|
|||||||
| |
![]() |
||||||
|
|||||||
|
Unioni pethauOs ydych yn anfodlon â sut rydym wedi darparu gwasanaeth data, cysylltwch â'n tîm gwasanaethau data a byddant yn ceisio unioni pethau i chi neu esbonio'r rhesymau os nad yw hyn yn bosibl. Rydym yn disgwyl y bydd cysylltu â'n tîm gwasanaethau data yn ddigon i ddatrys y rhan fwyaf o broblemau. Ond, os ydych yn anfodlon o hyd ar ôl gwneud hyn, dylech ofyn i'r tîm gyeririo eich pryderon at ein cyfreithiwr corfforaethol. Bydd yn adolygu'r hyn sydd wedi cael ei ddweud ac rhoi ei farn ynghylch pa gamau y gellir eu cymryd. Os nad ydych yn fodlon â sylwadau'r cyfreithiwr corfforaethol gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI). Byddant yn adolygu'r hyn sydd wedi cael ei ddweud hyd yn hyn ac yn rhoi barn annibynnol i chi. Os ydych yn anfodlon o hyd, gallwch gysylltu â'r Panel Ymgynghorol ar Wybodaeth y Sector Cyhoeddus (APPSI). Byddant yn ystyried eich pryderon o'r newydd a rhoi eu barn i chi. Gallwch fynd â'ch pryderon ger bron llys ar unrhyw amser ond mae hyn yn ddrud, tra bod adolygiad OPSI neu APPSI am ddim. I gael rhagor o wybodaeth am OPSI ewch i'r wefan: http://www.opsi.gov.uk/ |
|||||||||||||