Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

 

Nodiadau Cyffredinol   Data Ar-Lein   Adroddiadau Pris Eiddo Preswyl   Adroddiadau Penodol

Ynglŷn â'n Data

Mae'r Adroddiad Prisiau Eiddo Preswyl yn darparu golwg fanwl ac awdurdodol ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd i gyfartaledd prisiau a lefelau gwerthiant ym marchnad eiddo preswyl Cymru a Lloegr. Bwriedir i'r adroddiad ategu gwybodaeth sydd ar gael o ffynonellau eraill. Dylai unrhyw gymhariaeth gyda data arall ystyried gwahaniaethau yn lefel ac amseroldeb y trafodion cyfrannol a'r hyn maent yn eu cwmpasu.

Mae'r data yn y prif adroddiad, sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr gyfan, yn cael ei ddosbarthu yn ôl y math o eiddo ac yn ôl Sir ac Awdurdod Unedol, i gynnwys yr Awdurdodau Unedol newydd a gyflwynwyd ar Ebrill 1, 1997. Mae'r ffigurau hefyd yn cynnwys cyfartaleddau prisiau a nifer y gwerthiannau yn ardal Llundain Fwyaf yn ôl pob Bwrdeistref yn Llundain. Ystyrir gwerthiant yn y cyd-destun hwn fel trosglwyddiad perchnogaeth am werth eiddo preswyl rhydd-ddaliadol a phrydlesol hir, boed morgais yn gysylltiedig â'r pryniant ai peidio. Hefyd wedi'i gynnwys mae dadansoddiad o gyfartaledd prisiau gwerthu hen eiddo ac eiddo newydd yn ôl y math o eiddo. Ni cheir pwysiad ac nid yw'r wybodaeth a gesglir yn cael ei haddasu i adlewyrchu unrhyw ffactorau tymhorol neu ffactorau eraill. Gellir cyfeirio at y data prisiau fel cyfartaleddau gwirioneddol heb eu haddasu, a dynnwyd o'r mwyafrif llethol o holl werthiant preswyl a gwblhawyd yn ystod y cyfnod yng Nghymru a Lloegr.

 
Further Information

Cyhoeddir Adroddiad Prisiau Eiddo Preswyl Cofrestrfa Tir EM am ddim bob chwarter. Gellir cael rhagor o wybodaeth gan:

Canolfan Gwybodaeth Eiddo
Cofrestrfa Tir Ddosbarthol (Old Market) Penbedw
Hamilton Street
Penbedw
Merseyside CH48 5FL

Ffôn: 0151 473 6008
E-bost:
Canolfan Gwybodaeth Eiddo