Fel cynrychiolydd personol neu ysgutor, a allaf drosglwyddo i drydydd parti?
Gallwch, gallwch drosglwyddo'r eiddo i drydydd parti heb fod wedi'ch cofrestru’n berchennog eich hun yn gyntaf. Gallwch wneud hynny hefyd os mai chi yw cynrychiolydd personol perchennog morgais sydd wedi marw. Gallwch wneud hyn trwy drosglwyddo, neu trwy gydsynio gan ddefnyddio'r ffurflen briodol yn y naill achos neu'r llall.
Bydd angen i chi anfon pob un o'r dogfennau canlynol atom.
– Ffurflen gais AP1 wedi'i llenwi.
– Ffurflen TR1 (neu TP1 os mai dim ond rhan o deitl rydych yn ei werthu) wedi'i llenwi.
– Copi gwreiddiol neu gopi swyddogol grant profiant/llythyrau gweinyddu (byddwn yn ei ddychwelyd atoch).
– Y dystysgrif treth tir toll stamp neu'r hunan dystysgrif briodol.
– Ffurflen ID1 a/neu ID2, os nad yw trawsgludwr yn gweithredu yn y drafodiad. Ceir rhagor o wybodaeth o dan Pryd a pham fod angen i mi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth?
Mae'r ffurflenni ar gael ar ein gwefan ac maent wedi'u cynllunio i fod yn hawdd i'w llenwi. Gallwch weld nodiadau eglurhaol i helpu wrth lenwi ffurflen TR1.
Ceir gwybodaeth bellach yng Nghyfarwyddyd Cyhoeddus 9 – Beth i'w wneud pan fydd perchennog eiddo'n marw.
Codir ffi am y gwasanaeth hwn.
Canfod ble i anfon eich ceisiadau cofrestru.
O dan ein polisi ymgynghorol gallwn roi gwybodaeth ffeithiol a chyngor am weithdrefnau i gwsmeriaid am sut mae'r system cofrestru tir yn gweithio a sut i wneud cais, ond ni allwn roi cyngor cyfreithiol. Oherwydd cymhlethdodau'r gyfraith mewn perthynas â'r mater hwn, efallai y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol.
Gweler manylion llawn ein 'Polisi ymgynghorol’.
Mynegai Prisiau Tai
Mawrth 2013: 259.8(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,793 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...


