| Astudiaethau achos |
|
Ysgrifennydd ystad yn dysgu bod rhannu'n beth da: Sut mae ystad mewn tir wedi elwa ar gofrestru tir
Mae Ann Dyson yn gweithio i Ystadau Rise Farm yn Nwyrain Swydd Gaerefrog, ystad o 12 hectar gyda mwy na 50 eiddo i'w rhentu, wedi'u rhannu rhwng pum setliad.
Penderfynodd gofrestru tir yr ystad ar ôl gweld arddangosfa'r Gofrestrfa Tir yn Sioe Fawr Swydd Gaerefrog.
"Mae'n fuddsoddiad ardderchog ar gyfer y dyfodol, a phan fydd y tir yn newid dwylo, bydd hyn yn sicrhau ei bod yn digwydd mor ddidrafferth â phosibl," meddai. "Does neb yn gwybod pryd bydd anghydfod yn codi, ac os ydych chi'n cofrestru'ch tir gallwch osgoi problemau yn y dyfodol."
"Roedd yn hawdd iawn cysylltu â'r Gofrestrfa Tir. Roeddech chi'n siarad â'r un person a ysgrifennodd y llythyrau ac roedd yn hawdd cael gafael ynddyn nhw ar unrhyw amser. Os nad oedden nhw ar gael bydden nhw'n ffonio yn ôl. Roeddem yn gwybod ble roedd y tir yn cael ei rannu, pwy oedd yn berchen ar beth a ble roedd y ffiniau."
Roedd Ann o'r farn bod y broses yn cynnig gwerth am arian. "Dim ond £525 oedd y gost am bob barsel o dir, sy'n rhesymol iawn." |
|
|
|