Cynllun Masnachwr Mewn Gwybodaeth Teg
Mae'r Gofrestrfa Tir yn Masnachwr Gwybodaeth Teg achrededig llawn. Mae hyn yn golygu ein bod yn agored, yn deg ac dryloyw yn ein holl ymwneud â chwsmeriaid.
Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) sy'n gyfrifol am asesu a yw asiantaeth yn haeddu achrediad fel Masnachwr Gwybodaeth Teg ai peidio ac, i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal, mae'n gwneud hyn bob dwy flynedd.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Masnachwr Gwybodaeth Teg a'r rhan mae OPSI yn ei chwarae, ewch i'r wefan: http://www.opsi.gov.uk/
Egwyddorion ac ymarfer Masnachwr Gwybodaeth TegPeter Collis Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr 8 Awst 2003
Rwyf i yn bersonol yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn masnachu mewn gwybodaeth yn deg. I ddangos pa mor gadarn yw f'ymrwymiad rwyf wedi gwneud cais i Reolwr Llyfra Ei Mawrhydi am Dystysgrif Masnachwr Teg. Rwy'n gwneud yr holl newidiadau gweinyddol sy'n angenrheidiol i sicrhau fy mod yn gallu cefnogi'r datganiad canlynol â hyder.
Byddaf yn mynnu ein bod yn ymrwymo’n llawn i system o fasnachu'n agored sy'n bodloni telerau Deddf Cystadlu 1998. Fy amcan yw y gallwn mewn egwyddor gwrdd ag anghenion unrhyw un sy'n gwneud cais am drwydded i ailddefnyddio gwybodaeth at unrhyw ddiben. Byddwn yn cyhoeddi unrhyw eithriadau ar ein gwefan.
Mae swyddogaeth masnachu mewn gwybodaeth wedi ei chynnwys yn ein model busnes. Rydym yn gosod prisiau, a dulliau gosod prisiau (er enghraifft cynlluniau breindal), yn unol â rôl masnachu mewn gwybodaeth yn fy model busnes. Byddwn yn eu cyhoeddi ar y wefan ac yn eu dilyn yn gaeth. Caiff unrhyw eithriadau eu disgrifio'n llawn ar y wefan a byddant ar gael i unrhyw un sy'n gymwys i'w cael.
Rwy'n ymrwymedig i leihau'r baich gweinyddol (cymaint ag y bo modd) ar bobl sy'n ailddefnyddio gwybodaeth y sector cyhoeddus. Byddaf yn sicrhau ein bod yn defnyddio trefnau ar gyfer masnachu mewn gwybodaeth sy'n debyg i'r rhai a ddefnyddir gan weddill y sector cyhoeddus.
Byddaf yn rhoi gwybod i Reolwr Llyfra EM am unrhyw gwynion a dderbyniaf bod fy sefydliad wedi torri'r ymrwymiad hwn, a byddaf yn eu hymchwilio'n drylwyr. Os bydd Llyfrfa EM yn penderfynu ymchwilio i gŵyn, byddaf yn caniatáu i dîm ymchwilio Llyfrfa EM weld y staff a'r cofnodion perthnasol.
|
 |