Beth yw cyfamodau cyfyngu?
Mae cyfamod cyfyngu yn addewid gan un person i berson arall (megis prynwr tir i werthwr) i beidio â gwneud pethau penodol gyda'r tir/eiddo. Mae'n rhwymo'r tir ac nid person unigol ac felly mae'n "rhedeg gyda'r tir". Mae hyn yn golygu bod y cyfamod yn parhau hyd yn oed pan fydd y prynwr yn gwerthu'r tir i berson arall. Mae cyfamodau cyfyngu yn parhau i fod mewn grym er cael eu creu lawer o flynyddoedd yn ôl ac ymddengys eu bod wedi darfod.
Mae'r canlynol yn enghreifftiau o gyfamodau cyfyngu:
- peidio â chadw carafán ar yr eiddo
- peidio â rhedeg busnes o'r eiddo
- peidio â chadw unrhyw anifeiliaid heblaw anifeiliaid anwes ar yr eiddo
- peidio ag arddangos hysbysebion, biliau neu hysbyslenni ar yr eiddo heblaw rhybudd bod y tir/eiddo i'w osod neu ar werth.
Mynegai Prisiau Tai
Mawrth 2013: 259.8(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,793 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...


