Cynllun Cyhoeddiadau

Diweddarwyd diwethaf: 31/07/2010

Fersiwn i'w argraffu

Cynnwys

Cyflwyniad

7 Dosbarthiadau o wybodaeth

1. Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

— Swyddogaethau a chyfrifoldebau
— Strwythur y sefydliad
— Gwybodaeth am ein deddfwriaeth
— Cyfrifoldeb corfforaethol
— Manylion cyswllt y Gofrestrfa Tir

2. Beth rydym yn ei wario a sut

— Datganiadau ariannol
— Adroddiad blynyddol a chyfrifon
— Rhaglen cyfalaf
— Strwythurau cyflog a graddio
— Treuliau'r cyfarwyddwr
— Trefnau caffael
— Polisi caffael
— Rhestr o gontractau a ddyfarnwyd a'u gwerth
— Rhestr o gontractau
— Datganiadau ariannol ar gyfer prosiectau a digwyddiadau
— Rheoliadau ariannol mewnol

3. Ein blaenoriaethau a'n perfformiad

— Strategaethau a chynlluniau
— Adroddiad blynyddol a chyfrifon
— Cynllun busnes blynyddol
— Glasbrint
— Cyhoeddiadau'r Grŵp Sicrhau Ansawdd Technegol
— Cyhoeddiadau'r Archwiliad Mewnol
— Cyhoeddiadau'r Uned Ryngwladol
— Cyhoeddiadau'r Adolygydd Cwynion Annibynnol
— Strategaeth amrywiaeth
— Cynllun Cyflwyno Amrywiaeth
— Adroddiadau ar berfformiad i'r Senedd
— Dogfen fframwaith
— Adroddiadau chwech misol i'r gweinidog
— Safonau gwasanaeth
— Datganiad safonau gwasanaeth
— Datganiad Siarter Safonau Gwybodaeth
— Ystadegau
— Targedau perfformiad allweddol
— Canlyniadau perfformiad
— Ystadegau ariannol
— Ystadegau cyffredinol y Gofrestrfa Tir
— Dyled tymor hir
— Ystadegau perfformiad taliadau
— Ystadegau hyfforddiant
— Ystadegau Cyffredinol
— Secondiadau a chyfnewid

4. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

— Cynigion a phenderfyniadau polisi pwysig
— Gwybodaeth gefndirol ar gyfer cynigion a phenderfyniadau polisi pwysig
— Ymgyngoriadau cyhoeddus
— Cofnodion cyfarfodydd lefel uchel
— Bwrdd y Gofrestrfa Tir
— Bwrdd y Gweithredwyr
— Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Busnes
— Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Cyflymedig
— Canllawiau cyfathrebu mewnol
— Canllawiau mewnol – Deddf Cofrestru Tir Act 2002
— Mynegai i Reolau a Deddfau Cofrestru Tir
— Cylchlythyr Gwybodaeth Mewnol

5. Ein polisïau a gweithdrefnau

— Rheoli risg
— Rheoli risg yn y Gofrestrfa Tir
— Iechyd a diogelwch
— Llawlyfr iechyd a diogelwch
— Datganiad polisi iechyd a diogelwch
— Adroddiad blynyddol iechyd a diogelwch
— Ynni a'r amgylchedd
— Datganiad polisi ar yr amgylchedd
— Adroddiad blynyddol ar yr amgylchedd
— ISO1400 - 1
— Cydraddoldeb ac amrywiaeth
— Asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb
— Llyfryn amrywiaeth ddiwylliannol
— Ystadegau monitro amrywiaeth cyffredinol
— Recriwtio
— Polisi rheoli staff contract
— Cyfleoedd gyrfa
— Ymarferion recriwtio
— Hyfforddiant
— Cymhwyster y Gofrestrfa Tir
— Prosiectau
— Adnoddau rheoli prosiectau
— Gwybodaeth porth
— Gwasanaeth cwsmeriaid
— Polisi Gofal am Gwsmeriaid
— Cwsmeriaid ag anghenion penodol
— Datganiad Safonau Gwasanaeth
— Polisi Ymgynghorol y Gofrestrfa Tir
— Cynllun Iaith Gymraeg
— Polisïau staff
— Llawlyfr staff
— Datganiadau polisi
— Polisïau rheoli cofnodion a data personol
— Datganiad polisi datgelu data
— Cyfundrefnau a pholisïau ffïoedd
— Gwasanaethau statudol ac anstatudol
— Gwasanaethau Pridiannau Tir
— Credydau amaethyddol
— Rhyddid gwybodaeth

6. Rhestrau a chofrestri

— Cofrestri cyhoeddus a chofrestri a gedwir fel cofnod cyhoeddus

7. Ein gwasanaethau

— Cyfrifoldebau rheoleiddiol y Gofrestrfa Tir
— Y Gofrestr Agored
— Copïau hanesyddol o'r Gofrestrfa Tir
— Dogfennau a gedwir gan y Gofrestrfa Tir
— Ffurflenni'r Gofrestrfa Tir
— Cyfarwyddiadau Cyhoeddus
— Cyfarwyddiadau Ymarfer
— Bwletinau Ymarfer
— Taflenni ffeithiau
— Dogfennau gwybodaeth eithriedig
— Yr adrannau pridiannau tir a chredydau amaethyddol
— Cyfarwyddyd i bridiannau tir
— Cyfarwyddyd y ffïoedd
— Cyngor am ymarfer
— Ffurflenni cais pridiannau tir
— Gwybodaeth am ffïoedd
— Cyfarwyddiadau cyfeirio parod
— Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2009
— Rheol ffi pridiannau tir
— Gorchymyn Ffi Credydau Amaethyddol 1985
— Ffïoedd gwasanaethau cofrestru
— Cyfrifydd ffïoedd ar-lein
— Gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd
— E-wasanaethau
— Deddf Cyfathrebu Electronig 2000
— Gwasanaethau ar-lein
— E-wasanaethau busnes
— Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
— Gwasanaethau Chwilio am Eiddo
— Marchnata a gwerthu
— Gwybodaeth Pris Eiddo
— Illustrative Plans
— Data Polygon
— Gwasanaethau cynghori ac ymgynghori
— Hyfforddiant taladwy
— Taflenni, llyfrynnau a chylchlythyron
— Hanes byr o Gofrestru Tir
— Cwynion – Unioni pethau
— Landnet – Cylchlythyr cwsmeriaid
— Landlines – Cylchgrawn staff
— Gwrandawiadau ac anghydfodau
— Cyfarwyddiadau Ymarfer am anghydfodau
— Datganiadau i'r cyfryngau
— Calendr digwyddiadau'r Gofrestrfa Tir
— Datganiadau i'r wasg

Cyflwyniad

Mae Cynllun Cyhoeddiadau'r Gofrestrfa Tir yn disgrifio pa wybodaeth rydym yn ei darparu neu'n bwriadu ei darparu. Gallwch gael gwybodaeth a chyhoeddiadau trwy:

— eu llwytho i lawr o'n gwefan.
Mae cyfeiriadau yn y cynllun i 'Wefan' yn golygu prif wefan y Gofrestrfa Tir http://www.landregistry.gov.uk/. Dim ond fel ffeiliau PDF y mae'r rhan fwyaf o ddogfennau ar y wefan i'w llwytho i lawr. Bydd angen i chi fod wedi gosod Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur er mwyn eu cael. Y prif eithriadau yw ffurflenni cais y Gofrestrfa Tir, sydd fel arfer ar gael fel dogfennau MS Word, yn ogystal â ffeiliau PDF.

— eu llwytho i lawr o wefan trydydd parti.
Bydd cyfeiriadau yn y cynllun at unrhyw wefannau eraill yn cynnwys cyfeiriad gwefan llawn y safle hwnnw. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau trydydd partïon.

— eu prynu o gyflenwr a restrir (er enghraifft, Y Llyfrfa)
— eu cyflenwi ymhen 20 diwrnod gwaith ar ôl i ni dderbyn cais ysgrifenedig.

Arwystlon - Yn gyffredinol, rydym yn codi tâl am gopïau caled yn unig neu am gopïo i gyfryngau (e.e. CD-ROM). Lle y mae tâl yn berthnasol, rydym yn codi tâl am gopïo, argraffu a phostio. Os yw’r costau hyn yn llai na £10, ein nod yw cyflenwi’r ddogfen neu’r wybodaeth am ddim. Nid yw hyn yn berthnasol i ddogfennau a gyflenwir o dan ein gwasanaethau statudol, sy’n destun ffïoedd o dan ein gorchymyn ffi presennol (Gweler isod).
Rydym yn codi tâl am:
Copïo
10c fesul tudalen A4
20c fesul tudalen A3
Ar CD - £1.00
Post
Mae costau postio yn seiliedig ar gostau presennol y Post Brenhinol.
D.S. Lle rydym yn codi tâl am wybodaeth a ddarperir yn unol â chynllun cyhoeddiadau’r Gofrestrfa Tir, mae TAW yn berthnasol.

