Pam fod y Gofrestrfa Tir wedi newid fy nghofrestr heb fy nghaniatâd?
Gall fod nifer o resymau pam y newidiwyd eich cofrestr. Er enghraifft, gall trydydd parti sy'n hawlio budd yn eich ystad gofrestredig neu forgais wneud cais i warchod y budd hwnnw trwy wneud cofnod yn eich cofrestr. Fodd bynnag, byddwn yn anfon llythyr/ebost atoch yn eich hysbysu o gais o'r fath. Dyna'r rheswm ei bod mor bwysig eich bod yn cadw'ch manylion cysylltu'n gyfredol. Os nad ydynt yn gyfredol efallai na chewch ein llythyr neu ebost.
Ceir rhagor o wybodaeth am sut i newid eich cyfeiriad ar gyfer gohebu yng Nghyfarwyddyd Cyhoeddus 2 – Cadw eich cyfeiriad ar gyfer gohebu yn gyfoes, adran 5.
Os ydych o'r farn bod gwall yn eich cofrestr, gweler Beth y dylwn ei wneud os oes gwall yn fy nghofrestr/cofrestriad?
Mynegai Prisiau Tai
Mawrth 2013: 259.8(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,793 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...


