Sut y gallaf drosglwyddo fy nhir neu eiddo cofrestredig?
Os byddwch am drosglwyddo tir neu eiddo cofrestredig rhaid i chi ddefnyddio'r ffurflen gywir, yn dibynnu ar b'un ai ydych yn trosglwyddo'r tir neu eiddo cyfan neu ran.
Bydd angen i chi anfon ffurflen TR1 wedi'i llenwi atom os ydych am drosglwyddo:
- y tir/eiddo cyfan
- cyfran o'r eiddo/tir trwy ychwanegu unigolyn/unigolion at y berchnogaeth, er enghraifft, yn dilyn priodas neu bartneriaeth sifil pan fydd y perchennog/perchnogion presennol yn trosglwyddo i'w hunain a'i bartner/a'u partner newydd
- cyfran o'r eiddo trwy ddileu unigolyn/unigolion o berchnogaeth, er enghraifft, pan fydd perthynas yn chwalu a bod un neu ragor o'r perchnogion presennol yn trosglwyddo i'r perchennog/perchnogion sy'n weddill
- cyfran o'r eiddo/tir trwy ychwanegu perchnogion ychwanegol, er enghraifft pan fydd E ac F am ychwanegu G a H at y berchnogaeth
- cyfran mewn eiddo, er enghraifft, pan nad yw I am barhau i fod yn berchennog, felly mae I, J a K yn trosglwyddo i J a K.
Gweler nodiadau eglurhaol i helpu wrth lenwi ffurflen TR1.
Os ydych yn gwerthu rhan o eiddo/tir, er enghraifft, rydych yn gwerthu rhan o'ch gardd i gymydog, neu i'r gwrthwyneb, bydd angen i chi lenwi ffurflen TP1 a'i hanfon atom.
Ar gyfer pob math o drosglwyddiad bydd angen i chi anfon ffurflen AP1 wedi'i llenwi atom, ac, os nad yw cyfreithiwr neu drawsgludwr yn gweithredu yn y trafodiad, bydd angen llenwi ffurflen ID1 a/neu ID2. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Pryd mae angen i mi gyflwyno tystiolaeth hunaniaeth?
Mae'r holl ffurflenni ar gael am ddim ar ein gwefan ac maent wedi'u cynllunio i fod yn hawdd i'w llenwi.
Efallai y bydd angen i chi dalu treth tir toll stamp hefyd. Cysylltwch â llinell ymholiadau Cyllid a Thollau EM ar 0845 603 0135 i gael cyngor, neu ar-lein trwy http://www.hmrc.gov.uk/.
Gall trosglwyddo eiddo fod yn drafodiad cymhleth. Os oes gennych forgais ar eich eiddo efallai y bydd eich rhoddwr benthyg yn mynnu eich bod yn defnyddio cyfreithiwr neu drawsgludwr.
O dan ein polisi ymgynghorol gallwn roi gwybodaeth ffeithiol a chyngor am weithdrefnau i gwsmeriaid am sut mae'r system cofrestru tir yn gweithio a sut i wneud cais, ond ni allwn roi cyngor cyfreithiol. Oherwydd cymhlethdodau'r gyfraith mewn perthynas â'r mater hwn, efallai y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol.
Mynegai Prisiau Tai
Mawrth 2013: 259.8(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,793 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...