Mae cyfeiriadau yn y cynllun at 'Gais' yn golygu cais am wybodaeth a gyflwynir yn ysgrifenedig i: Swyddog y Cynllun Cyhoeddiadau, Cofrestrfa Tir, Prif Swyddfa Lincoln's Inn Fields Llundain WC2A 3PH
Ebost: publication.scheme@landregistry.gsi.gov.uk
Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno gwasanaeth agored a thryloyw lle y bo'n bosibl a'n bwriad yw cyhoeddi gwybodaeth yn ein Cynllun Cyhoeddiadau sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd ei gweld. Fodd bynnag, sylwer y byddai rhyddhau gwybodaeth benodol yn niweidiol i'n gallu i ganfod neu atal trosedd ac er budd y cyhoedd ni chaiff ei datgelu. Mewn achosion o'r fath, bydd y Gofrestrfa Tir, lle y bo'n briodol, yn rhoi ystyriaeth resymol i'r eithriadau a roddir gan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Mae gennym saith dosbarth o wybodaeth, sef:

1.      Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
2.      Beth rydym yn ei wario a sut
3.      Ein blaenoriaethau a'n perfformiad
4.      Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
5.      Ein polisïau a'n gweithdrefnau
6.      Rhestrau a chofrestri
7.      Ein gwasanaethau

Saith Dosbarth y Cynllun Cyhoeddiadau

1. Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Sefydlwyd y Gofrestrfa Tir fel adran ar wahân o'r llywodraeth ym 1862, daeth yn asiantaeth weithredol ar 2 Gorffennaf 1990 a chronfa fasnachu ar 1 Ebrill 1993. Marco Pierleoni yw'r Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr presennol a chafodd ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor ar 1 Chwefror 2010. Mae'n Bennaeth y Gofrestrfa Tir ac yn atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor. Mae'n gyfrifol am:

— gyflawni'r swyddogaeth o gofrestrydd y cyfeirir ati yn Neddf Cofrestru Tir 2002, Deddf Pridiannau Tir 1972 a Deddf Credydau Amaethyddol 1928. Mae'n gyfrifol am gadw'r cofrestri a sefydlwyd at ddibenion y Deddfau hynny — cyflwyno adroddiad blynyddol ar fusnes y Gofrestrfa Tir i'r Arglwydd Ganghellor ac am gyhoeddi'r adroddiad hwnnw

— gweinyddu a rheoli Cronfa Fasnachu'r Gofrestrfa Tir

— rheoli'r gweithrediadau a ariennir (hynny yw, y rhai sy'n gyfyngedig i gynnal busnes dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002, Deddf Pridiannau Tir 1972 a Deddf Credydau Amaethyddol 1928) yn ogystal â darparu gwasanaethau mewn marchnadoedd ehangach ym maes cofrestru a rheoli a marchnata gwybodaeth sy'n ymwneud â thir ac eiddo fel bod incwm o'r gronfa:

— yn cynnwys yn bennaf derbyniadau am nwyddau a gwasanaethau a ddarparwyd trwy gyfrwng y gweithrediadau a ariennir a

— heb fod yn llai na digonol, o gymryd y naill flwyddyn gyda'r llall, i dalu'r treuliau sydd i'w codi'n briodol i'r cyfrif incwm a gwariant

— cyrraedd unrhyw amcanion ariannol pellach a bennir gan yr Arglwydd Ganghellor gyda chydsyniad y Trysorlys

— cyflawni cyfrifoldebau Swyddog Cyfrifyddu'r gronfa fasnachu. Yn y rhinwedd hon mae'n gyfrifol am reolaeth briodol, effeithiol ac effeithlon adnoddau ac mae'n sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion a geir yn 'Managing Public Money' ac unrhyw gyfarwyddyd cyffredinol a gyhoeddir gan y Trysorlys a Swyddfa'r Cabinet

— sicrhau bod unrhyw o'i dreuliau sy'n deillio o'r gweithrediadau a ariennir yn cael eu talu o'r gronfa fasnachu

— talu i'r Gronfa Gyfunol bob blwyddyn difidend sy'n gyfartal â'r gyfradd enillion gofynnol ar gyfalaf cyfartalog a ddefnyddiwyd

— sefydlu a chynnal cronfeydd cyffredinol, cyfalaf a chronfeydd wrth gefn eraill yng nghyfrifon y gronfa fasnachu a gall dalu i'r Gronfa Gyfunol unrhyw swm o gronfeydd wrth gefn y gronfa fasnachu sy'n ymddangos iddo ar unrhyw adeg ei fod yn warged ar ôl ystyried gofynion y gweithrediadau a ariennir fel y'u rhagwelir

— buddsoddi, os yw'n dymuno, unrhyw arian nad oes ei angen ar unwaith yn y fath sicrydau'r Llywodraeth y gall y Trysorlys eu cymeradwyo

— penodi staff y Gofrestrfa Tir

— gyda chydsyniad y Trysorlys, pennu cyfanswm ac amser unrhyw daliad o'r gronfa fasnachu i'r Gronfa Gyfunol o ran pensiynau staff a chostau gweinyddol cysylltiedig

— awdurdodi aelodau o staff y Gofrestrfa Tir i gyflawni ei swyddogaethau.

Swyddogaethau a chyfrifoldebau

Cyfarwyddwyr y Gofrestrfa Tir

Marco Pierleoni

Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr

Alasdair Lewis

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Brif Gofrestrydd Tir

John Peaden

Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaeth Cwsmeriaid

Catherine Raines

Cyfarwyddwr Anweithredol

Mike Cutt

Cyfarwyddwr Anweithredol

Heather Foster

Cyfarwyddwr Cyllid

Annette Davies-Govett

Cyfarwyddwr Masnachol a Strategaeth Cwsmeriaid

Malcolm Dawson

Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

John Wright

Cyfarwyddwr Systemau Gwybodaeth

Strwythur y sefydliad

Oddi ar Ebrill 2006, mae'r Gofrestrfa Tir wedi gweithredu gyda dau fwrdd: Bwrdd y Gofrestrfa Tir, sy'n cynnwys dau gyfarwyddwr anweithredol annibynnol, a Bwrdd y Gweithredwyr, sydd â'r un aelodaeth ac eithrio'r cyfarwyddwyr anweithredol. Mae Bwrdd y Gofrestrfa Tir yn cynorthwyo'r Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr yn ei gyfrifoldeb ac atebolrwydd dros lywodraethu da a pherfformiad cyffredinol y Gofrestrfa Tir. Mae'n llunio cenhadaeth a gweledigaeth y Gofrestrfa Tir ac mae'n berchen ar y gwerthoedd sy'n llywio'r sefydliad wrth iddo ddatblygu. Mae'n pennu strategaethau'r dyfodol ar gyfer y Gofrestrfa Tir a'r strwythur a fydd yn galluogi iddi wireddu'r strategaethau hynny. Y Bwrdd yw'r fforwm ar gyfer trafod strategaethau a materion polisi pwysig a phenderfynu yn eu cylch. Mae Bwrdd y Gweithredwyr yn gweithredu'r cynllun busnes blynyddol ac mae'n gyfrifol am reolaeth feunyddiol y Gofrestrfa Tir. Cefnogir y ddau fwrdd gan nifer o is-fyrddau, sydd naill ai'n gyfrifol am agweddau penodol ar weithrediadau'r Gofrestrfa Tir neu am sicrhau ansawdd.

Gwybodaeth am ein deddfwriaeth

Mae llawer o ddeddfwriaeth yn cael effaith ar Gofrestru Tir, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ond ar hyn o bryd daw'r rhan fwyaf o ymarfer a gweithdrefn y Gofrestrfa Tir o'r canlynol:
Rheolau Cofrestru Tir (Trawsgludo Electronig) 2008
Rheolau Cofrestru Tir (Mynediad i'r Rhwydwaith) 2008
Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) 2009
Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol Rhif 2)
Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) 2010
Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2009
Rheolau (Cofrestru Tir) Cyfunddaliad 2004
Deddf Cofrestru Tir 2002
Rheolau Cofrestru Tir 2003
Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Darpariaethau Trosiannol) 2003
Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Rhif 2) 2003
Deddf Pridiannau Tir 1972
Rheolau Pridiannau Tir 1974
Rheolau Ffïoedd Pridiannau Tir 1990
Deddf Credydau Amaethyddol 1928
Rheolau Credydau Amaethyddol 1928
Gorchymyn Ffïoedd Credydau Amaethyddol 1985
Sylwer: Lle y bo'n briodol, mae hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth.

Cyfrifoldeb corfforaethol

Cyfrifoldeb corfforaethol yw ymrwymiad parhaus busnesau fel y Gofrestrfa Tir i ymddwyn yn foesol a chyfrannu at ddatblygiad economaidd, gan wella ansawdd bywyd y gweithlu a'u teuluoedd, yn ogystal â'r gymuned leol a chymdeithas ehangach. Yn 2007 ymunodd y Gofrestrfa Tir â Business in the Community, sy'n cynnwys mwy na 700 o brif gwmniau'r DU, sy'n ymroddedig i gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas. Mae'n haelodaeth barhaus o Business in the Community wedi cyfrannu at ddiweddaru ein cynllun gweithredu cyfrifoldeb corfforaethol. Sefydlwyd grŵp llywio yn ddiweddar er mwyn hyrwyddo'n gweledigaeth ymhellach; bydd yn annog cyfrifoldeb cymdeithasol yn ein busnes, gan ganolbwyntio ar fodloni'n hymrwymiadau cyfrifoldeb corfforaethol a datblygiad cynaliadwy. Mae systemau rheolaeth amgylcheddol a chaffael cynaliadwy yn parhau i fod yn elfennau pwysig o raglen cyfrifoldeb corfforaethol y Gofrestrfa Tir. Mae archwiliadau allanol o'n hachrediad Safon Amgylcheddol ISO 14001 wedi parhau, gan ddangos effeithiolrwydd ein System Rheolaeth Amgylcheddol a sicrhau ein bod yn cadw ardystiad. Mae'n tîm caffael yn gweithio i sicrhau ein bod ymhlith adrannau'r llywodraeth sydd ar y blaen ym maes caffael cynaliadwy, gan fodloni'r gofynion a bennir yng Nghynllun Gweithredu Tasglu Caffael Cynaliadwy'r Llywodraeth.

