|
English | Cymraeg
| |||
|
| |||
Beth yw trefniadaeth y Gofrestrfa Tir?Mae gan y Gofrestrfa Tir dîm cefnogaeth i gwsmeriaid penodol ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol. Ceir nifer o swyddfeydd lleol sy'n gyfrifol am ardaloedd penodol o Gymru a Lloegr o dan arweiniad Cofrestrydd Tir. Ceir prif swyddfa weinyddol. Mae'r Adran Pridiannau Tir yn cynnal cofnod cyfrifiadurol sy'n ymwneud â'r beichiau a'r pridiannau ar dir digofrestredig ac mae'n rhoi data am achosion o fethdaliad. Sylwer, wrth ddefnyddio'r cyfleuster chwilio, mae'r chwiliad sir yn cynnwys siroedd metropolitaidd blaenorol, mae'r chwiliad rhanbarth yn cynnwys awdurdodau unedig a rhaid i'r côd post gael ei nodi'n llawn ee. TH13 8UJ |
||