Beth yw ystyr ‘dyfarniad’?
Os na all partïon i anghydfod tir drafod cytundeb rhyngddynt eu hunain, mae'n rhaid i ni, o dan ein rheolau, gyfeirio'r mater at y Dyfarnwr oni chaiff y mater ei gyfeirio at y Llysoedd gan un o'r partïon.
Mae Swyddfa Dyfarnwr Cofrestrfa Tir EM yn swydd annibynnol a grëwyd gan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Caiff y swyddfa ei rhedeg gan Wasanaeth Llys EM.
Mae manylion cyswllt y Dyfarnwr fel a ganlyn:
The Office of the Adjudicator to HM Land Registry
Victory House
30-34 Kingsway
London
WC2B 6EX
DX 141420 Bloomsbury 7
Ffôn: 020 3077 5800
Ffacs: 020 3077 5836
Ebost: alr@tribunals.gsi.gov.uk
Pan gaiff anghydfod ei gyfeirio at y dyfarnwr, gall naill ai wrando ar yr anghydfod ei hun neu benderfynu cyfeirio un o'r partïon i ddechrau achos llys. Ar y cam hwn o'r anghydfod caiff y partïon eu cynrychioli'n gyfreithiol fel rheol.
Ceir rhagor o wybodaeth yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 37 – Gwrthwynebiadau ac anghydfodau – Cyfarwyddyd i ymarferiad a threfniadaeth y Gofrestrfa Tir a Chyfarwyddyd Ymarfer 38 – Costau.
Mae’r cyfarwyddiadau hyn wedi eu hanelu at y proffesiwn cyfreithiol yn bennaf.
Mynegai Prisiau Tai
Mawrth 2013: 259.8(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,793 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...