Manylion Cyswllt y Gofrestrfa Tir

Prif wefan y Gofrestrfa Tir: www.landregistry.gov.uk

Swyddog y Cynllun Cyhoeddiadau
Cofrestrfa Tir, Prif Swyddfa
Lincoln's Inn Fields
Llundain WC2A 3PH

Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
Cofrestrfa Tir, Prif Swyddfa
Lincoln’s Inn Fields
Llundain WC2A 3PH
Ebost: foi@landregistry.gsi.gov.uk

Swyddog Diogelu Data
Cofrestrfa Tir, Prif Swyddfa
Lincoln’s Inn Fields
Llundain WC2A 3PH
Ebost: dataprotection@landregistry.gsi.gov.uk

Ymholiadau Hawlfraint y Gofrestrfa Tir
Cofrestrfa Tir Swyddfa Penbedw
Woodside Ferry Approach
Penbedw
Glannau Mersi CH41 6DU
Ebost: copyright@landregistry.gsi.gov.uk
 
Cydlynydd yr Iaith Gymraeg
Cofrestrfa Tir Swyddfa Cymru
Tŷ Cwm Tawe,
Ffordd y Ffenics,
Llansamlet
Abertawe SA7 9FQ
Ebost: eleri.jones@landregistry.gsi.gov.uk
 
Tîm Cefnogi Gwasanaethau Masnachol
Cofrestrfa Tir Swyddfa Penbedw
Woodside Ferry Approach
Penbedw
Glannau Mersi CH48 6DU
Ebost: commercial.services@landregistry.gsi.gov.uk
Ffôn 0151 473 6137
 
Cefnogaeth i Gwsmeriaid
Cofrestrfa Tir Prif Swyddfa
Lincoln’s Inn Fields
Llundain
WC2A 3PH
Ebost: customer.services@landregistry.gsi.gov.uk
Ffôn: 0844 892 1122
 
Cymhwyster y Gofrestrfa Tir
Cofrestrfa Tir Swyddfa Nottingham
Government Buildings
Chalfont Drive
Nottingham
NG8 3RN
Ebost: qt@landregistry.gsi.gov.uk
 
Deddfwriaeth y DU
Swyddfa Llundain
The National Archives
102 Petty France
London SW1H 9AJ

Swyddfa Kew
The National Archives
Richmond
Surrey TW9 4DU
Gwefan: http://www.legislation.gov.uk

Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus
OPSI
102 Petty France
Llundain SW1H 9AJ
a Kew
Richmond
Surrey TW9 4DU
Gwefan: http://www.opsi.gov.uk
 
Y Llyfrfa
Swyddfa'r Llyfrfa (TSO)
PO BOX 29
St Crispins
Duke Street
Norwich NR3 1PD
Ffôn: 0807 600 5522
Ebost: book.orders@tso.co.uk
Gwefan: www.tso.co.uk
 
Y Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Gwefan: http://www.ico.gov.uk

2. Beth rydym yn ei wario a sut

Datganiadau Ariannol

Mae gwybodaeth ariannol y Gofrestrfa Tir, yn cynnwys cyfrifon blynyddol, cynlluniau arian parod, Gorchymyn y Gronfa Fasnachu, cynllunio a rheolaeth ariannol a buddsoddi, ar gael trwy ein hadroddiad blynyddol.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cofrestrfa Tir EM

Disgrifiad: Mae adroddiadau blynyddol a chyfrifon y Gofrestrfa Tir yn mynd yn ôl i 1993 ar gael fel copi caled oddi ar 1993 ac yn electronig oddi ar 1999. Mae'n hadroddiad blynyddol ar gael yn ddi-dâl yn electronig ond codir ffi am gopi caled.

Rhaglen Cyfalaf

Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Gofrestrfa Tir yn dadansoddi gwariant cyfalaf yn ôl categori eang. Mae dadansoddiad manylach ar gael trwy gais. Nid oes gan y Gofrestrfa Tir unrhyw fentrau cyllid preifat neu gontractau partneriaeth cyhoeddus-preifat.

Strwythurau tâl a graddio

Mae'r Gofrestrfa Tir yn defnyddio strwythur tâl a graddio'r Gwasanaeth Sifil. Fodd bynnag, cyflwynwyd graddau ychwanegol a chafodd rhai eu hailenwi fel eu bod yn fwy perthnasol i waith y sefydliad. Mae'r tabl isod yn grynodeb byr o'r graddau.

Gwasanaeth Sifil

Cofrestrfa Tir

Band Tâl Cenedlaethol o 1 Mehefin 2010.

Grŵp Generig 

AA (Cynorthwy-ydd Gweinyddol) 

RA (Cynorthwy-ydd Cofrestru)

£15,918

Graddau gweinyddol

AO (Swyddog Gweinyddol) 

RO (Swyddog Cofrestru)

£18,649

EO (Swyddog Gweithredol)

RE2L (Swyddog Gweithredol Cofrestru - Is) 

£22,437- £23,628

Graddau rheolwyr canol a gwaith cais

HEO (Uwch Swyddog Gweithredol)

RE2U (Swyddog Gweithredol Cofrestru - Uwch) 

£26,228- £29,712

SEO (Uwch Swyddog Gweithredol)

RE1 (Swyddog Gweithredol Cofrestru - lefel 1) 

£32,974- £36,402

SRE (Uwch Swyddog Gweithredol Cofrestru)

£40,423- £44,180

Uwch raddau

Gradd 7

SRA2 (Uwch Weinyddwr Cofrestru - lefel 2) 

£48,880- £55,475

Gradd 6

SRA1 (Uwch Weinyddwr Cofrestru - lefel 1) 

£59,785- £68,156

SRAL (Uwch Weinyddwr Cofrestru - Cyfreithiol) - Cyfreithiwr

£51,131 - £59,738

SCS (Uwch Wasanaeth Sifil) 

SCS (Uwch Wasanaeth Sifil)

£58,200 - £208,100

Manylion staff sydd â chyflogau dros £150,000
Ar gael trwy http://data.gov.uk/dataset/uk-civil-service-high-earners

Treuliau Cyfarwyddwr
Disgrifiad: Rhestr o dreuliau.
Ar gael trwy ein gwefan.

Trefnau Caffael

Y Grŵp Caffael Corfforaethol sy'n ymdrin â threfnau caffael yn y Gofrestrfa Tir. Mae'r grŵp yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu polisi caffael y Gofrestrfa Tir. Mae'r polisi yn adlewyrchu holl ddeddfwriaeth caffael y DU, polisi a chanllawiau'r Llywodraeth ac ymarfer gorau busnes. Mae Caffael Corfforaethol yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Cyllid. Ei bennaeth yw'r Prif Swyddog Caffael sy'n atebol i'r Cyfarwyddwr Cyllid.

— Polisi Caffael

Disgrifiad: Polisi corfforaethol sy'n adlewyrchu holl ddeddfwriaeth caffael y DU.
Ar gael trwy gais.

Rhestr o gontractau a ddyfarnwyd a'u gwerth

— Rhestr o gontractau

Disgrifiad: Rhestr gyfredol o gontractau'r Gofrestrfa Tir.
Ar gael trwy gais.

Cyswllt i Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd:
www.publications.europa.eu/official/index_en.htm

Datganiadau Ariannol ar gyfer prosiectau a digwyddiadau

Mae modd cael data lefel uchel am brosiectau mawr o'n system gyfrifyddu ariannol a'u darparu trwy gais.

Rheoliadau Ariannol Rhyngwladol

Mae'r Gofrestrfa Tir yn gweithio'n unol â rheoliadau ac ymarferion cyfrifyddu sydd i'w gweld ar wefan Y Trysorlys. Mae rheolau mewnol ynghylch gwariant ar deithio a chynhaliaeth i'w gweld yn ein polisi teithio a chynhaliaeth, sydd ar gael trwy gais.

3. Ein blaenoriaethau a'n perfformiad

Strategaethau a chynlluniau ac ati

Isod rhestrir gwybodaeth gyffredinol am y Gofrestrfa Tir, cyhoeddiadau corfforaethol, perfformiad, hanes, gwasanaethau sydd ar gael a mentrau'r dyfodol.

— Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cofrestrfa Tir EM

Disgrifiad: Adroddiadau blynyddol a chyfrifon y Gofrestrfa Tir yn mynd yn ôl i 1993
Fformat: Copi caled (1993 - Presennol); Fersiwn Electronig (1999 - Presennol)
Ar gael am ddim ar ein gwefan neu i'w brynu o'r Llyfrfa. Bydd y Llyfrfa yn gallu rhoi manylion am y gost.

— Cynllun Busnes Blynyddol Cofrestrfa Tir EM

Disgrifiad: Cynllun busnes blynyddol y Gofrestrfa Tir sy'n cynnwys ein hamcanion a'n targedau perfformiad allweddol.

Ar gael ar ein gwefan.

— Glasbrint Cofrestrfa Tir EM

Disgrifiad: Strategaeth fusnes tymor hir y Gofrestrfa Tir
Ar gael trwy gais.

— Strategaeth E-Fusnes 2001 - 2011

Disgrifiad: Strategaeth e-fusnes tymor hir y Gofrestrfa Tir
Ar gael ar ein gwefan.

— Strategaeth gweithredu e-drawsgludo

Disgrifiad: Strategaeth fusnes ar gyfer gweithredu E-Drawsgludo yng Nghymru a Lloegr.
Ar gael ar ein gwefan.

— Cyhoeddiadau'r Grŵp Sicrhau Ansawdd Technegol (TAG)

Adroddiadau TAG

Disgrifiad: Adroddiadau sy'n adolygu'r gwaith a wnaed gan y Grŵp yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Ymhlith materion eraill mae'r adroddiadau'n trafod ymarferion a gweithdrefnau'r Gofrestrfa Tir
Ar gael trwy gais.

— Cyhoeddiadau'r Archwiliad Mewnol

Adroddiad Blynyddol
Disgrifiad: Adroddiad Blynyddol Pennaeth Archwiliad Mewnol i Fwrdd y Gofrestrfa Tir.
Ar gael trwy gais.

