Gwybod ble rydych chi'n sefyll - cofrestrwch eich tir

A yw eich tir yn gofrestredig?
Dewch o hyd i'r ateb

Ffoniwich:
0844 892 1122
(Llun i Gwener) ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill.

Help

Wyddech chi fod mwy na 30 y cant o dir Cymru a Lloegr yn ddigofrestredig?

Mae'r Gofrestrfa Tir yn cynnal ac yn datblygu cofrestr teitl i dir rhydd-ddaliol a phrydlesol yng Nghymru a Lloegr.

Mae cofrestru gwirfoddol yn ddewis y gallwch ei wneud heddiw i roi gwell sicrwydd a diogelwch i'r hyn sy'n eiddo i chi.

Nid oes ffordd well o ddiogelu perchnogaeth tir ac eiddo na thrwy gofrestru eich teitl gyda ni.

Eich eiddo yw'ch ased pwysicaf.
Pam y dylech gofrestru eich tir?

  • Mae cofrestriad wedi ei gefnogi gan y wladwriaeth yn rhoi sicrwydd gwell o ran teitl ac yn eich gwarchod yn well yn erbyn hawliadau meddiant gwrthgefn.
  • Mae cofrestru’n rhoi mwy sicrwydd a diogelwch i chi o ran eich eiddo.
  • Unwaith y byddwch wedi cofrestru, rydych mewn sefyllfa ddelfrydol pe byddech yn penderfynu gwerthu rhan o'ch eiddo neu'r cyfan. Mae darpar brynwyr yn fwyfwy tebygol o ddisgwyl bod tir yn gofrestredig cyn prynu.
  • Mae'n symleiddio'r broses drawsgludo, gan wneud trafodion yn haws ac o bosibl, yn llai costus i bawb.
  • Gallwch arbed arian – mae disgownt o hyd at 25 y cant ar gael i geiswyr cofrestriad cyntaf gwirfoddol.