Nodiadau Cyffredinol
Data Ar-Lein
Adroddiadau Pris Eiddo Preswyl
Adroddiadau Penodol
Nodiadau Cyffredinol:
Cyfartaleddau syml yw'r data cyhoeddedig. Ni ddefnyddir unrhyw bwysiad neu addasiad i
adlewyrchu unrhyw ffactorau tymhorol neu ffactorau eraill.
Os yw nifer y gwerthiannau yn llai na 3, ni ddangosir unrhyw bris cyfartalog.
Gall nifer y gwerthiannau ar gyfer y cyfnod presennol gael ei gymharu'n fanwl gywir â'r cyfnod cyfatebol yn 1998 oherwydd atgynhyrchir y ffigurau ar gyfer prisiau a niferoedd cyfartalog ar gyfer y cyfnod cynharach o'r adroddiad a gyhoeddwyd yn Nhachwedd 1998 h.y. dros gyfnod casglu data tebyg.
Os yw'r niferoedd a ddangosir yn fach mae'n bosib na fydd y pris cyfartalog yn gynrychioladol.
Os yw'r niferoedd a ddangosir yn fach mae'n bosib na fydd y pris cyfartalog yn gynrychioladol.
Ni chynhwysir y canlynol yn y ffigurau a ddangosir yn yr adroddiad hwn.
- Yr holl drafodion masnachol
- Cyn Ionawr 2000 - Yr holl werthiannau sy'n llai na £10,000 a dros £1 miliwn.
(Mae data ar-lein ar gyfer Ionawr 2000 ymlaen yn cynnwys manylion am y gwerthiannau hyn).
- Trosglwyddiadau, trawsgludiadau, aseiniadau neu brydlesi ar bremiwm gyda rhent enwol sydd:
- yn werthiannau 'hawl i brynu' gyda disgownt
- yn amodol ar brydles
- yn amodol ar forgais presennol
- yn weithredu gwerthu cyfran mewn eiddo
- trwy gyfrwng rhodd
- trwy gyfrwng cyfnewid
- dan orchymyn Prynu Gorfodol
- dan orchymyn llys
- i'r Ymddiriedolwyr
- yn weithredoedd Breinio
- yn Drosgwlyddiadau neu Gydsyniadau
- o fwy nag un eiddo
- yn brydlesi o 21 mlynedd neu lai
Nodyn A: Ymholiadau ar lefel Ranbarthol
Erbyn hyn mae'r Gofrestrfa Tir yn gallu cynnig gwasanaeth adroddiadau ar-lein lle
mae'n bosib cael Adroddiadau Prisiau Eiddo sy'n dangos data cyfanredol ar gyfer
unrhyw un o'r canlynol:
- Rhanbarth yng Nghymru a Lloegr;
- Sir / bwrdeistref Llundain yng Nghymru a Lloegr;
Crewyd sawl Awdurdod Unedol newydd ers Ebrill 1, 1996 ac mae'n bwysig i gofio
bod yr Awdurdodau newydd hyn wedi cael eu creu wrth ystyried symudiadau mewn prisiau
yn y siroedd hynny sy'n cael eu heffeithio gan y newidiadau ffiniau hyn - mae'n bosib
na fydd cymariaethau uniongyrchol yn ystyrlon. Am fwy o wybodaeth ar y newidiadau
hyn cysylltwch â'n Canolfan Gwybodaeth Eiddo.
Nodyn B: Ymholiadau ar lefel Côd Post
- Ardal Côd Post e.e. GL
- Dosbarth Côd Post e.e. GL1
- Sector Côd Post e.e. GL1 2
Nid yw pob eiddo wedi'i gofrestru gyda'i gôd post (tua 20% heb gôd post). Felly dylid ystyried prisiau a niferoedd cyfartalog yn wybodaeth sampl yn unig.
Dosbarthiadau Côd Post:
- Ardal Côd Post: e.e. SW (mae 104 yng Nghymru a Lloegr).
- Dosbarth Côd Post: e.e. EC9, GL1 (mae tua 2,500 yng Nghymru a Lloegr)
- Sector Côd Post: e.e. SW19 5, WC2N 1 (mae'n cynnwys tua 3000 o gyfeiriadau ym mhob un).
- Nid yw gwybodaeth am eiddo unigol neu stryd unigol ar gael.
- Mae'r wybodaeth yn ymwneud ag eiddo preswyl uned sengl sy'n cael ei werthu am ei bris presennol ar y farchnad ac a gofrestrwyd yn y Gofrestrfa Tir. Nid oes unrhyw wybodaeth am eiddo heb ei gofrestru neu eiddo masnachol neu amaethyddol.
- Cyfrifir eiddo yn ystod y cyfnod pan ddigwyddodd y dyddiad trosglwyddo h.y. os yw trosglwyddiad wedi'i ddyddio'n Ionawr ond wedi'i gofrestru ym mis Mai cyfrifir yr eiddo yn ystod y cyfnod Ionawr - Mawrth.
- Tynnwyd ffigurau 1995 i gronfa ddata hanesyddol a chânt eu gosod am byth h.y. ni fyddant yn cael eu diweddaru byth.
- Tynnwyd ffigurau 1996 i gronfa ddata hanesyddol a chânt eu gosod am byth h.y. ni fyddant yn cael eu diweddaru byth.
- Tynnwyd ffigurau 1997 i gronfa ddata hanesyddol a chânt eu gosod am byth h.y. ni fyddant yn cael eu diweddaru byth.
- Tynnwyd ffigurau 1998 i gronfa ddata hanesyddol a chânt eu gosod am byth h.y. ni fyddant yn cael eu diweddaru byth.
- Tynnwyd ffigurau 1999 i gronfa ddata hanesyddol a chânt eu gosod am byth h.y. ni fyddant yn cael eu diweddaru byth.
- Tynnwyd ffigurau 2000 i gronfa ddata hanesyddol a chânt eu gosod am byth h.y. ni fyddant yn cael eu diweddaru byth.
- Tynnwyd ffigurau 2001 i gronfa ddata hanesyddol a chânt eu gosod am byth h.y. ni fyddant yn cael eu diweddaru byth.
- Tynnwyd ffigurau 2002 i gronfa ddata hanesyddol a chânt eu gosod am byth h.y. ni fyddant yn cael eu diweddaru byth.
- Caiff ffigurau 2003 eu diweddaru bob mis trwy gydol 2004
- Ni ddangosir prisiau a niferoedd cyfartalog lle mae llai na 3 eiddo. Mae hyn yn cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data.
Gellir cyflwyno archeb trwy lythyr, ffôn neu ffacs a gellir dosbarthu adroddiadau o fewn
48 awr fel arfer. Gellir talu trwy gerdyn Credyd/Debyd dros y ffôn, neu trwy gyflwyno siec
sy'n daladwy i Gofrestrfa Tir EM. I archebu adroddiad neu gael gwybodaeth bellach
cysylltwch â'r Canolfan Gwybodaeth Eiddo ar 0151 473 6010 neu 0151 473 6008.
|