— Cyhoeddiadau'r Uned Ryngwladol

Adroddiad Diwedd y Flwyddyn
Disgrifiad: Adroddiadau blynyddol Uned Ryngwladol y Gofrestrfa Tir o 2003 i 2008
Datganiad Galluoedd
Disgrifiad: Datganiad o alluoedd a gwasanaethau'r Gofrestrfa Tir
Cefnogi Cofrestru Tir Effeithiol yn Fyd-eang
Disgrifiad: Yn disgrifio gweithgareddau Uned Ryngwladol y Gofrestrfa Tir
Ar gael am ddim ar ein gwefan

— Cyhoeddiadau a gynhyrchwyd gan yr Adolygydd Cwynion Annibynnol (ICR) Adroddiad Blynyddol

Disgrifiad: Adroddiadau blynyddol Adolygydd Cwynion Annibynnol (ACA) y Gofrestrfa Tir o 1999 hyd heddiw.
Ar gael o wefan yr ACA http://www.icrev.org.uk

— Strategaeth Amrywiaeth

Disgrifiad: Strategaeth amrywiaeth tymor hir y Gofrestrfa Tir
Ar gael ar ein gwefan

— Cynllun Cyflwyno Amrywiaeth

Disgrifiad: Cynllun Blynyddol y Gofrestrfa Tir sy'n cynnwys ein hamcanion ar gyfer amrywiaeth o'r Strategaeth Amrywiaeth a'r Cynllun Cydraddoldeb Unigol
Ar gael trwy gais

Adroddiadau perfformiad i'r Senedd

—Dogfen Fframwaith Cofrestrfa Tir EM (2008)

Disgrifiad: Mae'r ddogfen hon yn pennu'r fframwaith ar gyfer gwaith y Gofrestrfa Tir, gan gynnwys ei chyfrifoldebau i'w chwsmeriaid a'i hatebolrwydd i'r Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder.
Ar gael ar ein gwefan

— Adroddiadau i'r Gweinidog

Disgrifiad: Adroddiadau chwech misol i'r Gweinidog ar gyfer y Gofrestrfa Tir
Ar gael trwy gais

— Safonau Gwasanaeth

— Cofrestrfa Tir EM: Datganiad o Safonau Gwasanaeth

Disgrifiad: Mae'r llyfryn hwn yn datgan ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i'n cwsmeriaid a'r safonau gwasanaeth y gallant eu disgwyl gennym.
Ar gael ar ein gwefan

— Datganiad Safonau Siarter Gwybodaeth Ddaearyddol

Disgrifiad: Datganiad sy'n rhoi'r manylion am y rhesymau dros benderfyniad y Gofrestrfa Tir i fabwysiadu'r Siarter Gwybodaeth Ddaearyddol
Ar gael ar ein gwefan

Ystadegau

— Perfformiad y Gofrestrfa Tir yn erbyn ei Thargedau Perfformiad Allweddol

Disgrifiad: Ystadegau
Ar gael trwy gais

— Canlyniadau Perfformiad ar gyfer pob swyddfa'r Gofrestrfa Tir

Disgrifiad: Ystadegau
Ar gael trwy gais

— Ystadegau Ariannol

Ystadegau Ariannol Cyffredinol y Gofrestrfa Tir

Disgrifiad: Gwybodaeth ystadegol fel nifer y staff, cyfraddau salwch ac ati.
Ar gael trwy gais
Sylwer: Mae peth o'r deunydd mewn dogfen o'r math hwn yn deillio o wybodaeth y bernir ei bod yn cynnwys deunydd eithriedig. Pan fydd hyn yn digwydd bydd y deunydd yn dangos yn glir ble mae gwybodaeth wedi cael ei hatal ac yn esbonio pa eithriad a ddefnyddiwyd a pham. Yn gyffredinol, gall gwybodaeth gael ei hatal pe byddai rhyddhau'r wybodaeth yn peryglu iechyd a diogelwch staff neu ddiogelwch gwladol.

— Ystadegau ‘Dyled Tymor Hir’

Disgrifiad: Gwybodaeth ystadegol
Ar gael trwy gais

— Ystadegau Perfformiad Taliadau'r Gofrestrfa Tir

Disgrifiad: Tablau misol (24 swyddfa leol)

Disgrifiad: Tablau misol (Asiantaeth Gyfan)
Ar gael trwy gais

— Ystadegau Hyfforddiant Cyffredinol mewn perthynas â hyfforddiant a datblygiad yn y Gofrestrfa Tir

Disgrifiad:
Gwybodaeth ystadegol
Ar gael trwy gais

— Ystadegau am gyfleoedd secondiad a chyfnewid

Disgrifiad: Gwybodaeth ystadegol
Ar gael trwy gais

4. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

— Cynigion a phenderfyniadau polisi pwysig

Mae deddfwriaeth yn cyfyngu ar yr hyn y mae'r Gofrestrfa Tir yn gallu ei wneud. Os ydym am newid y Rheolau neu'r Gorchymyn Ffi er enghraifft, bydd rhaid i ni gynnal ymgynghoriad gyda chymeradwyaeth weinidogol cyn i ni allu diwygio trefnau a chyflwyno newidiadau. Mae Glasbrint y Gofrestrfa Tir yn cynrychioli'r safbwynt cyfredol am ein dyfodol a'n hamcanion i ddatblygu'r sefydliad er mwyn bodloni anghenion a gofynion cwsmeriaid. Mae hefyd yn cynnwys manylion y newidiadau angenrheidiol er mwyn i ni weithio'n effeithiol yn y dyfodol. I lwytho copi o'n Glasbrint i lawr, dilynwch y cyswllt hwn.

— Cau Swyddfa Harrow – Asesiad Effaith

Disgrifiad: Mae'r adroddiad yn esbonio'r cefndir a'r rhesymau sy'n sail i gynnig Bwrdd y Gofrestrfa Tir i gau swyddfa Harrow.
Ar gael trwy gais

— Llythyr am newid polisi

Disgrifiad: Datganiad polisi (2004) ynglŷn â threfniadau arbennig gyda rhoddwyr benthyg o ran gweithredoedd arwystl gwreiddiol.
Ar gael ar ein gwefan

— Gwybodaeth gefndirol ar gyfer cynigion a phenderfyniadau polisi pwysig

Prif ddiben Bwrdd Polisi a Strategaeth Trawsnewid Busnes y Gofrestrfa Tir yw datblygu a datrys materion polisi o ran model busnes y Gofrestrfa Tir ar gyfer y dyfodol. Mae'r Bwrdd yn blaenoriaethu materion sy'n gofyn am ystyriaeth gan Fwrdd y Gofrestrfa Tir, gan amlinellu'r materion allweddol a gwneud argymhellion lle bo'n briodol. Yn y pendraw, cyfrifoldeb Bwrdd y Gofrestrfa Tir yw holl faterion a strategaethau polisi pwysig.

— Ymgyngoriadau cyhoeddus

Mae holl ymarferion ymgynghori gweithredol a'r rhai sydd wedi'u cwblhau gan y Gofrestrfa Tir i'w gweld ar ein gwefan.

Cofnodion cyfarfodydd lefel uchel

— Byrddau'r Gofrestrfa Tir

— Bwrdd y Gofrestrfa Tir

Disgrifiad: Aelodaeth, Cylch Gorchwyl, Agenda a Chofnodion Cyfarfodydd
Ar gael trwy gais

— Bwrdd y Gweithredwyr

Disgrifiad: Aelodaeth, Cylch Gorchwyl, Agenda a Chofnodion Cyfarfodydd
Ar gael trwy gais
Sylwer 1: Bydd agendâu ar gael chwe wythnos ar ôl dyddiad y cyfarfodydd.
Sylwer 2: Bydd cofnodion wedi'u golygu ar gael chwe wythnos ar ôl dyddiad y cyfarfod.
Sylwer 3: Bydd unrhyw bapur a gyflwynir i Fwrdd y Gofrestrfa Tir neu i Fwrdd y Gweithredwyr er gwybodaeth, i'w drafod neu i'w weithredu, ar gael i'r cyhoedd 24 mis ar ôl dyddiad y papur oni bai fod rhesymau da dros beidio â rhyddhau'r papur cyfan neu ran ohono ar yr adeg honno.

— Bwrdd y Rhaglen Trawsnewid Busnes

— Bwrdd y Rhaglen Trawsnewid Cyflymedig

— Bwrdd Effeithiolrwydd Busnes
— Bwrdd Risg Busnes
— Bwrdd Cyllid a Chynllunio
— Bwrdd Rheoli Gwybodaeth
— Bwrdd Materion Technegol
— Bwrdd Indemniad
— Bwrdd Rheoli Ased Eiddo
— Grŵp Cydlynu Rhaglen
— Bwrdd Rheoli Cyfleusterau

Disgrifiad: Cylch Gorchwyl, Agenda a Chofnodion Cyfarfodydd
Ar gael trwy gais

Canllawiau cyfathrebu mewnol, meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau, cyfarwyddiadau mewnol, llawlyfrau a chanllawiau

— Cyfarwyddyd Mewnol - Deddf Cofrestru Tir 2002 “Llyfrgell”

Disgrifiad: Cyfarwyddyd i staff y Gofrestrfa Tir am bob agwedd ar ymarfer a gweithdrefnau cofrestru tir. Ysgrifennwyd y cyfarwyddyd hwn ar gyfer staff sy'n gwneud gwaith cais yn unig ac mae'n cael ei ddiweddaru a'i adolygu trwy'r amser. Felly bydd unrhyw ran o'r Llyfrgell a ddarperir yn dilyn cais gan gwsmer o ddefnydd cyfyngedig.
Mae'r Llyfrgell yn cynnwys gwybodaeth sylweddol iawn, felly byddai'n gymorth pe gallai'r rhai sy'n gwneud cais fod yn benodol am yr agweddau ar ymarfer a gweithdrefnau cofrestru tir sydd o ddiddordeb iddynt. Dangosir y dogfennau fel arfer ar system meddalwedd mewnol sy'n cynnwys nodweddion amrywiol fel graffigwaith a chysylltau awtomatig nad oes modd eu hatgynhyrchu ar gopiau papur.
Ar gael trwy gais - dylid gwneud cais ysgrifenedig i Swyddog y Cynllun Cyhoeddiadau neu drwy anfon ebost at publication.scheme@landregistry.gsi.gov.uk
Mae'r Gofrestrfa Tir yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.
Sylwer: Ni fydd y Gofrestrfa Tir yn rhyddhau unrhyw ganllawiau a fwriedir ar gyfer ei staff lle y byddai rhyddhau'r wybodaeth honno yn niweidio ein gallu i ganfod neu atal trosedd.

