodwyd y cyfyngiad yn unol â gorchymyn llys, ni ellir tynnu'r cyfyngiad yn ôl (rheol 98(3), RhCT 2003). Dylid gwneud cais ar ffurflen RX4 ac nid oes ffi i'w thalu. Rhaid gwneud y cais gan, neu gyda chydsyniad, “pawb sydd, ym marn y cofrestrydd, â budd yn y cyfyngiad” (rheol 98(2)(e), RhCT 2003).

Bydd y cofrestrydd yn derbyn cais i dynnu yn ôl os caiff ei wneud gan neu gyda chydsyniad yr unigolyn a wnaeth y cais i gofnodi'r cyfyngiad. Fodd bynnag, yn anaml y bydd y cofrestrydd mewn sefyllfa i benderfynu pwy yn ogystal â'r person hwnnw sydd â budd yn y cyfyngiad (oherwydd nad yw'n bosibl cofnodi cyfyngiadau Ffurf A ychwanegol mewn perthynas â buddion ychwanegol) ac felly, yn ogystal â chadarnhau mai'r ceisydd i dynnu'r cyfyngiad yn ôl neu’r unigolyn sy'n cydsynio i'r cais yw'r person a wnaeth y cais gwreiddiol ar gyfer y cyfyngiad, bydd angen y dystiolaeth ganlynol hefyd:

  • nad oes gan unrhyw un fudd llesiannol yn yr eiddo heblaw budd y perchennog cofrestredig
  • nad oes unrhyw fudd llesiannol yn yr eiddo wedi'i lyffetheirio (heblaw gan arwystl sydd hefyd o’r ystad gyfreithiol), ac
  • os oes dau neu fwy o berchnogion cofrestredig, eu bod yn dal yr eiddo mewn ymddiried drostynt eu hunain fel cyd-denantiaid llesiannol

ac egluro:

  • beth sydd wedi digwydd i fudd llesiannol yr unigolyn a wnaeth y cais gwreiddiol i gofnodi'r cyfyngiad, a
  • sut y mae’r person a wnaeth y datganiad mewn sefyllfa i ddarparu cadarnhad o'r pwyntiau hyn.

Yn ymarferol, yn aml ni fydd y person sy'n gwneud y cais i dynnu'r cyfyngiad yn ôl mewn sefyllfa i ddarparu'r holl dystiolaeth angenrheidiol a bydd angen cynnwys y perchennog cofrestredig.

Dylid darparu'r dystiolaeth gefnogol ar ffurf datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd neu mewn tystysgrif gan drawsgludwr sy'n gallu siarad o'i wybodaeth o'r ffeithiau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyfyngiadau'n gyffredinol yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 19 – Rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr a Chyfarwyddyd Ymarfer 24 – Ymddiriedau preifat o dir.

Cyhoeddiadau

Cyfarwyddiadau ymarfer a chyhoeddus

Gallwch weld fersiynau diweddaraf pob un o'n cyfarwyddiadau ymarfer, bwletinau ymarfer a chyfarwyddiadau cyhoeddus ar ein gwefan.

Adroddiad blynyddol 2010/11

Mae ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon 2010/11 ar gael ar ffurf PDF a HTML.

Archif Landnet

Darllenwch hen rifynnau o Landnet, gan gynnwys y rhifyn arbennig am E-wasanaethau busnes.

Bwletin Business Gateway

Mae ein bwletin Business Gateway yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y gwasanaeth busnes i fusnes.

Adroddiad blynyddol yr Adolygydd Cwynion Annibynnol ar gyfer 2010/11

Mae adroddiad blynyddol yr Adolygydd Cwynion Annibynnol ar gyfer 2010/11 yn disgrifio sut yr ymatebwyd i'r materion a gadarnhawyd gan ein hadolygydd cwynion.

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix