Fel y cynrychiolydd personol, sut a pham y dylwn gofrestru fy hun yn ‘berchennog cofrestredig’?
Gallwch chi ac unrhyw gynrychiolwyr personol eraill gofrestru'ch hunain yn berchnogion eiddo neu forgais os mai chi yw cynrychiolydd personol unig berchennog cofrestredig, neu gynrychiolydd personol yr unig gydberchennog i oroesi.
Er enghraifft, gellir defnyddio'r opsiwn hwn os yw buddiolwr yr ewyllys o dan oed. Yn yr achos hwn, daw'r cynrychiolwyr personol yn berchennog cofrestredig, ond dim ond fel cynrychiolwyr personol y person fu farw. Unwaith y byddant wedi'u cofrestru’n berchnogion, gall cynrychiolwyr personol drosglwyddo neu aseinio'r eiddo wedi hynny.
Bydd angen i chi anfon y canlynol atom:
– ffurflen gais AP1 wedi'i llenwi
– copi gwreiddiol neu gopi swyddogol grant profiant/llythyrau gweinyddu (byddwn yn ei ddychwelyd atoch).
Ceir rhagor o wybodaeth yng Nghyfarwyddyd Cyhoeddus 9 – Beth i'w wneud pan fydd perchennog eiddo'n marw.
Codir ffi am y gwasanaeth hwn.
Canfod ble i anfon eich ceisiadau cofrestru.
O dan ein polisi ymgynghorol gallwn roi gwybodaeth ffeithiol a chyngor am weithdrefnau i gwsmeriaid am sut mae'r system cofrestru tir yn gweithio a sut i wneud cais, ond ni allwn roi cyngor cyfreithiol. Oherwydd cymhlethdodau'r gyfraith mewn perthynas â'r mater hwn, efallai y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol.
Gweler manylion llawn ein 'Polisi ymgynghorol’.
Mynegai Prisiau Tai
Mawrth 2013: 259.8(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,793 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...