— Mynegai Rheolau a Deddfau Cofrestru Tir

Disgrifiad: Cyfarwyddyd i staff y Gofrestrfa Tir ar y rheolau a deddfau sy'n sail i Gofrestru Tir

— Cylchlythyron Cyfarwyddyd Mewnol

Disgrifiad: Bwletin staff electronig

Ar gael trwy gais

5. Ein polisïau a'n gweithdrefnau

Rheoli risg

— Rheoli Risg yn y Gofrestrfa Tir

Disgrifiad: Polisi clir ar gyfer staff y Gofrestrfa Tir am reoli risg Ar gael trwy gais

Iechyd a Diogelwch

— Llawlyfr Iechyd a Diogelwch

Disgrifiad: Canllawiau i staff y Gofrestrfa Tir ar Faterion Iechyd a Diogelwch
Ar gael trwy gais

— Polisi Iechyd a Diogelwch

Disgrifiad: Dogfen bolisi ar gyfer staff y Gofrestrfa Tir
Ar gael trwy gais

— Adroddiad Blynyddol ar Iechyd a Diogelwch

Disgrifiad: Adroddiadau blynyddol oddi ar 2003 yn cynnwys gwybodaeth Iechyd a Diogelwch y Gofrestrfa Tir
Ar gael trwy gais

Ynni a'r Amgylchedd

— Polisi Amgylcheddol

Disgrifiad: Dogfen Bolisi (2008)
Ar gael ar ein gwefan

— Adroddiad Blynyddol ar Ynni a'r Amgylchedd

Disgrifiad: Adroddiadau blynyddol oddi ar 2002 yn cynnwys gwybodaeth ynni a'r amgylchedd y Gofrestrfa Tir
Ar gael trwy gais

— ISO1400 – 1

Gwybodaeth System Rheolaeth Amgylcheddol

Disgrifiad: Gwybodaeth am bolisi a System Rheolaeth Amgylcheddol y Gofrestrfa Tir
Ar gael trwy gais
Sylwer: Mae peth o'r deunydd mewn dogfen o'r math hwn yn deillio o wybodaeth y bernir ei bod yn cynnwys deunydd eithriedig. Pan fydd hyn yn digwydd bydd y deunydd yn dangos yn glir ble mae gwybodaeth wedi cael ei hatal ac yn esbonio pa eithriad a ddefnyddiwyd a pham. Er enghraifft, gall gwybodaeth gael ei hatal pe byddai rhyddhau'r wybodaeth yn peryglu iechyd a diogelwch staff neu ddiogelwch gwladol.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Gwybodaeth yn ymwneud â pholisi'r Gofrestrfa Tir ar Amrywiaeth gan gynnwys manylion yr Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb, Ystadegau Amrywiaeth ac Amrywiaeth Ddiwylliannol. Ni fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am aelodau staff arbennig nac unigolion eraill.

— Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb

Disgrifiad: O ganlyniad i'n Cynllun Cydraddoldeb Unigol, rydym wedi dechrau'r gwaith o sgrinio ein swyddogaethau a'n polisïau ar gyfer eu perthnasedd i amrywiaeth. Cyhoeddir pob asesiad effaith llawn
Ar gael trwy gais

— Llyfryn Amrywiaeth Ddiwylliannol

Disgrifiad: Llyfryn adnoddau ar ddefodau a chredoau crefyddol a diwylliannol, iaith a systemau enwi
Ar gael trwy gais

— Ystadegau monitro Amrywiaeth Cyffredinol

Disgrifiad: Gwybodaeth ystadegol
Ar gael trwy gais

— Polisi Rheoli Staff Contract

Disgrifiad: Datganiad clir o'n polisi ar gyfer recriwtio a rheoli staff contract.
Ar gael trwy gais

— Cyfleoedd gyrfa gyda'r Gofrestrfa Tir

Disgrifiad: Gwybodaeth gyffredinol am gyfleoedd gyrfa a disgrifiadau byr o swyddi Swyddog Cofrestru a Swyddog Gweithredol Cofrestru gan gynnwys manylion cyflogau cychwynnol.
Ar gael ar ein gwefan

— Ymarferion Recriwtio Cyfredol

Disgrifiad: Manylion am swyddi gwag yn y Gofrestrfa Tir, manylion cyswllt, cyflogau cychwynnol, dyddiadau cau a disgrifiadau swydd byr

Ar gael ar ein gwefan

— Polisi Recriwtio
Disgrifiad: Datganiad o bolisi ar gyfer recriwtio staff.
Ar gael ar ein gwefan

Hyfforddiant

— Gwybodaeth am Gymhwyster y Gofrestrfa Tir

Disgrifiad: Mae Cymhwyster y Gofrestrfa Tir yn gymhwyster a gydnabyddir yn allanol, wedi'i anelu at staff y Gofrestrfa Tir yn bennaf ac wedi'i gynllunio'n benodol i fod yn uniongyrchol berthnasol i'w gwaith. Mae dwy lefel i'r cymhwyster - y Dystysgrif a'r Diploma. Mae'r cwrs yn cael ei gynnig i ymgeiswyr allanol fel trawsgludwyr proffesiynol.
Mae gwybodaeth am y cwrs ar gael yn electronig neu fel copi caled trwy gysylltu â:
Cymhwyster y Gofrestrfa Tir, Cofrestrfa Tir Swyddfa Nottingham, Chalfont Drive Nottingham NG8 3RN neu ebost: qt@landregistry.gsi.gov.uk

D.S.: Tynnir Cymhwyster y Gofrestrfa Tir yn ôl o 2011.

Gwasanaethau prosiect

Gwybodaeth a chyngor cyffredinol a ddarperir i weithwyr y Gofrestrfa Tir sy'n ymwneud â rheoli prosiectau gan gynnwys gwybodaeth am PRINCE2, OGC Gateways a'r adnoddau rheoli prosiectau sydd ar gael.

— PRINCE 2 - adnoddau rheoli prosiect

Disgrifiad: Templed ffurflenni a chofnodion a ddarperir i staff y Gofrestrfa Tir i gynorthwyo'r gwaith o reoli prosiectau yn y Gofrestrfa Tir.
Ar gael trwy gais.

— Gwybodaeth Porth Swyddfa Masnach y Llywodraeth (OGC)

Disgrifiad: Gwybodaeth yn ymwneud ag adolygiadau Porth OGC, templed ffurflenni a chymorth ymarferol a ddarperir i staff y Gofrestrfa Tir sy'n ymwneud â rheoli prosiectau.
Ar gael trwy gais.

Gwasanaeth cwsmeriaid

— Polisi Gofal am Gwsmeriaid

Disgrifiad: Dogfen Bolisi.

Ar gael ar ein gwefan

— Cwynion - Unioni Pethau

Disgrifiad: Cyfarwyddyd i weithdrefn gwyno'r Gofrestrfa Tir.
Ar gael ar ein gwefan

— Cwsmeriaid ag anghenion penodol

Disgrifiad: Datganiad a chymorth ymarferol.
Ar gael trwy gais

— Datganiad o Safonau Gwasanaeth

Disgrifiad: Mae'r llyfryn hwn yn disgrifio'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i'n cwsmeriaid a'r safonau gwasanaeth y gallant eu disgwyl gennym.
Ar gael ar ein gwefan

— Polisi Ymgynghorol y Gofrestrfa Tir

Disgrifiad: Datganiad clir am ein polisi ar gynnig cyngor i'n cwsmeriaid.
Ar gael ar ein gwefan

— Cynllun Iaith Gymraeg (4ydd Argraffiad)

Disgrifiad: Dogfen bolisi ar ddefnyddio'r Gymraeg.
Ar gael ar ein gwefan

Polisïau Staff

Llawlyfr Staff

Côd Ymddygiad
Disgrifiad: Dogfen Bolisi
Ar gael trwy gais. Codir tâl am y gwasanaeth hwn

— Datganiadau Polisi

Datganiad Polisi ar Ddiwylliant Di-fai,
Datganiad Polisi ar Hyfforddiant a Datblygiad,
Datganiad Polisi ar Gymorth Cyntaf,
Datganiad Polisi ar Reoli Risg,
Datganiad Polisi ar Gyfathrebu Mewnol,
Datganiad Polisi ar Ofal Cwsmeriaid,
Datganiad Polisi ar Gyhoeddi Papurau'r Bwrdd
I gyd ar gael trwy gais

— Cynllun Cydraddoldeb Unigol
Disgrifiad: Cynllun Cydraddoldeb Unigol y Gofrestrfa Tir
Ar gael ar ein gwefan

Polisïau rheoli cofnodion a data personol

— Polisi Diogelu Data

Disgrifiad: Dogfen Bolisi
Ar gael trwy gais

— Polisi Gwrth-dwyll

Disgrifiad: Dogfen Bolisi
Ar gael trwy gais

— Polisïau diogelwch

Disgrifiad: Dogfennau Polisi
Defnydd o Ebost
Cyfrineiriau
Firysau
Defnydd o gyfrifiaduron
Defnydd o'r rhyngrwyd
Cyfrifiannu symudol
Cyfryngau cyfrifiannu symudadwy
Gliniaduron
Diogelwch ffisegol
Ar gael trwy gais

— Egwyddorion Masnachwr Teg mewn Gwybodaeth

Disgrifiad: Datganiad Polisi (2003)
Ar gael trwy gais

— Hawlfraint toriadau o'r wasg

Disgrifiad: Dogfen Bolisi
Ar gael trwy gais

Cyfundrefnau a pholisïau tâl

— Gwasanaethau statudol ac anstatudol

Daw prif incwm y Gofrestrfa Tir o'r ffïoedd mae'n eu codi am ddarparu gwasanaethau statudol o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Pennir y ffïoedd am wasanaethau statudol mewn gorchmynion ffi.
Pennir y ffïoedd cyfredol am wasanaethau'r Gofrestrfa Tir gan Orchymyn Ffi Cofrestru Tir 2009, a ddaeth i rym ar 6 Gorffennaf 2009. Mae'n darparu ar gyfer talu ffïoedd am holl wasanaethau statudol trwy gyfrif credyd, siec, arian parod, archeb bost neu ddebyd uniongyrchol. Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 hefyd yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi'r:
Gofrestrfa Tir i adennill taliadau am fynediad i'r rhwydwaith electronig o dan Atodlen 5 paragraff 2(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Ni phennwyd unrhyw daliadau o'r fath o dan adran 105 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, gall y Gofrestrfa Tir godi taliadau am wasanaethau ymgynghorol a chynghorol ynghylch cofrestru tir yng Nghymru a Lloegr neu unrhyw le arall. Mae hyn yn galluogi'r Prif Gofrestrydd Tir i bennu taliadau priodol.
Mae'r Gofrestrfa Tir yn gweithredu fel cronfa fasnachu ac felly gofynnir iddi sicrhau bod ei hincwm yn ddigonol, o gymryd y naill flwyddyn gyda'r llall, i gwrdd â'i chostau gweithredu ynghyd ag enillion ar y cyfalaf a ddefnyddiwyd wrth ddarparu'r nwyddau a gwasanaethau hynny.

