Llwythwch i lawr ein cyfarwyddyd sy'n disgrifio'ch hawliau dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae'n esbonio'ch hawl i ofyn am a derbyn gwybodaeth gan y Gofrestrfa Tir dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mae'n ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus gymryd camau i sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn unol â'r darpariaethau Cynllun Cyhoeddiadau a bennir yn adran 19 y Ddeddf.
O 1 Ionawr 2009 bydd y Gofrestrfa Tir yn mabwysiadu Cynllun Cyhoeddiadau safonol sydd wedi'i gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Bydd y Pwyllgor Rheolau Cofrestru Tir yn mabwysiadu'r Cynllun Cyhoeddiadau safonol newydd ar gyfer Adrannau Anlwyodraethol o 1 Ionawr 2009.
Ers 1 Ionawr 2005 mae gennych yr hawliau canlynol o ran gwybodaeth sy'n cael ei dal gan y Gofrestrfa Tir:
Hanfod mynediad, yn ôl deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth yw cael gafael ar wybodaeth. Os ydych chi, fel unigolyn neu gwmni, am ailddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd i chi mae'n rhaid i chi ofyn i'r Gofrestrfa Tir am ganiatâd. Mae ailddefnyddio yn golygu gwneud copïau, cyhoeddi'r wybodaeth ac, efallai, elwa'n fasnachol arni. Felly cysylltir ailddefnydd yn agos iawn â hawlfraint a thrwyddedu. O ganlyniad, os byddwn yn darparu dogfennau i chi dan Ryddid Gwybodaeth, nid yw'n rhoi hawl awtomatig i chi ailddefnyddio'r dogfennau hynny.
Mae'r Ddeddf yn pennu nifer o eithriadau i'r hawl hon i wybodaeth. Mae'r rhain yn cynnwys materion diogelwch gwladol, gwybodaeth fasnachol neu gytundebol a chofnodion y llys. Gellir gofyn am ddata personol (gwybodaeth amdanoch chi fel unigolyn) a all fod gan y Gofrestrfa Tir yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalennau rhyddid gwybodaeth ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.
Llwythwch i lawr ein cyfarwyddyd sy'n disgrifio'ch hawliau dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae'n esbonio'ch hawl i ofyn am a derbyn gwybodaeth gan y Gofrestrfa Tir dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
![]()