www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Twyll eiddo

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Untitled Document
Protect your property with Land Registry

Mwy na thebyg, eich eiddo yw'r ased mwyaf gwerthfawr sydd gennych. Dyna pam mae'n bwysig i chi wneud popeth y gallwch i'w warchod rhag y risg o dwyll.

Mae twyllwyr yn aml yn targedu eiddo lle nad oes morgais neu lle bo'r perchennog yn byw yn rhywle arall. Gallent geisio cael gafael ar y teitl trwy ddefnyddio troslwyddiad ffug neu ddynwared y perchennog.

Un ffordd o helpu i'w hatal yw sicrhau bod y manylion cyswllt sydd gennym ar eich cyfer yn gyfredol.

Pan fyddwn yn derbyn cais mewn perthynas รข'ch eiddo, efallai y byddwn yn ysgrifennu atoch. Os nad yw eich manylion cyswllt yn gywir, efallai na fyddwch yn cael y llythyr neu ebost.

Gallwch roi hyd at dri chyfeiriad gwahanol i ni, gan gynnwys cyfeiriad ebost a chyfeiriad tramor. Er mwyn ychwanegu cyfeiriad neu i ddiweddaru eich manylion cyswllt presennol, llenwch y ffurflen diweddaru cyfeiriad gohebu perchennog cofrestredig.

Os byddwch yn gwneud cais i newid eich manylion gohebu, byddwn yn anfon llythyr at eich hen gyfeiriad a'ch cyfeiriad newydd er mwyn gwirio bod y cais yn ddilys.



Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein taflen Gwarchod eich eiddo neu ein cyfarwyddiadau cyhoeddus.

Ffoniwch ein llinell gymorth ar 0800 0283 404 rhwng 8am a 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener neu anfonwch neges ebost atom.