logo_w

Rwyf wedi newid fy enw, beth sydd angen i mi ei wneud?

Rhaid i chi roi gwybod i ni os byddwch wedi newid eich enw.  Gallwch wneud hyn trwy lenwi ffurflen AP1 a'i hanfon atom. Ym mhanel 4 o dan 'Ceisiadau yn nhrefn blaenoriaeth', ysgrifennwch 'Newid enw'.

Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn. 

Yn ogystal, rhaid i chi anfon tystiolaeth o'r newid atom, megis:

  • copi gwreiddiol neu gopi swyddogol o dystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil, neu
  • gopi gwreiddiol neu gopi ardystiedig o weithred newid enw, neu
  • y datganiad statudol gwreiddiol, neu
  • y datganiad o wirionedd gwreiddiol.

Os ydych am i'r datganiad statudol neu'r datganiad o wirionedd gwreiddiol gael ei ddychwelyd, bydd angen i chi gyflwyno copi ardystiedig hefyd. Dim ond os byddwch yn anfon copi swyddogol atom y byddwn yn ei gadw.

Byddwn bob amser yn dychwelyd unrhyw gopi gwreiddiol o dystysgrifau priodas neu bartneriaeth sifil a gweithredoedd newid enw.

Rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch hunaniaeth wrth newid eich enw trwy:

  • weithred newid enw, neu
  • ddatganiad o wirionedd, neu
  • ddatganiad statudol.

Ceir rhagor o gyngor am y dystiolaeth o hunaniaeth sydd angen i chi eu hanfon atom yng Nghyfarwyddyd Cyhoeddus 22 – Cadw eich enw yn y gofrestr yn gyfoes.

Os byddwch am ddweud wrthym am newidiadau eraill, er enghraifft, rydych wedi newid eich cyfeiriad hefyd, bydd angen i chi anfon unrhyw geisiadau at swyddfa'r Gofrestrfa Tir sy'n delio ag eiddo/tir yn eich ardal.

Canfod ble i anfon eich ceisiadau cofrestru.

Mynegai Prisiau Tai

Mawrth 2013: 259.8

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £161,793 Newid:
Misol 0.1%
Blynyddol 0.9%
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 30 Mai 2013

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix