logo_w

Ymgyngoriadau

Pan fyddwn yn gwneud cynigion a fydd, yn ein barn ni, yn gwneud cofrestru tir yn haws, rydym bob amser yn eu trafod mewn grwpiau defnyddwyr a fforymau eraill.

Os yw unrhyw un ohonynt yn effeithio'n sylweddol ar ymarfer neu weithdrefnau, byddwn yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol.

Gall unrhyw un fynegi barn yn ystod ymgynghoriad y Gofrestrfa Tir. Mae'r cyfnod trafod yn parhau am 12 wythnos fel rheol a gall y sylwadau a dderbynnir wneud gwahaniaeth. Gallwch ymateb naill ai drwy ebost neu drwy'r post.

Ymarferion ymgynghori agored

Nid oes unrhyw ymarferion ymgynghori agored ar hyn o bryd.

Ymarferion ymgynghori wedi cau

Cau'r gwasanaeth archebu dros y ffôn a newidiadau i reolau Pridiannau Tir

Cyfnod ymgynghori: 4 Mai hyd 27 Gorffennaf 2012

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn am ein cynigion i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth Pridiannau Tir fydd yn ein galluogi i gau'r gwasanaeth archebu dros y ffôn ar gyfer cwsmeriaid busnes.

Gallwch ddarllen am yr ymgynghoriad hwn yma o hyd

Ymatebion i'r ymgynghoriad

Cau'r gwasanaeth archebu dros y ffôn a newidiadau i reolau Pridiannau Tir

Agorodd yr ymgynghoriad i 'Cau'r gwasanaeth archebu dros y ffôn a newidiadau i reolau pridiannau tir' ar 4 Mai 2012 a daeth i ben ar 27 Gorffennaf 2012. Mae'r dogfennau canlynol yn cynnwys:

Cofrestru Tir a Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007

Agorodd yr ymgynghoriad i 'Cofrestru Tir a Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007' ar 6 Rhagfyr 2010 a daeth i ben ar 28 Chwefror 2011. Dyma ein hymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad

Pdf iconAdroddiad Ymatebion i'r Ymgynghoriad

Rheolau Cofrestru Tir (e-drawsgludo) 2011

Agorodd yr ymgynghoriad i 'Rheolau Cofrestru Tir (e-drawsgludo) 2011' ar 22 Mawrth 2010 a daeth i ben ar 25 Mehefin 2010. Dyma ein hymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad.

Pdf iconAdroddiad Ymatebion i'r Ymgynghoriad

Ymarferion ymgynghori blaenorol

Mae archif o ymarferion ymgynghori y Gofrestrfa Tir ac ymatebion ar gael ar wefan yr Archif Genedlaethol.

 

Mynegai Prisiau Tai

Mawrth 2013: 259.8

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £161,793 Newid:
Misol 0.1%
Blynyddol 0.9%
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 30 Mai 2013

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix