logo_w

Beth yw ‘cofrestr’ a beth mae'n ei ddangos?

Pan gaiff tir/eiddo ei gofrestru, rydym yn paratoi cofrestr teitl, sy'n rhoi cofnod cyfredol o berchnogaeth gyfreithiol a manylion eraill sy'n ymwneud â'r tir/eiddo.  Rhoddir rhif teitl (ein cyfeirnod adnabod unigryw) i bob cofrestr. Y gofrestr yw'r cofnod perchnogaeth swyddogol ar gyfer eich tir/eiddo ac mae'n disodli'r gweithredoedd teitl traddodiadol.

Mae'r gofrestr yn cynnwys:

– y gofrestr A (eiddo)

– y gofrestr B (perchnogaeth)

– y gofrestr C (arwystlon)

Mae'r gofrestr A (eiddo) yn cynnwys disgrifiad o'r eiddo ac unrhyw hawliau o blaid y tir/eiddo.

Mae'r gofrestr B (perchnogaeth) yn cynnwys manylion:

– y perchennog cofrestredig presennol. I gael manylion cyn-berchnogion, gweler - Sut y gallaf ganfod pwy oedd perchennog eiddo neu ddarn o dir yn y gorffennol?

– Y pris a dalwyd am yr eiddo, os cafodd ei werthu oddi ar 1 Ebrill 2000

– unrhyw gyfyngiad sy'n cyfyngu pwerau'r perchennog cofrestredig i ddelio â thir/eiddo neu ei waredu. Er enghraifft, gall rhoddwr benthyg roi cyfyngiad yn y gofrestr i atal y perchennog rhag cael benthyciad arall heb gydsyniad y rhoddwr benthyg cyntaf.

Mae'r gofrestr C (arwystlon) yn cynnwys manylion morgeisi neu hawliau neu fuddion eraill sy'n effeithio ar y tir/eiddo dan sylw. Gall gynnwys gwybodaeth am ddogfennau sydd gennym ar ffeil hefyd.

Gweld enghraifft o gofrestr teitl.

I gael copi o gofrestr teitl, gweler - Sut y gallaf gael copi o gofrestr a/neu gynllun teitl?

Sylwer nad yw copïau o weithredoedd a dogfennau y cyfeirir atynt yn y gofrestr a gedwir gennym ar gael ar-lein oni bai eich bod yn defnyddio ein e-wasanaethau busnes.  Rhaid i chi wneud cais am gopïau trwy'r post, gweler - Sut y gallaf gael copi/copïau o weithredoedd y cyfeirir atynt yn y gofrestr?

Mynegai Prisiau Tai

Mawrth 2013: 259.8

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £161,793 Newid:
Misol 0.1%
Blynyddol 0.9%
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 30 Mai 2013

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix