Gwarchod Data

Ers 1 Mawrth 2000, mae Deddf Gwarchod Data 1998 wedi'r rhoi hawl i unigolion weld gwybodaeth benodol sy'n berthnasol iddynt a gedwir ar ffurf copi caled (e.e. ffeiliau papur) yn ogystal ag ar ffurf electronig (e.e. ar gyfrifiadur).

I weithredu'n effeithiol, mae'n amlwg bod rhaid i'r Gofrestrfa Tir – fel darparwr gwasanaethau ac fel cyflogwr – gasglu mathau arbennig o wybodaeth am y bobl mae'n delio â nhw. Mae hyn yn cynnwys staff, cyn staff a staff arfaethedig, darparwyr nwyddau a/neu wasanaethau, cwsmeriaid a phobl eraill mae'n cyfathrebu â nhw. O bryd i'w gilydd, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol iddi, yn ôl y gyfraith, gasglu a defnyddio gwybodaeth sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â gofynion Cyllid y Wlad ac adrannau eraill o'r Llywodraeth.

Mae'r Gofrestrfa Tir yn cydnabod bod rhaid trin gwybodaeth bersonol yn briodol, heb ystyried sut mae'n cael ei chasglu, ei chofnodi a'i defnyddio, a bod rhaid dilyn y mesuriadau diogelwch a amlinellir yn Neddf Gwarchod Data 1998 i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Ym marn y Gofrestrfa Tir mae trin gwybodaeth bersonol mewn dull cyfreithlon a chywir yn bwysig iawn i weithredu'n llwyddiannus ac ennill a chadw hyder y rhai mae'n delio â nhw. Ei hamcan felly yw sicrhau bod yr holl wybodaeth bersonol sydd ganddi yn cael ei thrin yn gyfreithlon ac yn gywir.

I'r diben hwn, mae'r Gofrestrfa Tir yn llwyr gefnogol i'r Egwyddorion gwarchod data a amlinellir yn Neddf Gwarchod Data 1998, a'i hamcan yw cydymffurfio â nhw. Yn benodol, mae'r Egwyddorion yn gofyn bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin fel a ganlyn:

Yn unol â'r wyth Egwyddor hyn, bydd y Gofrestrfa Tir yn defnyddio dulliau rheoli priodol i sicrhau cydymffurfiaeth ddieithriad â'r canllawiau a rheolau hynny. Bydd y Gofrestrfa Tir yn: