Mynediad i wybodaeth
Bydd y Gofrestrfa Tir yn ateb i geisiadau ysgrifenedig am wybodaeth o fewn yr amser a bennir gan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, sef 20 diwrnod gwaith. Nid oes rhaid i geisiadau o'r fath gyfeirio at y Ddeddf.
Mae'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus godi ffi am brosesu ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Fel arfer bydd y Gofrestrfa Tir yn ceisio darparu'r wybodaeth am ddim, ond mae'n cadw'r hawl i godi tâl i gwrdd â'r gost i'r sefydliad o ddod o hyd i'r wybodaeth a'i dosbarthu.
I gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf, darllenwch ein tudalen Rhyddid Gwybodaeth.
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cymeradwyo cynllun cyhoeddiadau safonol newydd y dylai pob awdurdod cyhoeddus ei fabwysiadu o 1 Ionawr 2009.
Mae'r Gofrestrfa Tir wedi mabwysiadu'r cynllun safonol newydd.
Mae Cynllun Cyhoeddiadau'r Pwyllgor Rheolau Cofrestru Tir ar gael hefyd.
Cyfarwyddyd Cyhoeddus 15
Llwythwch i lawr ein cyfarwyddyd sy'n disgrifio'ch hawliau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac yn esbonio'ch hawl i dderbyn gwybodaeth gan y Gofrestrfa Tir o dan y Ddeddf.