Adroddiadau safonol
Mae'r Gofrestrfa Tir yn cynnig gwasanaeth adroddiad safonol lle'n mae'n bosib archebu Adroddiadau Prisiau Eiddo sy'n dangos data cyfanredol ar gyfer unrhyw un o'r canlynol:
- Rhanbarth yng Nghymru a Lloegr;
- Sir yng Nghymru a Lloegr;
- Dosbarth Awdurdod Lleol yng Nghymru a Lloegr;
- Ardal Cod Post e.e. GL
- Dosbarth Cod Post e.e. GL1;
- Sector Cod Post e.e. GL1 2.
Gallwn gynnig adroddiadau ar wahân ar gyfer eiddo newydd a hen eiddo a bandiau prisiau ar gyfer unrhyw chwarter o 1995 hyd at heddiw.
Rhestr o brisiau
Data enghreifftiol [Ffeil Excel]
Eithriadau o'r data
I wneud cais am gontract cysylltwch â Gwasanaethau Masnachol trwy ebost. Dylech dderbyn eich contract ymhen 20 diwrnod ar ôl i ni dderbyn eich cais.
Hawlfraint
Mae'r data yn yr adroddiadau hyn yn cael eu gwarchod gan hawlfraint y Goron. Os yw'r deunydd yn cael ei gyhoeddi neu ei gyflenwi i eraill, rhaid cydnabod y ffynhonnell a'r statws hawlfraint. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei thrwyddedu at eich defnydd chi yn unig ac ni ellir ei gwerthu i unrhyw drydydd parti fel rhan o set ddata neu fel arall, oni bai eich bod wedi cael contract i wneud hyn gan y Tîm Gwasanaethau Masnachol.