logo_w

Cyfraith ac Ymarfer 

Ar 13 Hydref 2003 daeth Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 i rym. Gyda'i gilydd, mae'r Ddeddf a'r Rheolau yn rheoli rôl ac ymarfer y Gofrestrfa Tir.  Rhagor o wybodaeth am y Ddeddf a'r Rheolau.

Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn cyflawni'r canlynol:

  • mae'n symleiddio ac yn moderneiddio'r gyfraith o ran cofrestru tir a dyma'r tro cyntaf i'r system gofrestru tir gael ei diwygio'n sylweddol ers 75 o flynyddoedd
  • mae'r gofrestr yn rhoi darlun mwy cyflawn o deitlau i dir - gan ddangos yr hawliau a'r buddion sy'n effeithio ar y teitl hwnnw yn llawnach
  • mae'n fframwaith ar gyfer datblygu system drawsgludo electronig.

Mae newidiadau mawr i'r gyfraith ac ymarfer bellach yn effeithio ar bawb sy'n ymwneud â thir cofrestredig. Yn arbennig:

  • mae'n rhaid cofrestru prydlesi byrrach bellach
  • mae cofrestru gwirfoddol ar gael ar gyfer mathau newydd o fuddion mewn tir
  • mae'r newidiadau yn effeithio ar ddiogelwch buddion y trydydd person
  • mae'r gyfraith o ran meddiant gwrthgefn (hawliau sgwatwyr) wedi cael ei diwygio.

Er mwyn eich helpu i ddefnyddio'r Ddeddf, mae'r Gofrestrfa Tir wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau ymarfer.

Mae gennym fodiwlau ar-lein hefyd sy'n amlinellu sut i lunio cyfyngiadau yn Ffurf L a Ffurf NN.

Rydym wedi cyhoeddi Nodiadau Ymarfer ar y Cyd gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr:

Mynegai Prisiau Tai

Ebrill 2013: 259.3

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £161,458 Newid:
Misol 0.4%
Blynyddol 0.7%
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 28 Mehefin 2013

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix