logo_w

Fi yw cynrychiolydd personol perchennog tir digofrestredig fu farw. Oes angen i mi wneud unrhyw beth?

Os mai'r person fu farw yw'r unig berchennog neu'r unig gydberchennog i oroesi, bydd cydsyniad trosglwyddo gan gynrychiolwyr personol yn peri cofrestriad gorfodol a bydd angen i chi wneud cais am gofrestriad cyntaf y tir/eiddo. Gweler Cyfarwyddyd Cyhoeddus 13 – Gwneud ceisiadau am gofrestriad cyntaf gan y perchennog yn bersonol. Codir ffi am y gwasanaeth hwn.

Os yw'r person fu farw yn gydberchennog, ac mae o leiaf un cydberchennog yn fyw o hyd, ni fydd hyn yn peri cofrestriad gorfodol ac nid oes angen i chi ein cynnwys ni, ond gallwch gofrestru'r eiddo yn wirfoddol os dyna yw'ch dymuniad. Gweler Cyfarwyddyd Cyhoeddus 13 - Gwneud ceisiadau am gofrestriad cyntaf gan y perchennog yn bersonol. Codir ffi am y gwasanaeth hwn.

Canfod ble i anfon eich ceisiadau cofrestru.

O dan ein polisi ymgynghorol gallwn roi gwybodaeth ffeithiol a chyngor am weithdrefnau i gwsmeriaid am sut mae'r system cofrestru tir yn gweithio a sut i wneud cais, ond ni allwn roi cyngor cyfreithiol. Oherwydd cymhlethdodau'r gyfraith mewn perthynas â'r mater hwn, efallai y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol.

Gweler manylion llawn ein 'Polisi ymgynghorol’

Mynegai Prisiau Tai

Mawrth 2013: 259.8

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £161,793 Newid:
Misol 0.1%
Blynyddol 0.9%
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 30 Mai 2013

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix