Adroddiadau dadansoddi prisiau eiddo

Os oes angen i chi olrhain tueddiadau prisiau tai unrhyw le yng Nghymru a Lloegr, yna mae'r Gofrestrfa Tir wedi gwneud y gwaith caled i chi! Mae gennym y cofnodion swyddogol o dros 15 miliwn o werthiannau a gallwn gyflenwir adroddiadau prisiau ar gyfer unrhyw lefel, boed hynny o ranbarth i gôd post.

Rydym yn cynnig adroddiadaau sy'n dangos data cyfun ar gyfer unrhyw:

  • ranbarth
  • sir
  • dosbarth awdurdod lleol
  • ardal côd post e.e. GL
  • dosbarth côd post e.e. GL1
  • sector côd post e.e. GL1 2.

Gallwch ddewis dyddiad dechrau ar gyfer eich adroddiad a gallwch brynu unrhyw chwarter neu fis mor bell yn ôl â mis Ionawr 1995. Gallwn ddarparu adroddiadau ar wahân hefyd ar gyfer hen eiddo ac eiddo newydd a bandiau prisiau ar gyfer unrhyw chwarter o 1995 hyd heddiw. Mae prisiau'n dechrau o £20 fesul adroddiad. Ceir rhestr lawn o opsiynau adroddiad a'u prisiau yma

Data Sampl [Dogfen Excel]
Eithriadau o'r Data

I wneud cais am gontract cysylltwch â Tîm Add Value trwy ebost. Dylech dderbyn eich contract ymhen 20 diwrnod ar ôl i ni dderbyn eich cais.

Hawlfraint

Mae'r data yn yr adroddiadau hyn yn cael eu gwarchod gan hawlfraint y Goron. Os yw'r deunydd yn cael ei gyhoeddi neu ei gyflenwi i eraill, rhaid cydnabod y ffynhonnell a'r statws hawlfraint. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei thrwyddedu at eich defnydd chi yn unig ac ni ellir ei gwerthu i unrhyw drydydd parti fel rhan o set ddata neu fel arall, oni bai eich bod wedi cael contract i wneud hyn gan y Tîm Gwasanaethau Masnachol.