Set ddata pris a dalwyd (lefel cyfeiriad)
Mae'r gwasanaeth hwn yn trwyddedu defnydd o'r data canlynol: cyfeiriad llawn yr eiddo (PAON, SAON, stryd, cod post, lleoliad (os yw ar gael), tref, dosbarth, sir), y pris a dalwyd am yr eiddo, dyddiad y trosglwyddiad, y math o eiddo (tŷ sengl, tŷ pâr, tŷ teras, fflat/fflat deulawr), ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio, ai rhydd-ddaliad neu les-ddaliad yw'r eiddo. Mae'r wybodaeth hon ar gael ar gyfer pob gwerthiant eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr sydd wedi cael ei gyflwyno i'r Gofrestrfa Tir i'w gofrestru. Mae'r data ar gael o 1 Ionawr 1995 ac mae'n cael ei ddiweddaru'n fisol. Ar hyn o bryd mae'r set ddata hon yn cynnwys mwy na 15 miliwn o drosglwyddiadau o dai ac mae'n cael ei diweddaru bob mis. Ychwanegir miloedd o werthiannau newydd at y gronfa ddata bob mis.
Mae gennym gontract sy'n ymdrin ag ailddefnyddio'r data hyn. Er enghraifft mae'n gwahardd yn benodol defnyddio'r data ar gyfer marchnata uniongyrchol. Mae'r contract yn ymdrin â hawlfraint a hawliau eiddo deallusol hefyd. Rydym wedi bod yn ofalus i sicrhau ein bod yn cadw'r hawlfraint yn y data hyn er ein bod yn caniatáu eu hailddefnyddio. Mae'n rhaid i holl gwsmeriaid arwyddo'r contract hwn cyn i ni gyflenwi unrhyw ddata. Mae'n rhaid iddynt hefyd dalu am ailddefnyddio'r data hyn cyn eu derbyn. Mae hyn yn unol â'n hymarfer casglu ffïoedd statudol ac mae'n osgoi dyledion drwg hefyd. I wneud cais am gontract cysylltwch â Gwasanaethau Masnachol trwy ebost. Dylech dderbyn eich contract ymhen 20 diwrnod gwaith ar ôl i ni dderbyn eich ebost.
Rydym wedi mabwysiadu polisi ffïoedd sy'n dilyn canllawiau'r Trysorlys. Mae'n ffïoedd yn cynnwys costau datblygiad, cynnal a chadw a chyflenwi parhaus yn ogystal â'r elw ar fuddsoddiad sy'n cael ei argymell. Yn y bôn rydym yn trwyddedu'r data am danysgrifiad blynyddol ynghyd â thâl am bob cyfeiriad a brynir:
- y tanysgrifiad blynyddol yw £3,000 ynghyd â taw
- £0.0075 ynghyd â taw yw'r ffi am bob cyfeiriad a ddarperir, ar gyfer pob cynnyrch sy'n cynnwys y data (gyda thâl lleiaf o £50)
- ychwanegir cludiant a phacio (£4.00).
Rydym yn cyflenwi'r data naill ar ddisg neu trwy brotocol trosglwyddo ffeil (ftp) sy'n galluogi'r cwsmer i fewngofnodi i'n gwefan a chael gafael ar y data maent wedi talu i'w hailddefnyddio.
Yn achos cwsmeriaid sy'n dymuno prynu yn ôl y galw rydym yn codi ffi am y data maent am eu hailddefnyddio ar sail £0.01 y cyfeiriad a gymerir - rydym wedi cyfrifo'r pris hwn fel y byddent yn talu'r un pris â chwsmer sy'n tanysgrifio pe byddent yn cymryd y set ddata gyfan bob mis.
Beth sy'n cael ei eithrio o'r set ddata? Gweler Eithriadau o'r Data
Hawlfraint
Caniateir i ddefnyddwyr eich cynnyrch gael mynediad i'r defnydd hawlfraint y Goron hwn, a'i lwytho i lawr i gyfryngau electronig, magnetig, optegol neu gyfryngau cadw tebyg ar yr amod y cyfyngir y fath weithgareddau i ymchwil breifat, astudiaeth neu ddefnydd mewnol at ddibenion anfasnachol yn unig. Mae angen caniatâd ysgrifenedig ffurfiol y Gofrestrfa Tir ar gyfer unrhyw ddefnydd masnachol o'r deunydd. Gellir gael hyn trwy gysylltu â ni a bydd angen trwydded a thâl ychwanegol .