| Astudiaethau achos |
|
Cwmni cyfleustodau yn cael ei dynnu allan o dwll (y 18fed): Sut mae wedi elwa ar gofrestru tir
Mae Geoff Fance yn rheolwr ymchwil teitl gyda United Utilities, sy'n gyflenwr rhwydwaith dwr a dwr gwastraff yng ngogledd orllewin Lloegr. Mae'n gyfrifol am eiddo sylweddol. "Rydym yn rheoli 55,000 set o weithredoedd eiddo, yn delio â 15,000 o ymholiadau teitl bob blwyddyn ac yn ymdrin â thua 100 o drafodion eiddo bob mis," meddai.
Mae cofrestru gwirfoddol wedi gwneud ei waith "yn llawer haws - mae popeth i'w weld mewn un gofrestr a chynllun teitl terfynol."
Enghraifft benodol oedd darn o dir y tu hwnt i ffordd sy'n rhedeg ar hyd cronfa ddwr. "Roeddem yn meddwl ein bod wedi ei golli i'r cwrs golff, ond dangosodd y broses gofrestru tir yn wahanol, gan unioni'r teitl," meddai Geoff.
"Cost cofrestru'r cyfan oedd £30,000, sy'n werth anhygoel o dda! Mae gan United Utilities waith cyfalaf gwerth biliwn o bunnoedd, felly mae'n rhaid i ni warchod ein hasedau - arian mân yw £30,000 o ystyried y darlun mawr!"
Nid oedd gan Geoff yr un sylw negyddol i'w wneud am wasanaeth y Gofrestrfa Tir. "Mae'n berffaith yn fy marn i - maen nhw wedi cerdded yr ail filltir. Tîm bach sydd gennym ac mae angen hynny arnom. Rwy'n eu canmol yn uchel!" |
|
|
|