Cysyltu â ni
Bydd aelod o'n tîm yn falch i'ch helpu. Gallwch naill ai ffonio am ddim ar 0800 678 1678 neu anfon neges ebost yn nodi eich gofynion ynghyd â'ch cyfeiriad post a rhif ffôn cyswllt.
Mae'r gwasanaeth hwn yn trwyddedu defnydd o'r data canlynol: cyfeiriad llawn yr eiddo (PAON, SAON, stryd, côd post, lleoliad (os yw ar gael), tref, dosbarth, sir), y pris a dalwyd am yr eiddo, dyddiad y trosglwyddiad, y math o eiddo (tŷ sengl, tŷ pâr, tŷ teras, fflat/fflat deulawr), ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio, ai rhydd-ddaliad neu les-ddaliad yw'r eiddo. Mae'r wybodaeth hon ar gael ar gyfer pob gwerthiant eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr sydd wedi cael ei gyflwyno i'r Gofrestrfa Tir i'w gofrestru. Mae'r data ar gael o 1 Ionawr 1995 ac mae'n cael ei ddiweddaru'n fisol. Ar hyn o bryd mae'r set ddata hon yn cynnwys mwy na 15 miliwn o drosglwyddiadau o dai ac mae'n cael ei diweddaru bob mis. Ychwanegir miloedd o werthiannau newydd at y gronfa ddata bob mis.
Mae gennym gontract sy'n ymdrin ag ailddefnyddio'r data hyn. Er enghraifft mae'n gwahardd yn benodol defnyddio'r data ar gyfer marchnata uniongyrchol. Mae'r contract yn ymdrin â hawlfraint a hawliau eiddo deallusol hefyd. Rydym wedi bod yn ofalus i sicrhau ein bod yn cadw'r hawlfraint yn y data hyn er ein bod yn caniatáu eu hailddefnyddio. Mae'n rhaid i holl gwsmeriaid arwyddo'r contract hwn cyn i ni gyflenwi unrhyw ddata. Mae'n rhaid iddynt hefyd dalu am ailddefnyddio'r data hyn cyn eu derbyn. Mae hyn yn unol â'n hymarfer casglu ffïoedd statudol ac mae'n osgoi dyledion drwg hefyd. I wneud cais am gontract cysylltwch â'r Tîm Add Value trwy ebost. Dylech dderbyn eich contract ymhen 20 diwrnod gwaith ar ôl i ni dderbyn eich ebost.
Rydym wedi mabwysiadu polisi ffïoedd sy'n dilyn canllawiau'r Trysorlys. Mae'n ffïoedd yn cynnwys costau datblygiad, cynnal a chadw a chyflenwi parhaus yn ogystal â'r elw ar fuddsoddiad sy'n cael ei argymell. Yn y bôn rydym yn trwyddedu'r data am danysgrifiad blynyddol ynghyd â thâl am bob cyfeiriad a brynir:
Rydym yn cyflenwi'r data naill ar ddisg neu trwy brotocol trosglwyddo ffeil (ftp) sy'n galluogi'r cwsmer i fewngofnodi i'n gwefan a chael gafael ar y data maent wedi talu i'w hailddefnyddio.
Yn achos cwsmeriaid sy'n dymuno prynu yn ôl y galw rydym yn codi ffi am y data maent am eu hailddefnyddio ar sail £0.01 (£0.0117) y cyfeiriad a gymerir.
Beth sy'n cael ei eithrio o'r set ddata? Gweler Eithriadau o'r Data
Caniateir i ddefnyddwyr eich cynnyrch gael mynediad i'r defnydd hawlfraint y Goron hwn, a'i lwytho i lawr i gyfryngau electronig, magnetig, optegol neu gyfryngau cadw tebyg ar yr amod y cyfyngir y fath weithgareddau i ymchwil breifat, astudiaeth neu ddefnydd mewnol at ddibenion anfasnachol yn unig. Mae angen caniatâd ysgrifenedig ffurfiol y Gofrestrfa Tir ar gyfer unrhyw ddefnydd masnachol o'r deunydd. Gellir gael hyn trwy gysylltu â ni a bydd angen trwydded a thâl ychwanegol.
Bydd aelod o'n tîm yn falch i'ch helpu. Gallwch naill ai ffonio am ddim ar 0800 678 1678 neu anfon neges ebost yn nodi eich gofynion ynghyd â'ch cyfeiriad post a rhif ffôn cyswllt.
![]()