— Gwasanaethau Pridiannau Tir

Mae ffïoedd am wasanaethau Pridiannau Tir yn cael eu pennu gan Orchymyn Ffi Pridiannau Tir 1990 a Rheolau Ffïoedd Pridiannau Tir 1990 fel y'u newidiwyd gan Reolau Ffïoedd Pridiannau Tir (Newidiad) 1994. Gellir talu am y gwasanaethau hyn trwy gyfrif credyd, siec, archeb bost neu arian parod.

— Credydau Amaethyddol

Mae ffïoedd am wasanaethau a ddarperir gan Gredydau Amaethyddol yn cael eu pennu gan Orchymyn Ffi Credydau Amaethyddol 1985. Mae ffïoedd yn cael eu casglu yn yr un modd ag ar gyfer gwasanaethau Pridiannau Tir.

— Rhyddid Gwybodaeth
Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi cyngor cyfreithiol a threfniadol am wneud ceisiadau
Cyfarwyddyd Ymarfer 15
Ar gael trwy ein gwefan

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn rhoi cyfarwyddyd ar ei wefan yn:
http://www.ico.gov.uk/what_we_cover/freedom_of_information.aspx

—Ystadegau
Cyhoeddir gwybodaeth ystadegol am nifer y ceisiadau a wnaed i'r Gofrestrfa Tir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn:
www.justice.gov.uk/publications/freedomofinformationquarterly.htm

6. Rhestrau a chofrestri

Cofrestri cyhoeddus a chofrestri a gedwir fel cofnod cyhoeddus

— Y Gofrestr Agored ar gyfer Cymru a Lloegr

Mae gwybodaeth a gesglir gan y Gofrestrfa Tir fel rhan o'r gwaith craidd o gynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr ar gael fel hawl o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a'i rheolau cysylltiedig.

Disgrifiad: Y Gofrestr (sy'n cynnwys gwybodaeth am y cyfeiriad, perchennog ac unrhyw roddwyr benthyg morgais, ymysg materion eraill) a'r Cynllun Teitl (yn dangos y terfynau cyffredinol) ar gyfer pob eiddo cofrestredig.

(Gweler isod)

7. Ein gwasanaethau

Mae'r rhestr isod yn disgrifio gwybodaeth y Gofrestrfa Tir sydd ar gael i'n cwsmeriaid. Cyfrifoldebau rheoleiddiol y Gofrestrfa Tir

Mae gwybodaeth a gesglir gan y Gofrestrfa Tir fel rhan o'r gwaith craidd o gynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr ar gael fel hawl o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a'i Rheolau cysylltiedig.

Manylion Mynediad: Mae'r wybodaeth hon ar gael trwy gais swyddogol a gyflwynir yn unol â Rheolau Cofrestru Tir 2003. Mae manylion i'w gweld yng Nghyfarwyddyd Cyhoeddus 1 a Chyfarwyddyd Ymarfer 11 y Gofrestrfa Tir.
Cost: Codir ffi am y wybodaeth hon fel y nodir yng Ngorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2009 ac unrhyw Orchmynion dilynol.

— Copïau Hanesyddol o Gofrestr Tir Cymru a Lloegr

Disgrifiad: Fersiynau wedi'u disodli o'r Gofrestr (sy'n cynnwys gwybodaeth am y cyfeiriad, perchennog ac unrhyw roddwyr benthyg morgais, ymysg materion eraill) a'r Cynllun Teitl (yn dangos y terfynau cyffredinol) ar gyfer pob eiddo cofrestredig. Dim ond gwybodaeth sydd wedi'i storio eisoes ar ffurf electronig sydd ar gael, a gall hyn amrywio'n fawr rhwng un eiddo a'r llall.
Manylion Mynediad: Mae'r wybodaeth hon ar gael ar gais swyddogol a gyflwynir yn unol â Rheolau Cofrestru Tir 2003. Mae manylion i'w gweld yng Nghyfarwyddyd Cyhoeddus 1 a Chyfarwyddyd Ymarfer 11 y Gofrestrfa Tir.

— Dogfennau a gedwir gan y Gofrestrfa Tir sy'n ymwneud â chais

Disgrifiad: Pob dogfen o'r fath fel y'i diffinnir gan adran 66 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, Rheol 135 o Reolau Cofrestru Tir 2003 ac unrhyw ddarpariaethau cymwys eraill.
Manylion Mynediad: Mae'r wybodaeth hon ar gael ar gais swyddogol a gyflwynir yn unol â Rheolau Cofrestru Tir 2003. Mae manylion i'w gweld yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 11 y Gofrestrfa Tir. Dan rai amgylchiadau mae modd atal dogfennau rhag bod ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Mae manylion ynghylch sut i wneud hyn wedi'u nodi yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 57 y Gofrestrfa Tir.

— Ffurflenni Cofrestru Tir

Defnyddir Ffurflenni'r Gofrestrfa Tir i gael gwybodaeth, neu i ofyn am ychwanegiad neu addasiad i'r Gofrestr, neu i gynrychioli trafodion â thir cofrestredig. Ffurflenni swyddogol gorfodol a dewisol ar gyfer holl drafodion cofrestru tir, fel y pennir yn Rheolau Cofrestru Tir 2003
Mae ffurflenni'r Gofrestrfa Tir ar gael i'w llwytho i lawr yn ddi-dâl o'r wefan ac fel arfer maent ar gael fel dogfennau Word a ffeiliau PDF. Bydd angen i chi osod Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur er mwyn cael ffeiliau PDF.

— Cyfarwyddiadau Cyhoeddus

Mae Cyfarwyddiadau Cyhoeddus y Gofrestrfa Tir yn ymdrin ag ystod o bynciau. Maent yn ceisio cynorthwyo pobl sydd heb wybodaeth gyfreithiol arbenigol i ddeall yr agweddau mwyaf cyffredin ar Gofrestru Tir. Mae Cyfarwyddiadau Cyhoeddus ar gael i'w llwytho i lawr o'r wefan.

— Cyfarwyddiadau Ymarfer

Mae Cyfarwyddiadau Ymarfer y Gofrestrfa Tir wedi'u bwriadu ar gyfer trawsgludwyr yn bennaf ac yn ymdrin ag ystod o bynciau ym maes ymarfer a gweithdrefn cofrestru tir. Maent yn ceisio cynorthwyo cyfreithwyr a thrawsgludwyr i brosesu ceisiadau. Mae Cyfarwyddiadau Ymarfer at gael i'w llwytho i lawr o'r wefan.

— Bwletinau Ymarfer

Mae Bwletinau Ymarfer y Gofrestrfa Tir yn ymdrin â materion trosiannol a phynciau gydag oes gyfyngedig ac maent wedi'u hanelu at drawsgludwyr, cyfreithwyr a chwsmeriaid. Mae Bwletinau Ymarfer ar gael i'w llwytho i lawr o'r wefan.

— Taflenni Ffeithiau

Mae Taflenni Ffeithiau'r Gofrestrfa Tir yn ymdrin ag ymholiadau cyffredin ac ymarfer ar Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae Taflenni Ffeithiau ar gael i'w llwytho i lawr o'r wefan.

Datganiad ar y cyd gan y Gofrestrfa Tir a'r Arolwg Ordnans

Disgrifiad: Gwybodaeth i helpu cwsmeriaid ddeall eu rolau gwahanol wrth lunio sail i gynlluniau teitl y Gofrestrfa Tir.

Ar gael trwy ein gwefan.

— Dogfennau Gwybodaeth Eithriedig

Disgrifiad: Diffinnir Dogfennau Gwybodaeth Eithriedig yn rheol 136, Rheolau Cofrestru Tir 2003.
Manylion Mynediad: Mewn ymateb i gais am gopi swyddogol o ddogfen gwybodaeth eithriedig, bydd y Gofrestrfa Tir yn dosbarthu copi o'r ddogfen gwybodaeth wedi'i golygu (na fydd yn dadlennu'r wybodaeth niweidiol). Os nad yw'r ddogfen hon yn ddigonol, gellir cyflwyno cais am gopi llawn. Mae manylion ynghylch sut i wneud hyn a'r camau y bydd y Gofrestrfa Tir yn eu cymryd wedi'u cynnwys yng Nghyfarwyddyd Ymarfer 57 y Gofrestrfa Tir.

Yr Adrannau Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol
Gwybodaeth a chyngor cyffredinol a ddarperir i gwsmeriaid ar faterion sy'n ymwneud â'r Adran Pridiannau Tir a'r Adran Credydau Amaethyddol.

— Cyfarwyddyd Pridiannau Tir Cyfrifiadurol

Disgrifiad: Gwybodaeth ymarferol i ddelio â cheisiadau Pridiannau Tir.
Ar gael trwy gais

— Cyfarwyddyd i ffïoedd - Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol (K242)

Disgrifiad: Cyfarwyddyd i'r ffïoedd a godir gan yr Adrannau Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol.
Ar gael trwy gais

— Cyngor Ymarfer - Cyfarwyddyd Ymarfer 63 - Pridiannau Tir - Ceisiadau am gofrestriad, chwiliad swyddogol, copi swyddogol a dileu; mae'n cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â'r Adran Pridiannau Tir

Disgrifiad: Mae'r cyfarwyddyd hwn yn rhoi cyngor am geisiadau a gyflwynir i Adran Pridiannau Tir y Gofrestrfa Tir i gofrestru budd mewn tir digofrestredig, chwilio'r mynegai, cael copi swyddfa a dileu cofnod.
Ar gael ar ein gwefan

Cyfarwyddyd Cyhoeddus 10 a Chyfarwyddyd Cyhoeddus 11 y Gofrestrfa Tir gan gyfeirio'n benodol at yr Adran Pridiannau Tir
Ar gael ar ein gwefan

— Ffurflenni Cais yr Adran Pridiannau Tir ar gyfer holl drafodion Pridiannau Tir

Cais i gofrestru enw'r ffermwr
Cais i gofrestru yn enw Cymdeithas Amaethyddol
Cais i ddileu cofnod yn y gofrestru trwy ddangos prawf o ryddhau
Cais am dystysgrif bod cofrestriad wedi'i ddileu
Cais am gopi ardystiedig o'r memorandwm a ffeiliwyd yn y Gofrestr Arwystlon Amaethyddol o dan y Ddeddf
Cais am chwiliad swyddogol (Credydau Amaethyddol)
Cais i gywiro cofnod yn y gofrestr
Ar gael ar ein gwefan

Gwybodaeth am Ffïoedd

— Cyfarwyddiadau Cyfeirio Parod - Ffïoedd Gwasanaethau Gwybodaeth

Disgrifiad: Cyfarwyddiadau hawdd eu defnyddio ar Ffïoedd y Gofrestrfa Tir
Ar gael ar ein gwefan

— Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2009

Disgrifiad: Offeryn Statudol yn pennu ac yn cyfreithloni strwythur Ffïoedd y Gofrestrfa Tir.
Ar gael trwy ei lwytho i lawr o www.legislation.gov.uk, neu gellir cael copi papur o'r Llyfrfa. Am ddim o wefan legislation, ond bydd y Llyfrfa yn codi tâl.

