Bell Park Kerridge Solicitors, Carlisle
Mae Bell Park Kerridge yn gwmni o gyfreithwyr yn Cumbria, y sir sydd â'r canran uchaf o dir digofrestredig yn Lloegr.
Mae'n golygu bod llawer o waith i'w wneud ym maes cofrestru gwirfoddol, sy'n gallu ymddangos yn dipyn o her.
"Cumbria yw un o'r siroedd mwyaf gwledig yn Lloegr ac un o'r rhai olaf i wynebu cofrestru gorfodol," meddai'r Cyfreithiwr dan hyfforddiant Elizabeth Atkinson. "Felly mae llawer o waith i'w wneud."
Mae Bell Park Kerridge yn cyflogi 40 o bobl yn ei swyddfeydd yng Nghaerliwelydd a Cockermouth ac mae ganddynt restr gref o gleientiaid a adeiladwyd dros lawer o flynyddoedd.
Mae'r cwmni'n arbenigo mewn gwaith ystad ac amaethyddol ac mae cofrestru gwirfoddol wedi dod yn rhan hanfodol o hyn. Mae ffermwyr yn dechrau gweld manteision cofrestru teitl i'w tir.
Mae'r cwmni'n canolbwyntio ar ystadau ffermydd mawr a bu'n lledaenu neges cofrestru gwirfoddol yn rhai o sioeau amaethyddol y rhanbarth yn ystod yr haf eleni.
"Mae cofrestru'n gyfle da i ddatrys unrhyw broblemau gyda theitl i dir" meddai'r Partner Duncan Carter. "Gall hefyd symleiddio materion yn y dyfodol."

