logo_w

Beth yw ‘cynllun teitl’ a beth mae'n ei ddangos?

Pan gaiff tir/eiddo ei gofrestru, rydym yn paratoi'r gofrestr a ‘chynllun teitl’. Mae'r cynllun teitl yn dangos stent y tir/eiddo yn y cofrestriad. Mae ein cynlluniau wedi'u seilio ar ddetholiad o fap yr Arolwg Ordnans ac mae'n dangos:

– stent cofrestredig y tir/eiddo wedi'i amlinellu mewn coch

– y rhif teitl (ein cyfeirnod adnabod unigryw)

– map yr Arolwg Ordnans a ddefnyddiwyd i baratoi'r cynllun teitl

– graddfa'r cynllun (fel rheol 1:1250 ar gyfer ardaloedd trefol a 1:2500 neu 1:10,000 ar gyfer ardaloedd gwledig)

– yr ardal weinyddol ar gyfer y tir/eiddo (y cyngor rydych yn talu eich treth gyngor iddo)

– llinellau du yn nodi nodweddion megis adeiladau, waliau, ffensys neu wrychoedd.

Mae gan rai cynlluniau teitl ardaloedd mewn lliw. Mae'r rhain yn ymwneud â chofnodion penodol yn y gofrestr teitl.

Ni allwch bennu union safle terfyn tir/eiddo trwy raddio o'r cynllun teitl gan mai dim ond safle cyffredinol y terfynau a ddangosir ar y cynlluniau teitl.

I gael rhagor o wybodaeth am derfynau, gweler:

Sut y gallaf ganfod ble mae terfyn fy eiddo?

Sut y gallaf ganfod pwy sy'n berchen ar ffens/wal/gwrych terfyn eiddo?

A all y Gofrestrfa Tir fy helpu i ddatrys anghydfod terfyn gyda'm cymydog?

 

Gweld enghraifft o gynllun teitl.

Mynegai Prisiau Tai

Mawrth 2013: 259.8

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £161,793 Newid:
Misol 0.1%
Blynyddol 0.9%
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 30 Mai 2013

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix