Pam fod gwybodaeth am y pris a dalais am fy nhŷ ar gael ar y we?
Oddi ar 3 Rhagfyr 1990 mae'r Gofrestr Tir wedi bod ar gael i'r cyhoedd. Adran 66 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, sy'n darparu bod gwybodaeth y gofrestr ar gael i'r cyhoedd, sy’n rheoli’n gyffredinol pa wybodaeth o’r gofrestr sydd ar gael.
Awdurdodwyd nodi gwybodaeth pris a dalwyd o fis Ebrill 2000 gan Reolau Cofrestru Tir (Rhif 3) 2000. Gwnaed y penderfyniad gan yr Arglwydd Ganghellor ar ôl ymgynghori â'r cyhoedd a chyrff cyfreithiol a chyrff eraill. Daeth yr Arglwydd Ganghellor i'r casgliad bod cynnwys y wybodaeth hon, a’i chynnig yn dilyn hynny, o fudd i'r cyhoedd.
Oddi ar 23 Mawrth mae ein Data pris a dalwyd, sy'n dangos holl werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr ar lefel cyfeiriad, wedi bod ar gael am ddim.
Rhagor o wybodaeth
Mynegai Prisiau Tai
Mawrth 2013: 259.8(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,793 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...


