Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Cynnyrch ychwanegu gwerth
Cynlluniau cyhoeddiadau

Untitled Document
Gwybod sut mae pethau - cofrestru eich tir
I ddysgu mwy am ba mor hawdd yw hi i gofrestru eich tir, ffoniwch (Llun-Gwe, 9am-5pm):
0800 432 0432
E-bost:
registerland@
landregistry.gsi.gov.uk

i gael rhagor o wybodaeth.
Wyddoch chi nad yw 30 y cant o dir yng Nghymru a Lloegr wedi'i gofrestru?

Mae'r Gofrestrfa Tir yn cynnal ac yn datblygu cofrestr teitl i dir rhydd-ddaliad a les-daliad yng Nghymru a Lloegr.

Mae cofrestru gwirfoddol yn ddewis y gallwch ei wneud heddiw i roi gwell sicrwydd a diogelwch i'r hyn sy'n eiddo i chi.

Nid oes ffordd well o diogelu perchnogaeth tir ac eiddo na thrwy gofrestru eich teitl gyda ni.

A yw eich tir wedi'i gofrestru? Cael gwybod nawr.

Ar hyn o bryd nid yw 30 y cant o dir yng Nghymru a Lloegr wedi'i gofrestr. Dilynwch y cyswllt hwn i weld fain o dir yn eich ardal sydd wedi'i gofrestru.

Beth am weld pa mor hawdd yw'r broses - chwilio am wybodaeth gefnogol ychwanegol a gweld sylwadau rhai o'n cleientiaid?
 
Eich eiddo yw'ch ased pwysicaf.
Pam y dylech gofrestru eich tir?


Mae cofrestriad â chefnogaeth y wladwriaeth yn rhoi sicrwydd teitl, gan roi gwell diogelwch yn erbyn hawliau o feddiant gwrthgefn.
Mae cofrestriad yn rhoi gwell sicrwydd a diogelwch i'r hyn sy'n eiddo i chi.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, rydych mewn sefyllfa ddelfrydol os byddwch yn penderfynu gwerthu rhan o'ch eiddo neu'r cyfan. Mae darpar brynwyr yn disgwyl i dir cael ei gofrestru cyn prynu'n aml.
Mae'n symleiddio'r broses drawsgludo, gan gwneud trafodion yn haws ac yn llai costus i bawb dan sylw.
Mae ein staff profiadol ar gael i'ch llywio drwy'r broses.
Arbed arian – mae gostyngiad o hyd at 25 y cant ar gael i ymgeiswyr cofrestriad gwirfoddol cyntaf.