logo_w

Sut y gallaf warchod fy eiddo rhag twyll?

Eich eiddo yw'r ased mwyaf gwerthfawr sydd gennych, fwy na thebyg. Dyna pam mae'n bwysig i chi wneud popeth y gallwch i'w warchod rhag y risg o dwyll. Gallwch helpu i warchod eich eiddo rhag twyll trwy:

  • gadw eich manylion cysylltu yn gyfredol
  • rhoi cyfyngiad yn eich cofrestr
  • cofrestru eich eiddo os nad yw wedi'i gofrestru eisoes
  • dilysu hunaniaeth eich tenantiaid os ydych yn landlord.

Gallwch wneud hyn trwy argraffu copi o ffurflen RQ a'i llenwi cyn ei hanfon yn ôl atom.
Pdf icon Ffurflen RQ - Cais am gyfyngiad gan berchennog/perchnogion nad ydynt yn byw yn yr eiddo (PDF)
Word icon Ffurlen RQ - Cais am gyfyngiad gan berchennog/perchnogion nad ydynt yn byw yn yr eiddo (MS Word)

Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Gwarchod eich hunan rhag twyll eiddo.

Mynegai Prisiau Tai

Mawrth 2013: 259.8

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £161,793 Newid:
Misol 0.1%
Blynyddol 0.9%
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 30 Mai 2013

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix