logo_w

Sut y gallaf gofrestru'r bobl sydd wedi etifeddu tir neu eiddo cofrestredig mewn ewyllys (y buddiolwyr)?

Gall buddiolwr ystad ddod yn berchnogion cofrestredig yr ystad honno hefyd.

Bydd angen i chi anfon pob un o'r dogfennau canlynol atom.

– Ffurflen gais AP1 wedi'i llenwi.

– Ffurflen gais AS1 wedi'i llenwi.

– Copi gwreiddiol neu gopi swyddogol grant profiant/llythyrau gweinyddu (byddwn yn ei ddychwelyd atoch).

– Y dystysgrif treth tir toll stamp neu'r hunan dystysgrif briodol.

Mae'r ffurflenni ar gael ar ein gwefan a chawsant eu cynllunio i fod yn hawdd i'w llenwi. Rydym yn darparu nodiadau eglurhaol hefyd ar gyfer llenwi'r ffurflen AS1.

Ceir gwybodaeth bellach yng Nghyfarwyddyd Cyhoeddus 9 – Beth i'w wneud pan fydd perchennog eiddo'n marw.

Codir ffi am y gwasanaeth hwn.

Canfod ble i anfon eich ceisiadau cofrestru.

O dan ein polisi ymgynghorol gallwn roi gwybodaeth ffeithiol a chyngor am weithdrefnau i gwsmeriaid am sut mae'r system cofrestru tir yn gweithio a sut i wneud cais, ond ni allwn roi cyngor cyfreithiol. Oherwydd cymhlethdodau'r gyfraith mewn perthynas â'r mater hwn, efallai y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol.

Gweler manylion llawn ein 'Polisi ymgynghorol

Mynegai Prisiau Tai

Mawrth 2013: 259.8

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £161,793 Newid:
Misol 0.1%
Blynyddol 0.9%
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 30 Mai 2013

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix