Rwyf wedi talu fy morgais yn llawn, beth sydd angen i mi ei wneud?
Er mwyn tynnu morgais ymaith o'r gofrestr bydd angen i ni weld tystiolaeth i'r morgais gael ei dalu'n llawn.
Efallai bydd eich rhoddwr benthyg, banc neu gymdeithas adeiladu'n aml, yn anfon y dystiolaeth hon atoch neu efallai y byddant yn rhoi gwybod i ni'n uniongyrchol. Bydd eich rhoddwr benthyg, ac unrhyw dystiolaeth y byddant yn ei hanfon atoch, yn pennu'r camau gweithredu sydd eu hangen arnoch.
Efallai byddant yn un o'r canlynol atoch:
- ffurflen DS1 wedi'i llenwi, neu
- lythyr yn datgan eu bod wedi ad-dalu eich morgais.
Rwyf wedi derbyn ffurflen DS1 y Gofrestrfa Tir
Bydd ffurflen DS1 wedi cael ei llenwi gan eich rhoddwr benthyg. Efallai y byddant wedi anfon ffurflen DS2 atoch hefyd i chi lenwi (weithiau mae ffurflen DS2 wedi'i hargraffu ar gefn DS1). Pan fyddwch wedi llenwi ffurflen DS2, mae angen i chi ei hanfon gyda'r ffurflen DS1 wedi'i llenwi at y swyddfa sy'n delio'r â'r ardal lle y mae'r tir/eiddo wedi'i leoli. Os mai dim ond ffurflen DS1 rydych wedi'i hanfon, gallwch gael ffurflen DS2 o'n gwefan. Fel arall, gallwch amgáu llythyr gyda'ch cais yn gofyn i ni ddiweddaru'r gofrestr a chynnwys y cyfeiriad y dylwn anfon y manylion diwygiedig ato.
Canfod ble i anfon eich ceisiadau cofrestru.
Os ydych yn cyflwyno'r cais eich hun, rhaid i chi anfon 'ffurflen tystysgrif o hunaniaeth' ID1 neu ID2 hefyd. Ceir rhagor o wybodaeth yng Nghyfarwyddyd Cyhoeddus 20 – Tystiolaeth o hunaniaeth – i bobl nad ydynt yn drawsgludwyr.
Nid oes dim i'w dalu am y gwasanaeth hwn.
Rwyf wedi cael llythyr gan fy rhoddwr benthyg yn datgan ei fod wedi ad-dalu fy morgais yn electronig, neu y bydd yn ei ad-dalu'n electronig.
Gellir tynnu morgais ymaith oddi ar y gofrestr yn electronig. Gwneir hyn gan roddwr benthyg sy'n anfon rhyddhad o'r morgais o'i system gyfrifiadurol yn uniongyrchol i'n system ni. Mae ein system gyfrifiadurol yn gwneud nifer o wiriadau ac, ar yr amod bod y cyfan yn iawn, caiff y morgais ac unrhyw gofnodion cofrestr cysylltiedig eu dileu yn awtomatig.
Os cewch lythyr gan eich rhoddwr benthyg yn dweud ei fod yn ad-dalu'r arwystl yn electronig, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.
Beth y byddaf yn ei dderbyn pan fydd y cais wedi'i gwblhau?
Os ydych wedi cyflwyno'r cais, byddwch yn cael cofnodion cyfredol eich teitl – mae hyn yn cynnwys copi swyddogol o'r gofrestr (pdf) a dogfen gwybodaeth am deitl (pdf). Os bydd eich rhoddwr benthyg neu unrhyw drydydd parti arall wedi cyflwyno'r cais, ni chewch unrhyw hysbysiad neu ddogfennaeth gennym oni bai iddo ofyn i ni wneud hynny'n benodol.
Mewn achosion lle nad oes trawsgludwr yn gweithredu ar eich rhan ac rydych wedi talu eich morgais yn llawn:
- ond nad ydych yn symud i eiddo arall
- rhoddwr benthyg wedi anfon y rhyddhad atom yn electronig, ac
- mae’r rhoddwr benthyg wedi ein cyfarwyddo i wneud hynny
Byddwn yn anfon llythyr atoch i gadarnhau bod eich morgais wedi’i dalu’n llawn.
Sylwer yn y rhan fwyaf o achosion nad yw rhoddwyr benthyg yn gofyn i ni anfon unrhyw hysbysiad atoch. Felly, os ydych yn dymuno cael tystiolaeth bod y morgais wedi ei dynnu ymaith o'n cofnodion a bod eich manylion yn gyfredol, gallwch wneud cais am gopïau swyddogol.
Gwybodaeth bellach
Mynegai Prisiau Tai
Mawrth 2013: 259.8(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,793 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...


