www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Cofrestru eich tir

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Untitled Document
Gwybod ble rydych chi’n sefyll – cofrestrwch eich tir
Ffoniwch:
0800 432 0432

(Llun i Gwener) i gael cyngor am gofrestru'ch tir.
Ffoniwch:
0844 892 1122

(Llun i Gwener) ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill.
Ebost:
registerland@
landregistry.gsi.gov.uk

i ganfod mwy.
Astudiaethau achos
I Gyngor Dosbarth Bexhill mae'r ateb lawr ar lan y môr: Sut mae cofrestru wedi helpu Bexhill

Yn ystod diwrnod ar lan y môr, ychydig iawn ohonom fyddai'n holi ei hun pwy sy'n berchen ar y traeth. Fel arfer y goron yw'r perchennog, ond yn Bexhill mae'r sefyllfa'n wahanol a'r cyngor sy'n berchen ar bopeth hyd y marc distyll. Pan aeth David Edwards, rheolwr gwasanaethau cyfreithiol Cyngor Dosbarth Rother, ati i gofrestru tir y cyngor, daeth ar draws anghysondeb arall annisgwyl.

"Roedd darn o dir crwn rhyfedd nad oedd wedi'i gynnwys yn nheitl digofrestredig y cyngor", meddai David. "O ganlyniad i'r ymarfer cofrestru roedd modd i ni adnabod hwn a'i gywiro a'r cyngor sydd nawr wedi'i gofrestru fel perchennog y tir."

"Mae cofrestru gwirfoddol yn arwain at nifer o fanteision", mae'n esbonio. "Mae gennych deitl taclus sy'n ddatganiad cryno o bopeth sy'n effeithio ar ddarn o dir fel cyfamodau cyfyngu a hawliau tramwy. Mae'n cynnig mesur o ddiogelwch yn erbyn sgwatwyr. Mae'r cynllun yn seiliedig ar fapiau'r Arolwg Ordnans, felly mae'n haws ei gysylltu â chofnodion cyfrifiadurol na chynllun a wnaed â llaw."

Roedd David yn hapus gyda'r gwasanaeth a gwerth am arian y Gofrestrfa Tir. "Talwyd tua £750 am yr holl 80 darn o dir a gofrestrwyd yn wirfoddol. Ar ddiwedd y dydd roeddem yn teimlo ei fod yn fuddsoddiad gwerth ei wneud."
 
Sut y manteisiwyd o gofrestru tir

Ystadau Ystadau
Cwmni cyfleustodau Cwmni cyfleustodau
Ffermwr Ffermwr
Rhagor o astudiaethau achos (PDF):

Y Comisiwn Coedwigaeth
Dug Norfolk
Dugiaeth Caerhirfryn
Dugiaeth Cernyw
Yr Amgueddfa Brydeinig
Palas Blenheim

Darllenwch ragor am fanteision cofrestru gwirfoddol.