— Rheol Ffi Pridiannau Tir

Disgrifiad: Offeryn Statudol yn pennu ac yn cyfreithloni strwythur Ffïoedd yr Adran Pridiannau Tir.

Disgrifiad: Offeryn Statudol yn pennu ac yn cyfreithloni strwythur Ffïoedd yr Adran Credydau Amaethyddol.
Ar gael gan y Llyfrfa a fydd yn codi tâl.

— Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru, Ffïoedd Gwasanaethau Gwybodaeth

—Cyfrifydd Ffïoedd Cofrestru Ar-lein

Disgrifiad: Rhaglen ar-lein sy'n cynorthwyo cwsmeriaid i gyfrifo'r ffi gywir ar gyfer eu ceisiadau cofrestru tir
Ar gael ar ein gwefan

Gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd

— E-Wasanaethau – tudalennau gwe

Disgrifiad: Tudalennau Gwe penodol ar gyfer rhoi gwybodaeth gyffredinol am e-wasanaethau busnes

— Deddf Cyfathrebu Electronig 2000

Disgrifiad: Deddf sy'n cynnig modd datblygu e-drawsgludo
Ar gael i'w llwytho i lawr o www.legislation.gov.uk, neu gellir cael copi papur o'r Llyfrfa. Ar gael am ddim o wefan legislation ond bydd y Llyfrfa yn codi tâl.

Gwasanaethau Ar-lein

— Gwasanaethau e-Fusnes

Mae gwasanaethau e-Fusnes ar gael trwy borthol y Gofrestrfa Tir ac maent yn darparu gwasanaethau cyn-gofrestru ac e-gyflwyno ar hyn o bryd ar gyfer defnyddwyr busnes ar-lein, ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 0700 a 2000 ac ar ddydd Sadwrn rhwng 0700 a 1700.

Mae angen i fusnesau gofrestru fel defnyddwyr a chytuno i Amodau Defnydd neu Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth fel sy'n briodol a Chytundeb Mynediad i Rwydwaith
Dim ond trwy ddebyd uniongyrchol y gellir talu am y gwasanaeth hwn. Ceir esboniad o'r costau ar-lein ac yn y gorchymyn ffi cyfredol.
Ychwanegir cyflwyno electronig a gwasanaethau fel y byddant ar gael

— Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol (LRD)

Caeodd y gwasanaeth hwn ar 19 Mehefin 2010 ac fe'i disodlwyd gan y gwasanaethau sydd ar gael trwy'r gwasanaethau e-fusnes y cyfeirir atynt uchod.

— Gwasanaeth Chwilio am Eiddo

Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y cyhoedd ac mae'n rhoi gwybodaeth am eiddo ar ffurf copïau PDF o gofrestri a chynlluniau teitl ar-lein. Mae ar gael o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 0700 a 2400. Rhaid i gwsmeriaid cofrestru fel defnyddiwr i allu cael gafael ar wybodaeth am eiddo
Gellir cael y gwasanaeth drwy borth y Gofrestrfa Tir o wefan y Gofrestrfa Tir o dan y gwasanaeth Chwilio am Eiddo.
Gellir talu drwy gerdyn credyd/debyd. Ceir esboniad o'r costau ar-lein ac yn y gorchymyn ffi cyfredol.

— Marchnata a Gwerthu

— Gwybodaeth Prisiau Eiddo
Data a gesglir gan y Gofrestrfa Tir yn ymwneud â phrisiau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr.

Set Ddata Pris a Dalwyd
Disgrifiad: Data wedi'u casglu gan y Gofrestrfa Tir yn ymwneud â phrisiau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr. Mae data pris a dalwyd i lawr at lefel cyfeiriad ar gael o fis Ionawr 1995 a chaiff ei ddiweddaru'n fisol. Mae'n cynnwys dros 15 miliwn o gofnodion data a gellir ei brynu'n flynyddol.

Adroddiadau Prisiau Eiddo Preswyl Safonol

Disgrifiad: Mae'r Gofrestrfa Tir yn cynnig gwasanaeth adroddiad safonol lle y gellir archebu Adroddiadau Prisiau Eiddo sy'n dangos data cyfun ar gyfer unrhyw ranbarth, sir neu Ddosbarth Awdurdod Lleol yng Nghymru a Lloegr neu unrhyw Ardal Côd Post, Dosbarth neu Sector. Gallwn ddarparu adroddiadau ar wahân ar gyfer eiddo newydd ac eiddo hŷn a bandiau prisiau ar gyfer unrhyw chwarter o 1995 hyd heddiw.

— Mynegai Prisiau Tai

Disgrifiad: Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir yw'r mynegai annibynnol mwyaf cywir sydd ar gael. Gan ddefnyddio ein set ddata o werthiannau a gwblhawyd, dyma'r unig fynegai sy'n seiliedig ar ailwerthiannau. Mae'n cynnwys ffigurau ar lefel genedlaethol, ranbarthol, sir a bwrdeistref Llundain.
Gallwch greu rhestrau o brisiau tai cyfartalog yn unrhyw ardal o Gymru a Lloegr ar gyfer ystod o fisoedd oddi ar fis Ionawr 1995. Dangosir mynegai prisiau ar gyfer yr ardal (a osodwyd ar 100 ym mis Ionawr 1995) i chi hefyd a gallwch gymharu dwy ardal

— Archif Adroddiadau Pris Eiddo Preswyl

Disgrifiad: Adroddiadau chwarterol oddi ar fis Ionawr 1995 hyd fis Rhagfyr 2006

Mae'r uchod i gyd ar gael yn electronig ar gais gan ein Tîm Cymorth Marchnata a Gwerthu yn y cyfeiriad canlynol:
Tîm Cyflawni Datblygu Busnes
Cofrestrfa Tir, Swyddfa Penbedw
Woodside Ferry Approach
Penbedw
Glannau Mersi
CH41 6DU

Mae'r Gofrestrfa Tir yn codi tâl am y gwasanaethau hyn.

— Illustrative Plans

Disgrifiad: Rhoddir cynllun gyda Chwiliad o'r Map Mynegai (SIM) os oes pump neu lai o deitlau yn effeithio ar y tir a chwiliwyd. Os bydd mwy na phump bydd y canlyniad ar ffurf destun yn unig. Os byddwch yn ymdrin â datblygiadau mawr neu gymhleth, efallai na fydd hyn yn diwallu'ch anghenion.
Yn hytrach na llunio cynllun eich hun, gallwch ddefnyddio Gwasanaeth Illustrative Plans y Gofrestrfa Tir a fydd yn rhoi cynllun côd lliw i chi wedi ei greu gan dîm o arbenigwyr gan ddefnyddio manylion diweddaraf yr Arolwg Ordnans. Mae'n dangos stent mynegedig pob teitl a sut maent yn gweddu i'w gilydd.
Maent ar gael yn electronig ar gais gan ein Tîm Cymorth Marchnata a Gwerthu yn y cyfeiriad canlynol:

— Data Polygon (Stent a Gwybodaeth Teitl)

Disgrifiad: Gall Gwybodaeth Polygon – sydd â'r rhif teitl wedi'i ymgorffori – helpu i nodi'r holl eiddo a berchnogir o fewn ardal ddaearyddol benodol. Caiff ei roi fel ffeil y gellir ei throshaenu i'ch System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), a thrwy hynny roi dehongliad gweledol o berchnogaeth y tir
At ddibenion eglurhaol yn unig y darperir y cynnych hwn.
Mae'r gwasanaethau ychwanegol canlynol ar gael hefyd:
- Polygon Plus – Taenlen gyfleus o berchnogaeth derfynol, manylion daliadaeth a chymerwr benthyg tir o fewn ardal benodol o'r gofrestr y gellir ei chysylltu â'ch GIS
- Teitl Plus – Gallwn roi cyfeirnodau grid cydgysylltiol i gwsmeriaid a'r copi swyddogol o gynlluniau teitl a/neu gofrestri ar fformat dogfen gludadwy (PDF). Gellir cysylltu'r cynlluniau teitl â'ch system GIS hefyd gan roi mynediad ar-lein iddynt i chi ar unwaith.

Disgrifiad: Mae'r Gofrestrfa Tir yn darparu gwasanaethau ymgynghori a chynghori ar dir ac eiddo ar hyn o bryd sydd wedi'u dylunio i gefnogi gofynion busnes sefydliadau. Bydd y rhain yn cynnwys amrywiaeth o setiau data eiddo a chaiff rhagor o wasanaethau eu creu.
Mae'r canlynol yn enghreifftiau o'r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd:
- Charge Validation
- Data Matching
- Online Data Matching
- Property Watch
- Connect Direct/NLIS
- Data Sync
- Requisition and Cancellation Report
- Flood Risk Indicator
- Workflow Manager
- Property Portffolio Consolidator

D.S. Mae'r Flood Risk Indicator ar gael trwy'r gwasanaeth Chwilio am Eiddo y cyfeirir ato uchod.
Unwaith y byddwch wedi gwneud cais am wasanaeth, dylech gael eich contract ymhen 20 diwrnod gwaith i'ch neges ebost ein cyrraedd.
Gellir gwneud cais trwy ein Tîm Cymorth Datblygu Busnes yn y cyfeiriad canlynol:

Mae'r Gofrestrfa Tir yn codi tâl am y gwasanaethau cynghori ac ymgynghori.

