Beth yw’r manteision? Diogelwch Cofrestru yw’ch gwarant perchnogaeth orau posibl. Mae teitl cofrestredig yn warantedig gan y wladwriach ac yn helpu i’ch diogelu rhag colli’ch teitl oherwydd llechfeddiant gan gymdogion a hawliadau meddiant gwrthgefn. Hwylustod Mae’r holl wybodaeth yn cael ei chadw yng nghronfa ddata’r Gofrestrfa Tir ac mae modd ei gweld yn gyflym ac yn ddiogel ar-lein. Mae hyn yn lleihau’r angen i gadw hen weithredoedd sydd yn aml yn ddryslyd. Gwerth Mae cofrestru yn brawf gwarantedig o berchnogaeth ac mae’n cynhyrchu dogfen hawdd ei darllen, sy’n adlewyrchu cynnwys y gweithredoedd teitl papur. Mae hyn yn symleiddio trawsgludo, gan wneud trafodion yn haws ac o bosibl yn llai costus i bawb. |