Mae taenlen ar gael sy'n dangos ein ffigyrau chwarterol ar gyfer cyfartaledd a nifer ar lefel sir a rhanbarth am £50 ynghyd â taw.
Data newydd: diweddariadau misol o brisiau cyfartalog a nifer gwerthiannau yn ôl math o eiddo ar gyfer pob rhanbarth, sir a bwrdeistref Llundain ar gyfer y flwyddyn flaenorol lawn a'r flwyddyn hyd yn hyn. Mae hyn ar gael am £600 y mis ynghyd â taw.
Ail werthiannau: nifer y gwerthiannau blaenorol ers Ebrill 2000 ar gyfer eiddo a werthwyd mewn mis penodol. Mae hyn ar gael am £500 ynghyd â taw ar gyfer pob cais.
I wneud cais am gontract cysylltwch â'r Gwasanaethau Masnachol trwy ebost. Dylech dderbyn eich contract ymhen 20 diwrnod gwaith ar ôl i ni dderbyn eich ebost.