Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Property information

Allfudo data electronig

Mae'r Gofrestrfa Tir nawr yn trwyddedu awdurdodau lleol a chyrff eraill y llywodraeth i ailddefnyddio polygonau. Gellir gosod y polygonau hyn mewn systemau gwybodaeth ddaearyddol presennol a'u defnyddio fel rhan o dirlyfrau electronig.

Mae'r polygonau yn addas at ddibenion enghreifftiol yn unig. Maent yn rhoi syniad o stent cofrestredig eiddo; rhaid prynu copi swyddogol o'r cynllun teitl oddi wrthym ar gyfer unrhyw ddiben cyfreithiol. Darperir y polygonau ar ffurf ESRI shp neu mid/mif.

Ar hyn o bryd gellir defnyddio'r polygonau at ddibenion busnes mewnol yn unig. Ein gobaith yw y caiff y materion hawlfraint Arolwg Ordnans ynghylch eu defnyddio at ddibenion allanol a masnachol eu datrys yn fuan.

Mae'n rhwydd i awdurdodau lleol a chyrff eraill y llywodraeth gael trwydded ar gyfer polygonau oddi wrthym. Yn gyntaf, rhaid i ni adnabod yr ardal sydd o ddiddordeb i'r awdurdod lleol neu gorff y llywodraeth. I wneud hyn bydd angen rhestr o rifau teitl arnom (ein cyfeir-rif unigryw ar gyfer y tir) neu, os nad yw'r rhain yn hysbys, bydd rhaid i ni gael gwybod am holl enwau blaenorol yr awdurdod lleol neu gorff y llywodraeth er mwyn i ni allu chwilio'n mynegai enwau perchnogion am y rhifau teitl. Neu gallwn ddefnyddio stent electronig yr ardal os oes modd i awdurdod lleol neu gorff y llywodraeth roi un i ni.

Os yw'r tir yn gofrestredig eisoes gallwn ddarparu'r polygonau a grëwyd eisoes gennym fel rhan o'r broses o gofrestru'r tir. Cyflenwir y rhain fel ffeil y gellir ei gosod mewn system gwybodaeth ddaearyddol  ac maent yn cynnwys rhif teitl y Gofrestrfa Tir fel nodwedd ar wahân. Rydym yn codi ffi o £400 am y detholiad a £2 am bob teitl (ynghyd â TAW). Nid yw'r ffïoedd hyn yn agored i drafodaeth.

Os yw'r awdurdod lleol neu gorff y llywodraeth yn cofrestru ei dir yn wirfoddol, ar ddiwedd cofrestru, gallwn ddarparu'r polygonau a grëwyd gennym fel rhan o'r broses gofrestru. Darperir y rhain fel ffeil y gellir ei gosod mewn system gwybodaeth ddaeaeryddol ac maent yn cynnwys rhif teitl y Gofrestrfa Tir fel nodwedd ar wahân. Gall y polygonau hyn fod yn amodol ar Welliant Gywirdeb Lleoliadol (PAI). Rydym yn codi £350 am y detholiad a £0.44 am bob teitl (ynghyd â TAW). Nid yw'r ffïoedd hyn yn agored i drafodaeth.

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chyrff eraill y llywodraeth arwyddo contract sy'n ymdrin ag ailddefnyddio'r data hyn. Rydym wedi bod yn ofalus i sicrhau ein bod yn cadw'r hawlfraint a hawliau IP yn y data hyn er ein bod yn caniatáu eu hailddefnyddio.

I wneud cais am gontract cysylltwch â Gwasnaethau Masnachol trwy ebost. Dylech dderbyn eich contract ymhen 20 diwrnod gwaith ar ôl i ni dderbyn eich ebost.

Hawlfraint

Mae'r data hyn i'w defnyddio at ddibenion busnes mewnol yn unig. Fodd bynnag, os ydynt, yn unol â thelerau'r drwydded, yn cael eu hatgynhyrchu (yn ddi-dâl) i drydydd parti i ddangos maint perchnogaeth tir bresennol neu yn y gorffennol, rhaid eu hanodi gyda'r datganiad hawlfraint priodol sydd i'w weld yn atodlen C y contract.

Cysylltu a ni

Tîm Gwasanaethau Masnachol

Ebost

DS: Os ydych yn gofyn am wybodaeth trwy e-bost, gofalwch eich bod yn rhoi manylion eich cyfeiriad post neu rhif ffôn i gysylltu â chi.

Mae'r holl ddata yn amodol ar Hawlfraint y Goron.

ifts logo