— Hyfforddiant taladwy

— Hyfforddiant cwsmeriaid ar gyfer staff a chwsmeriaid

Rhaglen hyfforddiant mewnol

Disgrifiad: Crëwyd deunyddiau hyfforddiant ar gyfer staff y Gofrestrfa Tir ar bob agwedd ar ymarfer a gweithdrefn cofrestru tir. Mae'r deunydd wedi'i ysgrifennu at ddibenion staff gwaith achos yn unig, gan gynnwys gofynion i godi materion allweddol gyda staff uwch neu staff sydd wedi'u cymwyso yn y gyfraith. Caiff y deunyddiau eu diweddaru a'u diwygio'n barhaus. Mae unrhyw ran o'r deunydd hwn a gyhoeddir yn dod o ganlyniad i gais gan gwsmer, ac felly bydd y defnydd a'r perthnasedd yn gyfyngedig.

Ar gael trwy gais- dylai hyn fod yn gais ysgrifenedig i'r Swyddog Cynllun Cyhoeddiadau neu ebost i publication.scheme@landregistry.gsi.gov.uk.

Rhaglen hyfforddiant cwsmeriaid

Disgrifiad: Mae'r Gofrestrfa Tir wedi datblygu ystod o seminarau agored i'w cyflwyno ledled Cymru a Lloegr. Mae'r holl bynciau ar gael hefyd i'w cyflwyno ar safle cwmni ar gyfer hyd at 20 o gynadleddwyr. Rydym yn datblygu gwe-seminarau a modiwlau ar-lein hefyd ar amrywiaeth o bynciau. Ceir manylion y rhaglen hyfforddiant ar y wefan ar ffurf e-lyfryn ac mae esboniad o'r costau yn y llyfryn.

Mae Grŵp Addysg a Hyfforddiant y Gofrestrfa Tir yn gyfrifol am gyflwyno'r rhaglen hyfforddiant cwsmeriaid. Os oes gennych ymholiadau seminar, gan gynnwys ymholiadau am archebu lle a thalu, cysylltwch â'n Tîm Cymorth Marchnata a Gwerthu yn y cyfeiriad canlynol:
Tîm Cyflawni Datblygu Busnes
Cofrestrfa Tir, Swyddfa Penbedw
Woodside Ferry Approach
Penbedw
Glannau Mersi
CH41 6DU

Gellir gwneud cais am gynnyrch presennol neu geisio datblygu cynnyrch newydd i'n Tîm Cymorth Marchnata a Gwerthu yn y cyfeiriad canlynol:

— Hanes Byr o Gofrestru Tir

Disgrifiad: Llyfryn yn cynnwys cefndir a gwybodaeth hanesyddol am y Gofrestrfa Tir.
Ar gael trwy gais

— Cwynion - Unioni Pethau

Disgrifiad: Cyfarwyddyd i Weithdrefn Gwyno'r Gofrestrfa Tir
Ar gael ar ein gwefan

— Cylchlythyr Cwsmeriaid - Landnet

Disgrifiad: Cylchgrawn

— Cylchgrawn Staff - Landlines

Disgrifiad: Cylchgrawn staff
Ar gael trwy gais

— Gwrandawiadau ac Anghydfodau

Mae'r wybodaeth ganlynol yn darparu cyngor cyfreithiol a gweithdrefnol i gwsmeriaid am anghydfodau sy'n ymwneud â materion cofrestru tir a gwrandawiadau gerbron y Dyfarnwr.

Cyfarwyddiadau Ymarfer ar Anghydfodau

Cyfarwyddyd Ymarfer 37 - Gwrthwynebiadau ac anghydfodau– Cyfarwyddyd i ymarfer a gweithdrefnau'r Gofrestrfa Tir
Cyfarwyddyd Ymarfer 38 - Costau
Cyfarwyddyd Ymarfer 39 - Cywiro ac Indemniad

Mae gwrandawiadau ac anghydfodau yn cael eu llywodraethu gan ddau ddarn pellach o ddeddfwriaeth, yn ogystal â'r brif Ddeddfwriaeth Cofrestru Tir, sef:
Rheolau Cofrestru Tir (Cyfeirio at Ddyfarnwr Cofrestrfa Tir EM) 2003
Rheolau (Ymarferiad a Threfniadaeth) Dyfarnwr Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi 2003

— Datganiadau i'r cyfryngau

— Calendr digwyddiadau'r Gofrestrfa Tir

Disgrifiad: Calendr o ddigwyddiadau sydd ar ddod
Ar gael yn electronig trwy gais

— Datganiadau i'r wasg
Disgrifiad: Datganiadau i'r wasg swyddogol o Swyddfa Wasg y Gofrestrfa Tir o fis Tachwedd 1999 hyd heddiw.
Ar gael yn electronig trwy gais.

<!-- TD P { color: #000000 } P { color: #000000 } TD P.style3 { color: #221e1f } TD P.style1 { color: #221e1f; font-family: "Arial", "Helvetica", sans-serif; font-size: 11pt } H1 { font-family: "Arial", "Helvetica", sans-serif; font-size: 20pt; color:#000000; font-weight: bold } H2 { font-family: "Arial", "Helvetica", sans-serif; font-size: 18pt; color:#000000 } H3 { font-family: "Arial", "Helvetica", sans-serif; font-size: 16pt; color:#000000 } H4 { font-family: "Arial", "Helvetica", sans-serif; font-size: 14pt; color:#000000 } H5 { font-family: "Arial", "Helvetica", sans-serif; font-size: 12pt; color:#000000; font-weight: bold } A:link { text-decoration: none } body,td,th { font-family: Arial, Helvetica, sans-serif; font-size: 12px; color: #000000; } -->

Cynllun Cyhoeddiadau

Diweddarwyd diwethaf: 31/07/2010

Fersiwn i'w argraffu

Cynnwys

Cyflwyniad

7 Dosbarthiadau o wybodaeth

1. Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

— Swyddogaethau a chyfrifoldebau
— Strwythur y sefydliad
— Gwybodaeth am ein deddfwriaeth
— Cyfrifoldeb corfforaethol
— Manylion cyswllt y Gofrestrfa Tir

2. Beth rydym yn ei wario a sut

— Datganiadau ariannol
— Adroddiad blynyddol a chyfrifon
— Rhaglen cyfalaf
Strwythurau cyflog a graddio
— Treuliau'r cyfarwyddwr
— Trefnau caffael
— Polisi caffael
— Rhestr o gontractau a ddyfarnwyd a'u gwerth
— Rhestr o gontractau
— Datganiadau ariannol ar gyfer prosiectau a digwyddiadau
— Rheoliadau ariannol mewnol

3. Ein blaenoriaethau a'n perfformiad

— Strategaethau a chynlluniau
— Adroddiad blynyddol a chyfrifon
— Cynllun busnes blynyddol
— Glasbrint
— Cyhoeddiadau'r Grŵp Sicrhau Ansawdd Technegol
— Cyhoeddiadau'r Archwiliad Mewnol
— Cyhoeddiadau'r Uned Ryngwladol
Cyhoeddiadau'r Adolygydd Cwynion Annibynnol
— Strategaeth amrywiaeth
— Cynllun Cyflwyno Amrywiaeth
— Adroddiadau ar berfformiad i'r Senedd
— Dogfen fframwaith
— Adroddiadau chwech misol i'r gweinidog
— Safonau gwasanaeth
— Datganiad safonau gwasanaeth
— Datganiad Siarter Safonau Gwybodaeth
— Ystadegau
— Targedau perfformiad allweddol
— Canlyniadau perfformiad
— Ystadegau ariannol
— Ystadegau cyffredinol y Gofrestrfa Tir
— Dyled tymor hir
— Ystadegau perfformiad taliadau
— Ystadegau hyfforddiant
— Ystadegau Cyffredinol
— Secondiadau a chyfnewid

4. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

— Cynigion a phenderfyniadau polisi pwysig
— Gwybodaeth gefndirol ar gyfer cynigion a phenderfyniadau polisi pwysig
— Ymgyngoriadau cyhoeddus
— Cofnodion cyfarfodydd lefel uchel
— Bwrdd y Gofrestrfa Tir
— Bwrdd y Gweithredwyr
— Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Busnes
— Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Cyflymedig
— Canllawiau cyfathrebu mewnol
— Canllawiau mewnol – Deddf Cofrestru Tir Act 2002
— Mynegai i Reolau a Deddfau Cofrestru Tir
— Cylchlythyr Gwybodaeth Mewnol

5. Ein polisïau a gweithdrefnau

— Rheoli risg
— Rheoli risg yn y Gofrestrfa Tir
— Iechyd a diogelwch
— Llawlyfr iechyd a diogelwch
— Datganiad polisi iechyd a diogelwch
— Adroddiad blynyddol iechyd a diogelwch
— Ynni a'r amgylchedd
— Datganiad polisi ar yr amgylchedd
— Adroddiad blynyddol ar yr amgylchedd
— ISO1400 - 1
— Cydraddoldeb ac amrywiaeth
— Asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb
— Llyfryn amrywiaeth ddiwylliannol
— Ystadegau monitro amrywiaeth cyffredinol
— Recriwtio
— Polisi rheoli staff contract
— Cyfleoedd gyrfa
— Ymarferion recriwtio
— Hyfforddiant
— Cymhwyster y Gofrestrfa Tir
— Prosiectau
— Adnoddau rheoli prosiectau
— Gwybodaeth porth
— Gwasanaeth cwsmeriaid
— Polisi Gofal am Gwsmeriaid
— Cwsmeriaid ag anghenion penodol
— Datganiad Safonau Gwasanaeth
— Polisi Ymgynghorol y Gofrestrfa Tir
— Cynllun Iaith Gymraeg
— Polisïau staff
— Llawlyfr staff
— Datganiadau polisi
— Polisïau rheoli cofnodion a data personol
— Datganiad polisi datgelu data
— Cyfundrefnau a pholisïau ffïoedd
— Gwasanaethau statudol ac anstatudol
— Gwasanaethau Pridiannau Tir
Credydau amaethyddol