Daeth Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008 i rym ar 10 Tachwedd 2008. Cyflwynwyd fersiynau newydd o ffurflenni AP1, DS2 ac FR1 sy’n cynnwys paneli ychwanegol yn ymwneud â chadarnhau hunaniaeth partïon i drafodion. Gwnaed y newidiadau hyn er mwyn atal twyll ac mae’n bwysig bod trawsgludwyr yn dechrau defnyddio fersiynau newydd y ffurflenni hyn yn ddi-oed. Byddwn yn gwrthod ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn ar hen fersiwn o’r ffurflenni hyn neu heb gadarnhad o hunaniaeth pan fo hyn yn ofynnol. Am sefyllfaoedd lle bo rhaid darparu cadarnhad o hunaniaeth, gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 67 – Tystiolaeth o hunaniaeth – trawsgludwyr sydd ar gael o’r wefan hon. Mae’n bwysig gweithredu nawr er mwyn sicrhau eich bod yn defnyddio fersiwn newydd y ffurflen briodol a darparu cadarnhad o hunaniaeth pan fo angen. Mae holl ffurflenni eraill y Gofrestrfa Tir wedi cael eu newid hefyd. Gallwch barhau i ddefnyddio hen fersiynau’r ffurflenni hyn hyd at 9 Chwefror 2009 ond rhaid defnyddio’r fersiynau newydd ar ôl y dyddiad hwn. |