Mae’r Gofrestrfa Tir yn darparu adroddiadau safonol sy’n dangos data cyfanredol ar gyfer unrhyw ranbarth, sir, awdurdod lleol, neu ardal, dosbarth neu sector côd post yng Nghymru a Lloegr (nid yr Alban, Gogledd Iwerddon na Gweriniaeth Iwerddon).
Nid ydym yn darparu gwerthoedd ar gyfer unrhyw ardal lle cofnodwyd llai na 3 gwerthiant.
Mae’r wybodaeth yn berthnasol i eiddo preswyl unigol a werthwyd am eu gwerth marchnad llawn. Nid oes unrhyw wybodaeth ar gael am eiddo digofrestredig, masnachol neu eiddo amaethyddol.
Gallwch archebu dros y ffôn neu drwy e-bost.
I archebu neu i dderbyn gwybodaeth bellach, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Masnachol:
trwy e-bost Dros y ffôn 0151 473 6137
Mae’n rhaid talu ymlaen llaw a gallwch dalu trwy gerdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn. |