| Astudiaethau achos |
|
Y ffermwr a dirgelwch y pwll: Sut mae fferm laeth organig wedi elwa ar gofrestru ei dir
Mae Andrew Bebb yn ffermio Hall Farm, fferm laeth organig gyda 195 o erwau. Fe'i hysbrydolwyd i gofrestru ei dir ar argymhelliad ffrind a ddaeth yn agos at weld gwerthiant yn mynd i'r gwellt oherwydd anghydfod ynghylch ffin, ond llwyddodd i achub y trafodiad diolch i'r broses gofrestru.
"Roeddwn yn meddwl y byddai'n gall i'w gofrestru", meddai Andrew. "Bydd rhaid i ni werthu'r fferm rywbryd ac roedd y gweithredoedd yn gannoedd o flynyddoedd oed." Yn wir, roedd rhai pethau wedi newid eisoes: roedd cwrs afon a nodai ffin wedi newid gyda threigl amser ac, o ganlyniad, roedd y ffin ddiriaethol yn wahanol i'r wir ffin.
Mae llawer o bobl yn breuddwydio am gael pwll ar eu tir, ond i Andrew roedd bron yn hunllef. Un diwrnod gwelodd gloddiwr mecanyddol yn cloddio pwll ar ei dir. Yr ysgol drws nesaf, a oedd dan yr argraff mai nhw oedd perchnogion y tir, oedd yn gyfrifol.
Wrth lwc, oherwydd i Andrew gofrestru ei dir, wrth gymharu ei ddogfennau'n gyflym gyda rhai prifathro'r ysgol, llwyddwyd i ddatrys y sefyllfa mewn modd cyfeillgar a chafodd y twll ei lenwi.
"Ychydig yn fwy na £500 oedd cost cofrestru'r fferm gyda'r Gofrestrfa Tir", meddai Andrew. "Roedd yn werth yr arian yn fy marn i."
"Mae'n debyg bod cofrestru wedi talu am ei hun o ystyried yr arian bydden ni wedi'i wario ar ffïoedd cyfreithwyr. Doedd dim rhaid i ni eu trafferthu nhw am fater oedd yn glir o'r mapiau a gawsom gan y Gofrestrfa Tir." |
|
|
|