Rhowch fantais i'ch cleientiaid gyda chofrestru gwirfoddol
Wyddech chi fod mwy na 30 y cant o dir Cymru a Lloegr yn ddigofrestredig? Mae cofrestru gwirfoddol yn cynnig prawf o berchnogaeth tir ac yn gwarchod yn erbyn llechfeddiant – felly gallwch helpu'ch cleientiaid trwy roi'r cyngor gwerthfawr hwn iddynt heddiw.
Ar y wefan hon, cewch wybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys rhesymau dros gofrestru ac astudiaethau achos sy'n edrych ar brofiad pobl eraill wrth gofrestru eu tir. Mae'n timoedd datblygu'r gofrestr yma hefyd i'ch tywys trwy'r broses.

